Ryseitiau Er Mwyn Llwyddo: Bwyd hambwrdd gyda croutons caws
25 Gorffennaf 2022Cyfres o ryseitiau gan arbenigwyr yn y diwydiant bwyd a diod yw Recipes for Success. Wedi’i greu yn wreiddiol fel llyfr ryseitiau ar gyfer myfyrwyr newydd, mae cogyddion cyn-fyfyrwyr, blogwyr bwyd a pherchnogion bwytai yn hael yn rhannu eu ryseitiau blasus, hawdd eu gwneud. Darganfyddwch fwy am ein cyn-fyfyrwyr disglair yn y gegin wrth wneud rhywbeth blasus!
Dyma’r cogydd
Mae Jane Cook (BA 2008) yn flogiwr bwyd, podledydd ac ymgynghorydd cysylltiadau cyhoeddus llwyddiannus a astudiodd Lenyddiaeth Saesneg. Mae hi’n dwlu ar fwyd ac yn ysgrifennu am fwyd cynaliadwy a theithio ar ei blog, Hungry City Hippy. Mae ganddi lwyth o awgrymiadau ar gyfer bwyta ac yfed yng Nghaerdydd.
“Ro’ n i’n byw ar besto yn y brifysgol, ond trueni na ddywedodd rhywun wrtha i fod modd ei ddefny ddio i wneud mwy na phasta pesto a thiwna! Gyda’r rysáit hon gallwch ychwanegu tatws wedi’u deisio os ydych chi’n llwglyd iawn.”
Dewch i ni goginio…
Rhestr siopa
1 tun o ffacbys (chickpeas)
1 tun o domatos wedi’u torri
1 planhigyn wy (aubergine) bach
1 courgette canolig
1 winwnsyn/nionyn gwyn
ó llwy de o deim sych
1 llwy de o fasil sych
1 llwy de o oregano sych
ó llwy de o bersli sych
1 llwy de fawr o besto tomato (sundried sydd orau)
2 dafell o fara sych
Olew olewydd
Halen a phupur
Caws Parma (parmesan) (dewisol)
Bydd arnoch angen
Hambwrdd pobi mawr
Dull
Cam 1
Cynhesu’r ffwrn i 220˚C. Torri’r planhigyn wy, y courgettes a’r winwns/ nionod yn giwbiau bach a’u rhoi ar hambwrdd pobi mawr. Draenio’r ffacbys a’u rhoi ar yr un hambwrdd.
Cam 2
Ychwanegu’r perlysiau sych a rhoi sesnin o halen a phupur. Ysgeintio tipyn go lew o olew olewydd dros bopeth yn yr hambwrdd, yna cymysgu popeth i gael gorchudd cyfartal o olew a pherlysiau sych dros bopeth yn yr hambwrdd.
Cam 3
Ei roi yn y popty i’w rostio am 20 munud. Rhwygo neu dorri’r bara sych yn ddarnau tebyg eu maint. Ysgeintio olew olewydd dros y darnau bara a rhoi rhywfaint o bupur, cyn gorchuddio popeth â chaws Parma wedi’i gratio neu gaws arall.
Cam 4
Rhoi’r darnau bara ar hambwrdd pobi yn y popty am 10 munud. Yna tynnu’r hambwrdd llysiau a’r darnau bara (croutons), ychwanegu’r tomatos wedi’u torri, llwy de o besto tomato, a sudd hanner lemwn. Troi popeth gyda’i gilydd.
Cam 5
Rhoi’r hambwrdd yn ôl yn y popty am 10 munud arall. Pan fydd yn barod i’w weini, ei roi mewn powlenni ac ychwanegu caws Parma a phupur.
Dewisol
I wneud y rysáit hon yn un figan, defnyddio pesto figan a pheidio â rhoi caws Parma wrth weini.
Yn ôl ein profwr o Undeb Myfyrwyr, Charlotte Towlson (Gwleidyddiaeth a Hanes Modern 2019-) Dirprwy Lywydd Lles…
“Mae’r rysáit hon yn berffaith ar gyfer pan fydd angen bwyd cysur arnoch chi. Y peth gorau yw ei bod hi’n gyflym, yn iach, yn fforddiadwy ac yn flasus. Gwnewch yn siwˆr bod gennych ddysgl fawr i sicrhau bod y cynhwysion yn gallu digoni!”
Wedi mwynhau’r rysáit hon? Mae gennym lawer mwy o le y daeth honno yn Recipes for Success. Ewch amdani!
- Medi 2024
- Awst 2024
- Gorffennaf 2024
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Mawrth 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018