Skip to main content

#TeamCardiffCyswllt CaerdyddNewyddionStraeon cynfyfyrwyr

Rhedeg dros ymchwil iechyd meddwl – Gethin Bennett

20 Medi 2022

Mae Gethin Bennett (LLB 2015, PgDip 2016) yn rhedeg Hanner Marathon Caerdydd ym mis Hydref er cof am ei dad, a fu farw yn 2007 o ganlyniad i iselder. Cafodd Gethin yr ysfa i redeg tra’n astudio dramor yn 2016 ac mae wedi rhedeg yr hanner marathon ddwywaith o’r blaen. Mae’n rhannu ei awgrymiadau gyda’r rhai sy’n ystyried dechrau rhedeg yn ogystal â’r hyn y mae’n edrych ymlaen ato ar y diwrnod.

Dechreuais redeg pan oeddwn ar fy mlwyddyn Erasmus dramor yn Toulouse, Ffrainc ( yn 2016). Roeddwn dros bwysau gydag arferion gwael bryd hynny, ac felly penderfynais un bore roi trefn ar bethau – dechreuais gyda theithiau cerdded hir, yna symud ymlaen i loncian ysgafn, a gorffen gyda’r ysfa i redeg.

Ers hynny, mae rhedeg wedi bod yn donic i mi (wel, y math heb gin o leiaf!) ar gyfer lleddfu straen, cael yr hwb endorffin hwnnw, a gofalu am fy iechyd (corfforol a meddyliol) a lles yn gyffredinol.

Hwn fydd fy nhrydydd Hanner Marathon Caerdydd. Fe wnes i godi arian ar gyfer Mind y ddau dro diwethaf. Yn anffodus bu farw fy nhad yn 2007 o ganlyniad i iselder pan oeddwn yn 14. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydw i wedi ceisio codi arian i gefnogi elusennau a sefydliadau iechyd meddwl.

Gan fy mod yn un o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd, rwy’n cofio derbyn yr e-bost yn dweud y byddai cefnogaeth eleni yn cael ei neilltuo’n rhannol i ymchwil iechyd meddwl – felly roedd yn gwneud synnwyr i mi gofrestru a chefnogi fy hen brifysgol eleni!

Ar wahân i arholiadau a gwaith cwrs, mae gen i atgofion gwych o fy amser ym Mhrifysgol Caerdydd – ac rydw i wir yn gweld eisiau’r dyddiau hynny. Rydw i’n dod o Orllewin Cymru, felly roedd Caerdydd yn gydbwysedd perffaith o fod yn ddigon agos at adref ar gyfer ambell i olch dillad (diolch Mam!), ond yn ddigon pell i ffwrdd i fod yn annibynnol mewn dinas wych. Ers graddio, dwi wedi aros yng Nghaerdydd, ac allaf i ddim dychmygu byw yn unman arall.

O ran codi arian, rhoddais wybod i bawb ar lafar ac ar y cyfryngau cymdeithasol. Rhannais y neges ar Facebook, Twitter, Instagram, a LinkedIn, a gwnaeth yr arian lifo i mewn. Mae cael teulu enfawr o fantais hefyd!

Rwy’n ffodus fy mod yn gweithio i sefydliad sy’n wirioneddol hyrwyddo iechyd meddwl a lles ac mae gen i gydweithwyr gwych. Rydw i wedi cael llawer o gefnogaeth ganddynt sydd wedi bod o gymorth mawr wrth godi arian a hyfforddi.

Mae’r gefnogaeth gan Brifysgol Caerdydd wedi bod yn anhygoel! Rwy’n cael ebyst rheolaidd gan y tîm yn rhannu awgrymiadau, anogaeth, a chefnogaeth gyffredinol yn y cyfnod cyn y ras. Mae wedi gwneud y broses codi arian (a hybu morâl) yn llawer haws!

Os ydych chi’n rhedwr newydd neu’n meddwl ymuno â ras, rwy’n credu ei bod yn bwysig cymryd pethau gam wrth gam. Mae’n ystrydeb mor hen ag amser, ond am reswm da – peidiwch â rhedeg cyn y gallwch gerdded! Mae digonedd o ganllawiau gwych (ac yn rhad ac am ddim) ar-lein, gydag awgrymiadau ar ba bellteroedd i redeg a phryd, yn y cyfnod cyn yr Hanner Marathon.

Fel gydag unrhyw beth, fe sylwch po fwyaf y byddwch chi’n ymarfer, y mwyaf o gynnydd y byddwch chi’n ei weld. Mae’n anodd curo’r teimlad o falchder wrth sylweddoli pa mor bell rydych chi wedi dod ers i chi ddechrau hyfforddi.

Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at groesi’r llinell derfyn. Rwy’n mwynhau bwrlwm ac awyrgylch y diwrnod. O’i gymharu â’m llwybr rhedeg arferol (gyda defaid yn fy ngwylio), mae’n wych gweld cannoedd o gefnogwyr wedi ymgasglu i’ch cefnogi – ac mae’r jelly babies rhad ac am ddim yn help! Yn wir, yn ogystal â jelly babies, tua diwedd Hanner Marathon 2019, cefais dun oer o lager gan fyfyriwr caredig iawn ar Cathays Terrace – roedd yn wych i dorri syched, ond nid oedd o gymorth pan gefais boen sydyn yn ochr fy nghorff ( stitch) wrth i mi groesi’r llinell derfyn!

Os ydych yn ystyried codi arian ar gyfer ymchwil Prifysgol Caerdydd, gwnewch hynny! Yn amlwg, mae codi arian ar gyfer unrhyw elusen neu sefydliad pro-bono yn wych, ac nid yw ymchwil y Brifysgol yn wahanol. Rwy’n edrych ymlaen at weld canlyniadau terfynol gwaith caled y tîm.

Gallwch gefnogi ymdrechion codi arian Gethin drwy ei dudalen JustGiving. Oes gennych diddordeb rhedeg Hanner Marathon Caerdydd yn 2023? Mynegi eich diddordeb.

Mae gwaith codi arian #TeamCardiff yn cefnogi ymchwil Prifysgol Caerdydd i niwrowyddoniaeth, iechyd meddwl, a chanser. Drwy gefnogi’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr, gallwch helpu i gyflymu darganfyddiadau sy’n newid bywydau er mwyn gwella atal, diagnosis a thriniaeth i bobl sy’n byw gydag ystod eang o gyflyrau.