Skip to main content

Ryseitiau Er Mwyn Llwyddo

Ryseitiau Er Mwyn Llwyddo: Selsig llysieuol Morgannwg

25 Awst 2022

Cyfres o ryseitiau gan arbenigwyr yn y diwydiant bwyd a diod yw Recipes for Success. Wedi’i greu yn wreiddiol fel llyfr ryseitiau ar gyfer myfyrwyr newydd, mae cogyddion cyn-fyfyrwyr, blogwyr bwyd a pherchnogion bwytai yn hael yn rhannu eu ryseitiau blasus, hawdd eu gwneud. Darganfyddwch fwy am ein cyn-fyfyrwyr disglair yn y gegin wrth wneud rhywbeth blasus! 

Dyma’r cogydd

Rebecca Skelly (BA 2015) yw perchennog, cyfarwyddwr a chogydd y Fiery Celt, ar ôl iddi fod yn gweithio fel rheolwr marchnata. Astudiodd Sbaeneg ac astudiaethau Iberaidd yn ystod ei chyfnod fel myfyriwr, felly mae ei llwybr gyrfa wedi bod yn amrywiol ac yn ddiddorol (yn debyg iawn i’w bwyd!).

“Mae’r selsig traddodiadol Cymreig hyn yn llawn llysiau a chaws. Maen nhw’n cynnwys cennin Cymreig, llond y lle o gaws, tipyn go lew o bersli, wy a briwsion bara. Mae’n ffordd wych o ddefnyddio bara sych y byddech chi’n ei daflu fel arall!”

Dewch i ni goginio…

Rhestr siopa

500g o gennin

300g o gaws Cheddar cryf

3-4 tafell o fara

100g o friwsion bara

3 wy maes100g o flawd plaen

30g o bersli

1 winwnsyn/nionyn coch

Bydd arnoch angen

Sosban

Mandolin (dewisol) neu grafwr

llysiau

Cymysgydd bwyd

Padell ffrio

Dull

Cam 1

Sleisio’r cennin yn denau a’u ffrio mewn padell, gwneud yn siŵr nad ydyn nhw’n brownio (a chofio rhoi halen a phupur). Pan fyddan nhw wedi coginio, eu tynnu oddi ar yr hob a’u gadael i oeri.

Cam 2

Rhoi eich tafelli o fara yn y cymysgydd bwyd (neu brynu briwsion bara a thorri’r cynhwysion eraill yn fân) nes eu bod yn troi’n friwsion mân a rhoi 2/3 o’r persli wedi’i dorri’n fras yn y cymysgydd nes bod y cymysgedd yn troi’n wyrdd. Gratio eich caws a’i ychwanegu at y cymysgedd.

Cam 3

Ar ôl i’r cennin oeri, cyfuno eich cymysgedd briwsion bara â’r cennin ac ychwanegu un melynwy. Yna rhoi’r cymysgedd selsig yn yr oergell am awr.

Cam 4

Cymryd llond llaw fach o’r cymysgedd a’i wasgu’n siâp selsigen yn eich dwylo. Gorchuddio’r selsigen â blawd, yna ei dipio i mewn i ddau wy wedi’u curo. Ei rholio yn y briwsion bara. Dal ati fel hyn nes bod gennych 8 selsigen o’r un maint.

Cam 5

Cynhesu ychydig bach o olew mewn padell a ffrio’r selsig nes bod lliw euraidd ar y briwsion bara.

Dewisol

Rhoi llwyaid hael o ‘coleslaw’, gyda dwy selsigen euraidd a’u gweini gyda llysiau o’ch dewis, i amrywio’r rysáit glasurol hon.

Yn ôl ein profwr o Undeb y Myfyrwyr, Gina Dunn (Cerddoriaeth gyda Blwyddyn o Astudio Dramor 2018-) Dirprwy Lyw

ydd Addysg…

“Y peth gwych am y rysáit hon yw, yn hytrach na gwasgu’r cymysgedd yn selsig, os ydych chi’n ffansïo hynny, byddai hefyd yn hawdd i chi ei wasgu’n fyrgyr blasus neu’n beli cig!”\

Wedi mwynhau’r rysáit hon? Mae gennym lawer mwy o le y daeth honno yn Recipes for Success. Ewch amdani!