Skip to main content

Ryseitiau Er Mwyn Llwyddo

Ryseitiau Er Mwyn Llwyddo: Pilaf madarch a phys

25 Mehefin 2022

Cyfres o ryseitiau gan arbenigwyr yn y diwydiant bwyd a diod yw Recipes for Success. Wedi’i greu yn wreiddiol fel llyfr ryseitiau ar gyfer myfyrwyr newydd, mae cogyddion cyn-fyfyrwyr, blogwyr bwyd a pherchnogion bwytai yn hael yn rhannu eu ryseitiau blasus, hawdd eu gwneud. Darganfyddwch fwy am ein cyn-fyfyrwyr disglair yn y gegin wrth wneud rhywbeth blasus! 

Dyma’r cogydd

Mae Beca Lyne-Pirkis (BMus 2004) yn awdur ac yn ddarlledwr, cyrhaeddodd rownd derfynol rhaglen Great British Bake-Off. Ond cyn hynny i gyd, roedd hi’n fyfyriwr cerddoriaeth yn byw yn Ne Tal-y-bont a rhedodd am Gadair IMG gyda’r slogan enwog: “Beca’s got balls”. Mae hi’n hoffi bod yn greadigol wrth goginio ac roedd hi eisiau rhannu’r rysáit hawdd hon i’ch rhoi chi ar ben y ffordd.

“Dyma rysáit gyflym rwy’n ei gwneud pan fydda’ i ar fy mhen fy hun gan ei bod yn syml ac yn flasus. Gallwch rostio’r madarch ac ychwanegu unrhyw gyw iâr dros ben sydd gennych. Dwi’n dwlu ar fadarch a phys, felly dwi’n cadw fy rhai i ar gyfer y rysáit syml yma.”

Dewch i ni goginio…

Rhestr siopa

200g o reis

1 llwy fwrdd o olew

150g o fadarch,

wedi’u torri’n chwarteri

200g o bys wedi’u rhewi

2 ewin o arlleg, wedi’u sleisio

5 o shibwns/shalóts, wedi’u sleisio’n

denau

Halen a phupur

Bydd arnoch angen:

Sosban

Padell ffrio

Dull

Cam 1

Coginio’r reis yn ôl y pecyn – gallwch ddefnyddio grawn gwyn, brown, hir neu basmati, reis wedi’i rewi neu reis microdon – beth bynnag sy’ yn y gegin.

Cam 2

Pan fydd y reis wedi’i goginio, draenio’r dŵr a chadw’r reis ar naill ochr.

Cam 3

Ychwanegu’r olew at badell ffrio ac ychwanegu’r madarch wedi’u torri, y pys a’r garlleg a phinsiad da o halen.

Cam 4

Tro-ffrio dros wres canolig i uchel nes bod lliw ar y madarch, a’r pys wedi’u coginio. Ychwanegu’r reis a throi er mwyn cyfuno popeth, gan wresogi nes ei fod yn boeth iawn. Profi er mwyn gwirio’r sesnin, gan ychwanegu rhagor o halen a phupur os oes angen.

Cam 5

Rhannu’r reis rhwng pedwar plât a’i weini gyda rhai shibwns/shalóts wedi’u taenu drosto. Gwych ar ei ben ei hun neu gyda chig neu bysgod.

Dewisol

Defnyddio madarch a phys wedi’u rhewi neu o dun. Os yw’r cynhwysion yn y rhewgell neu’r cwpwrdd bob amser, gallwch chi wneud y pryd hwn ar frys neu pan fyddwch chi’n llwglyd!

Yn ôl ein profwr o Undeb y Myfyrwyr, Orla Tarn (BSc 2019, MSc 2021) Dirprwy Lywydd Ôl-raddedig…

“Mae hwn yn bryd cyflym a hawdd ond hefyd yn ginio i ddefnyddio ‘popeth sydd dros ben’ – gallech chi daflu unrhyw beth i mewn o’ch oergell y mae angen ei fwyta, a byddai’n wych!”

 

Wedi mwynhau’r rysáit hon? Mae gennym lawer mwy o le y daeth honno yn Recipes for Success. Ewch amdani!