
Mae rhai o aelodau cymuned o gynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd wedi’u hanrhydeddu yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines.
Dyfarnwyd Cydymaith er Anrhydedd (CH) i’r darlunydd a’r awdur Syr Quentin Blake CBE (Anrhydeddus 2006) am ei wasanaethau i fyd darlunio.
Dyfarnwyd Marchog Baglor i Syr Paul Phillips CBE (BSc 1979, PhD 1990), Pennaeth a Phrif Weithredwr Coleg Weston yng Ngogledd Gwlad yr Haf am ei wasanaethau i Addysg Bellach.
Dyfarnwyd CBE i’r Athro Aled Phillips (BSc 1983), Athro Arenneg ym Mhrifysgol Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, am ei wasanaethau i Feddygaeth Arennol.
Dyfarnwyd OBE i Zoe Couzens (MPH 2012), Pennaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru am ei wasanaethau i Iechyd y Cyhoedd yn ystod COVID-19.
Dyfarnwyd OBE ar gyfer Gwasanaeth Cyhoeddus i Huw David (BScEcon 1998), Cynghorydd ac Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Dyfarnwyd OBE i Marc Donovan (BPharm 1995, PGDip 2001, PGDip 2004), Prif Fferyllydd Boots am ei wasanaethau i Fferylliaeth.
Dyfarnwyd OBE i Andrew Evans (MPH 2015), Prif Swyddog Fferyllol Llywodraeth Cymru am ei wasanaethau i’r Ymateb i COVID-19.
Dyfarnwyd MBE i Dr Rizwan Ahmed (PGCert 2011) Meddyg Anadlol Ymgynghorol yn Ymddiriedolaeth Sefydliad GIG Bolton am ei wasanaethau i Iechyd y Cyhoedd yn ystod COVID-19.
Dyfarnwyd MBE i Susan Doheny (Diploma 1999) Prif Nyrs Ranbarthol y De-orllewin yn GIG Lloegr a Gwella’r GIG am ei gwasanaethau i Nyrsio.
Dyfarnwyd MBE i Robert Quest (BSc 1981) Pennaeth y Ganolfan Derbyn Anifeiliaid ym Maes Awyr Heathrow Llundain am ei wasanaethau i Iechyd a Lles Anifeiliaid.
Dyfarnwyd Medal Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (BEM) i Naomi Lea (BSc 2020), sy’n wirfoddolwr, yn ymgyrchydd ac yn Ymddiriedolwr ar gyfer nifer o elusennau gan gynnwys yr NSPCC a Step up To Serve, am ei gwasanaethau i Bobl Ifanc, yn enwedig yn ystod COVID-19.
Rydym mor falch o’n cymuned o gynfyfyrwyr yng Nghaerdydd. Llongyfarchiadau mawr i bawb sydd wedi’u cydnabod am eu hymroddiad a’u cyflawniadau.