Skip to main content

Cyswllt CaerdyddI Gynfyfyrwyr, Gan GynfyfyrwyrNewyddionStraeon cynfyfyrwyr

Cwblhau fy PGDip tra’n byw gydag Endometriosis – I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr

12 Medi 2022

Myfyrwraig raddedig (PgDip 2022) a astudiodd Meddygaeth Newyddenedigol yw Nickie Broadbent a chafodd ddiagnosis o Endometriosis yn 2014. Mae’n rhannu ei phrofiad o gwblhau ei gradd yn ystod y pandemig wrth reoli ei chyflwr, manteision dysgu o bell, a’i chyngor i eraill a allai fod yn dioddef o Endometriosis.

Yn swyddogol, rwyf wedi bod yn dioddef gydag Endometriosis ers 7 mlynedd, ond dechreuais gael symptomau yn 15 oed, dim ond cwpl o flynyddoedd ar ôl i’m mislif ddechrau. Rydw i nawr yn 33 ac mae gen i gam pedwar Endometriosis (difrifol).

Endometriosis yw’r enw a roddir ar y cyflwr lle mae celloedd tebyg i’r rhai yn leinin y groth i’w cael mewn mannau eraill yn y corff. Bob mis mae’r celloedd hyn yn ymateb yn yr un ffordd i’r rhai yn y groth, yn cronni ac yna’n torri i lawr ond yn wahanol i’r rhai yn y groth nid oes ganddynt unrhyw ffordd uniongyrchol o adael y corff.

Mae tua 1.5 miliwn o fenywod a phobl a anwyd yn ferched yn y DU yn byw gyda’r cyflwr ar hyn o bryd.
Mae endometriosis yn ddi-baid ac nid yw’n hawdd ei reoli gan nad oes modd ei ragweld. Gallwch chi fod yn iawn rhai dyddiau ond ar adegau eraill rydych chi’n gaeth i’r gwely ac angen cymorth ysbyty.

Cefais fy ysbrydoli i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd oherwydd y modiwlau a gynigiwyd ar y cwrs a’r perthnasedd i ymarfer clinigol. Hefyd, arbenigedd y darlithwyr a’r ffaith eu bod i gyd yn gweithio’n glinigol yn y maes newyddenedigol.

Dechreuais fy nghwrs ym mis Medi 2020. Yn ffodus, roedd y cwrs eisoes wedi’i sefydlu i fod yn dysgu o bell ar-lein. Symudwyd y sesiynau wyneb yn wyneb i fod ar-lein hefyd. Roeddwn i’n gallu cymryd rhan mewn sesiynau Zoom, hyd yn oed os oeddwn i’n teimlo’n sâl. Roedd hynny’n ffodus, oherwydd efallai na fyddwn wedi gallu ymdopi â’r daith i Gaerdydd ar gyfer addysgu arferol.

Bu’n rhaid i mi ysgrifennu llawer o fy aseiniadau o’r gwely yn ystod cyfnodau poenus gyda chymorth potel dŵr poeth. Fodd bynnag, roedd yn braf cael cyfarfodydd rheolaidd ar-lein, gan fy mod yn gallu gweld fy nghydweithwyr a chyd-fyfyrwyr a chofio nad oeddwn ar fy mhen fy hun.

Roedd y Brifysgol yn cydnabod bod terfynau amser weithiau’n her, felly roeddent yn gallu cynnig estyniadau i mi. Roedd modd cysylltu â gweinyddwr y cwrs a fy nhiwtor personol drwy ebost unrhyw bryd, ac roeddwn yn teimlo fy mod yn cael llawer o gefnogaeth.

Roedd yn rhaid i mi fynd i’r ysbyty ar wahanol adegau a chael llawdriniaeth frys yn ystod y cyfnod hwn. Roedd yn unig yno gan nad oedden ni’n cael ymwelwyr. Rwy’n ddiolchgar iawn bod Wi-Fi yn yr ysbyty, felly llwyddais i gael negeseuon o’r cwrs a chymryd rhan mewn trafodaethau.

Mae bod yn agored am y cyflwr gyda theulu a ffrindiau wedi bod o gymorth mawr wrth i bobl ddechrau deall pam fy mod mewn poen neu’n teimlo’n sâl. Byddwn yn cynghori unrhyw un sydd â symptomau i gadw “dyddiadur poen” a’i ddefnyddio i wthio am driniaeth.

Nid wyf yn rhannu fy stori i gael cydymdeimlad, ond i adael i eraill wybod pa mor ddifrifol a dinistriol y gall Endometriosis fod – nid mislif gwael ydyw. Mae’n effeithio arnaf mewn sawl ffordd bob dydd o’r mis.
Mae fy ngwaith yn nyrs newyddenedigol yn y GIG wedi fy nysgu i beidio â rhoi’r gorau iddi, gan fy mod wedi gwylio fy nghleifion bach yn brwydro gyda chymaint o nerth.

Ar ôl fy llawdriniaeth, rwy’n gobeithio y byddaf yn gallu gwireddu fy uchelgais i ddod yn addysgwr ymarfer mewn uned newyddenedigol ac yn gallu ysbrydoli myfyrwyr ifanc sy’n dod drwy’r GIG bod rhagolygon gyrfa gwych ym maes nyrsio newyddenedigol.

Ar adegau roeddwn i wir eisiau rhoi’r gorau iddi. Roedd yn anhygoel cael yr ebost oedd yn dweud fy mod i wedi pasio. Mae’n dangos yr hyn y gallwch ei gyflawni wrth ddioddef o Endometriosis. Rwy’n hapus iawn fy mod wedi cael fy PGDip mewn Meddygaeth Newyddenedigol o Brifysgol Caerdydd.

Dywedwch wrthym beth sy’n bwysig i chi 

Rydym wedi cyflwyno ‘I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr’ gan nad oes neb yn adnabod ein cymuned o gynfyfyrwyr gystal â chi! Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych i gael eich syniadau ar gyfer erthyglau neu ddigwyddiadau ar-lein sydd o ddiddordeb i chi, neu rai y gallwch roi mewnwelediad iddynt, neu efallai mai CHI yw’r stori! Edrychwch ar ein rhestr lawn o erthyglau, a gwyliwch ein rhestr o ddigwyddiadau byw eto.