Skip to main content

#TeamCardiffCyswllt CaerdyddNewyddionStraeon cynfyfyrwyr

Cofio Reesh – dweud ‘ie’ i fywyd a rhedeg Hanner Marathon Caerdydd

25 Mai 2022
Laura Stephenson

Mae Laura Stephenson (BA 2008) wedi cofrestru i redeg Hanner Marathon Caerdydd ym mis Medi er cof am ei ffrind, Areesha. Mae hi’n codi arian ar gyfer ymchwil canser Prifysgol Caerdydd a chafodd ei hysbrydoli gan gryfder ei ffrind yn wyneb diagnosis dinistriol, ac agwedd ‘dweud ie i bopeth’.

Roeddwn i’n actif ac yn hoffi chwaraeon o oedran ifanc. Roeddwn hefyd – ac yn parhau i fod – yn hynod gystadleuol. O feicio, llafnrolio, pêl-droed, pêl-rwyd a hoci – enwch gamp, mi wnes i roi cynnig arni. Yr unig beth na wnes i roi cynnig arno oedd rhedeg. Nid oedd rhedeg at fy nant i.

Pan roeddwn yn 23 oed, mi wnes i ddarganfod camp o’r enw Ras Sglefrolio (Roller Derby) sydd yn gamp gyswllt lawn a chwaraeir ar esgidiau sglefrio cwad. Chwaraeais y gamp hon am chwe blynedd. Yn ogystal â gwella fy nghryfder a ffitrwydd, mi wnes i gwrdd â grŵp arbennig o ffrindiau. Cawsom ein taflu at ein gilydd fel cyd-chwaraewyr, ond rydym wedi aros yn agos. Rydym yn fwy na ffrindiau sglefrio, rydym yn ffrindiau agos. Rydym wedi sefyll ochr yn ochr â’n gilydd wrth i ni briodi a chael plant, wedi bod yno i’n gilydd trwy dorcalon a phrynu tai ac, yn fwyaf diweddar, wedi cysuro ein gilydd ar ôl colli un o’n criw, Areesha (Reesh). Roedd hi’n 35 oed.

Grym oedd Reesh. Roedd hi’n uchelgeisiol, yn hyderus ac yn gystadleuol. Roedd hi’n swnllyd, yn ddramatig, yn siaradus, ac yn ddiymdrech o ddoniol – fel arfer pan nad oedd unrhyw reswm i fod. Roedd hi’n gallu bod yn hi ei hun heb orfod ymddiheuro ac roedd hi’n gwneud ffrindiau gyda phawb roedd hi’n ei chyfarfod. Roedd Reesh yn manteisio ar bob cyfle a roddwyd iddi. Hi yw’r unig berson dwi’n ei nabod sydd wedi cael nifer o wyliau unwaith-mewn-oes ac sydd methu’n lân a gwybod beth yw FOMO gan nad oedd hi byth yn methu allan ar unrhyw beth! Rwyf mor falch ei bod wedi byw felly.

Ym mis Mawrth 2021, cafodd Reesh ddiagnosis o diwmor ar yr ymennydd. Credai mai’r ffordd orau o wynebu triniaeth oedd meddwl yn gadarnhaol. Ac, ar yr arwyneb o leiaf, fe wnaeth hi. Canolbwyntiodd yn llwyr ar godi arian ar gyfer elusennau ac archwilio triniaethau a allai fod o gymorth. Ni oedd ei chefnogwyr – roedden ni’n gadarnhaol ar y diwrnodau lle nad oedd hi’n gallu bod ac yn dal i wneud y pethau ‘normal’. Doedd hi ddim eisiau cael ei diffinio gan ei salwch, felly fe wnaethon ni wneud yn siŵr nad oedd hi.

Yn anffodus, ar 19 Chwefror 2022, bu farw Reesh. Dydw i erioed wedi teimlo colled o’r fath. Ni allaf ddod â fy hun i ddweud ei bod wedi ‘colli’ ei brwydr â chanser oherwydd nid wyf yn hoffi goblygiadau’r geiriau hynny. Pe bai canser yn beth y gellid ei guro, yna byddai rhywun â chryfder a phenderfyniad Reesh yn gallu ei guro. Ac o fewn ein grŵp o ffrindiau, gan gynnwys rheolwyr, hyfforddwyr, peirianwyr, strategwyr ac ystadegwyr, byddem wedi meddwl am gynllun a’i gyflawni. Ond nid dyna sut mae hyn yn gweithio.

Wedi fy ysbrydoli gan agwedd gadarnhaol Reesh i fanteisio ar bopeth a ddaw fy ffordd i ac ar ôl sylweddoli pa mor fyr yw bywyd, sylweddolais fy mod wedi bod yn cymryd fy iechyd a’m lles yn ganiataol. Rwyf, felly, wedi cofrestru ar gyfer rhedeg yr hanner marathon gyda #TeamCardiff i godi arian dros ymchwil canser (roeddwn hefyd ychydig yn genfigennus o gyflawniadau’r rhai a redodd yr hanner marathon ym mis Mawrth (sylwch, dyna fy elfen gystadleuol!)).

Laura Stephenson trainingAr wahân i wneud Couch i 5k ddiwedd 2021, a hyd yn oed ar ôl hynny dychwelais i’r soffa, nid wyf erioed wedi rhedeg o’r blaen. Nid wyf yn rhedwr. Fodd bynnag, rwy’n cael fy ngyrru ymlaen gan nodau. Os byddaf yn gosod nod i fy hun, byddaf yn ei gyflawni. Roedd meddwl am yr holl hyfforddiant yn frawychus i ddechrau, ond rwyf wedi ailymweld â rhediadau C25K, dod o hyd i gynllun hyfforddi wedi’i deilwra, ac mae rhywun o’n grŵp ni wedi cytuno i redeg gyda mi. Fe ysgogodd yr olaf i mi ddechrau cyfeirio at yr hanner marathon fel ras! Rwyf hyd yn oed wedi troi fy ymdrechion codi arian yn gystadleuaeth.

Rwyf wedi cael fy syfrdanu gan haelioni’r rhai sydd wedi rhoi yn barod. Mae’n ychwanegu tanwydd ychwanegol at fy nhân ar y dyddiau hynny lle nad wyf eisiau gwisgo fy esgidiau rhedeg, neu pan mae dechrau pennod newydd ar Netflix yn llawer mwy apelgar na’r ysfa i fynd allan i redeg. Rydw i wedi cael cyngor gwych gan ffrindiau am amrywio fy llwybrau rhedeg fel nad ydw i’n diflasu, yn ogystal â gwrando ar bodlediadau ar gyfer rhediadau hirach ac arbrofi gyda maeth hefyd. Rwyf wedi dod o hyd i rai cymunedau rhedeg gwych ar Twitter.

Mae’n gyffredin i bobl sy’n mynd yn sâl neu sy’n cael newyddion sy’n newid bywyd ysgrifennu rhestr o’r hyn y maent eisiau ei gyflawni. Nid oedd Reesh angen gwneud hynny oherwydd dyna sut roedd hi’n byw beth bynnag. Rwy’n meddwl bod hynny’n wers i ni gyd, ac rwy’n gobeithio mai cofrestru i redeg yr hanner marathon yw’r cam cyntaf ar fy nghenhadaeth i #BeMoreReesh.

Gallwch gefnogi ymdrechion codi arian Laura drwy ei thudalen JustGiving

Os hoffech chi redeg Hanner Marathon Caerdydd er cof, dathliad, neu i roi her i chi’ch hun a chadw’n heini, gwnewch gais am le elusennol #TeamCardiff rhad ac am ddim.

Mae gwaith codi arian #TeamCardiff yn cefnogi ymchwil Prifysgol Caerdydd i niwrowyddoniaeth, iechyd meddwl, a chanser. Drwy gefnogi’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr, gallwch helpu i gyflymu darganfyddiadau sy’n newid bywydau er mwyn gwella atal, diagnosis a thriniaeth i bobl sy’n byw gydag ystod eang o gyflyrau.