Skip to main content

#TeamCardiffCyswllt CaerdyddDonate

10 syniad i gael hwyl wrth godi arian

18 Awst 2022

P’un oeddech chi wedi cofrestru i redeg yn Hanner Marathon Caerdydd neu’n gwneud eich peth eich hun, rydyn ni wedi llunio rhai syniadau codi arian syml (a hawdd) fydd yn eich helpu i fynd ati i gyrraedd eich nod o ran codi arian.

Ond cyn i chi fynd ati’n ddiwyd, mae rhai rheolau i’w cofio. Os penderfynwch wneud unrhyw beth â bwyd, ystyriwch hylendid bwyd ac alergeddau. Ar gyfer unrhyw beth sy’n gysylltiedig â gamblo, gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen rheolau’r Comisiwn Gamblo cyn mynd yn eich blaen a chofiwch, os ydych yn gofyn am roddion yn gyfnewid am nwyddau neu wasanaethau, ni fydd y rhain yn gymwys ar gyfer Cymorth Rhodd.

 

1. Swîp codi arian

Gall hon fod yn gystadleuaeth hwyliog, gyfeillgar rhwng teulu, ffrindiau neu gydweithwyr. Dewiswch ddigwyddiad poblogaidd gyda llawer o gystadleuwyr neu dimau. Gofynnwch am rodd fach i gymryd rhan (er enghraifft £5) a dyrannwch wlad neu dîm ar hap. Os ydych yn ymgymryd â her, gallech ystyried swîp ‘Dyfalwch fy amser gorffen’ yn lle hynny.

Gallwch naill ai roi gwobr i’ch enillydd, neu gynnig rhan o’r arian a godir, ond gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw digon ar gyfer eich pot codi arian. Cofiwch wirio rheolau’r Comisiwn Gamblo cyn bwrw ymlaen.

2. Heriau ffordd o fyw

Os ydych chi’n rhywun sy’n brathu eich ewinedd, yn rhegi’n aml neu’n dymuno rhoi’r gorau i’r siocled neu’r diod am ychydig, heriwch eich hun i fynd hebddo. Gofynnwch i’ch ffrindiau a’ch teulu eich cefnogi trwy nawdd.

 

3. Noson cwis

Codwr arian clasurol a ffordd wych o ddod â theulu a ffrindiau at ei gilydd. Gallic ei gynnal yn rhithwir (ffordd wych o gynnwys pawb pell ac agos) neu yn bersonol, codi tâl mynediad i gymryd rhan a dyfarnu gwobr fach i’r enillwyr a chyflwyno’r llwy bren i’r collwyr! Os ydych chi’n cynnal cwis wyneb-yn-wyneb, beth am gynnal raffl ar y noson hefyd (gweler isod) i godi ychydig o bunnoedd ychwanegol.

 

 

4. Raffl

Llenwch hamper o bethau da (mae pawb wrth eu bodd â siocled!) Neu siaradwch â’ch tafarn, bwyty neu siop annibynnol leol am dalebau ar gyfer raffl. Yn y ffordd honno, yn ogystal â chodi arian, byddwch chi’n cefnogi busnes lleol sydd angen cymorth. Cofiwch wirio rheolau’r Comisiwn Gamblo cyn bwrw ymlaen.

 

 

5. Cynnal parti swper

Hoffi coginio? Beth am wahodd eich ffrindiau draw i fwynhau rhai o’ch hoff brydau a gofyn iddynt gyfrannu’r hyn y byddent yn ei wario ar fwyta allan i’ch pot codi arian. Os ydych chi awydd ychwanegu rhywfaint o gystadleuaeth gyfeillgar, beth am roi cynnig ar greu eich fersiwn eich hun o Come Dine With Me a rhoi sgôr i brydau eich gilydd ar y noson!

 

6. Gwerthu eich pethau diangen

Codwch arian a thacluso’ch cypyrddau ar yr un pryd. P’un a ydych chi’n dewis gwerthu ar-lein ar lwyfannau fel Ebay a Facebook Marketplace neu’n cynnal stondin werthu yn y gymuned, ni allai fod yn symlach mewn gwirionedd. Nid oes angen ugain pâr o sbectol haul na chrysau T llawes hir ar unrhyw un!

 

7. Ewch ati i fod yn greadigol

Gwnewch ddefnydd da o’ch creadigrwydd a’ch doniau a gwnewch grefftau cartref i eraill eu coleddu. P’un a ydych chi’n ddarpar artist, yn dda gyda set o nodwyddau neu’n uwch-gylchwr dawnus, mae’n ffordd wych o roi hwb i’ch codi arian tra’n gwneud rhywbeth rydych chi’n ei garu.

 

 

8. Codwch arian trwy bobi

Hen syniad ond syniad da! Rhowch y tegell ymlaen, glanhewch eich powlen gymysgu (neu ewch i’r siopau!) a chynhaliwch fore coffi neu werthwch gacennau. Codwr arian hawdd ei drefnu sy’n dod â ffrindiau, teulu a chydweithwyr ynghyd. Cofiwch ddilyny canllawiau hylendid bwyd– dim llyfu’r llwy!

 

9. Eillio barf / torri gwallt

Yn teimlo’n ddewr a ddim yn poeni am ddelwedd? Yna gallai hyn fod yn syniad da i godi arian. Os oes gennych lawer o flew ar eich wyneb, yna codwch arian a gweld faint o’ch ffrindiau anwylaf sy’n awyddus i gael gwared ar eu blew wyneb hefyd. Os nad oes gennych flew ar eich wyneb, yna torrwch eich gwallt uwch ben eich aeliau mewn steil anarferol – ac os ydych yn ddewr, yna gadewch i rywun sydd â synnwyr digrifwch ei dorri. A pheidiwch â phoeni, mae gwallt yn tyfu’n ôl!

 

10. Helfa sborion

Mae helfa sborion yn syniad codi arian gwych i blant ac oedolion gymryd rhan ynddo. Yn syml, rhowch restr o eitemau i bob person neu dîm i ddod o hyd iddynt mewn ardal benodol a gweld pwy all ddod o hyd iddynt i gyd yn yr amser cyflymaf. Gofynnwch am gyfraniad a gallwch roi gwobr o’ch dewis i’r enillwyr. Gwarant o hwyl a chwerthin i bawb.