Skip to main content

Cyswllt Caerdydd

Cyflwyno… y Gwobrau (tua) 30

25 Mai 2022

Bydd y Gwobrau (tua) 30 yma cyn hir, ond beth yn union ydyn nhw? Barry Sullivan, Dirprwy Gyfarwyddwr Cysylltiadau Cefnogwyr a Phennaeth Cysylltiadau Cynfyfyrwyr a Chefnogwyr, sy’n ein tywys drwy’r syniad y tu ôl i’r cynllun gwobrwyo hwn – cynllun sy’n gwneud pethau ychydig yn wahanol.

Mae rhestrau – 30 o bobl dan 30 oed (30 under 30s) – yn très cliché. Rydym yn sefydliad blaenllaw ar gyfer addysg uwch. Rydyn ni’n gwrthod cael ein cyfyngu gan rifau di-ystyr. Ac fel y bobl rydyn ni’n eu dathlu, sy’n torri’r rheolau ac yn arloeswyr, rydyn ninnau’n gwneud pethau mewn ffordd ychydig yn wahanol. Dyma gyflwyno: Gwobrau (tua)30.

“Beth os ydw i’n 34?” Rwy’n eich clywed yn gofyn. “Dim probs” yw fy ateb i.

“Sut y byddwch chi’n dewis dim ond 30 enillydd?” yw’ch geiriau nesaf. “Meh” (ni).

“Alla’i fy enwebu fy hun?” (rwy’n gobeithio mai hwn yw eich cwestiwn olaf)… “Yn sicr” Rwy’n pwysleisio fy ateb. “Byddwch yn falch o’r effaith rydych chi’n ei chael a chodwch eich llais amdani!”

Mae’r Gwobrau (tua)30 yn gyfle i’r Brifysgol gydnabod y cynfyfyrwyr ifanc(ish) arloesol sy’n ysgwyd seiliau’r status quo er mwyn cael effaith gadarnhaol ar eu cymuned. Rydym yn chwilio am straeon ysbrydoledig ynghylch pobl sy’n newid y drefn ac yn creu llwybrau newydd, ac yn arddangos beth mae’n ei olygu i fod yn un o bobl prifysgol Caerdydd.

Cadwch lygad am ein cyhoeddiad ddiwedd mis Mehefin pan fydd ceisiadau ac enwebiadau yn agor. A rhowch y dyddiad yn eich calendr: Dydd Iau 20 Hydref 2022. Mae rhoi’r dyddiad yn eich calendr ar gyfer seremoni wobrwyo nad ydych chi hyd yn oed wedi gwneud cais amdani eto, yn weithred sy’n mynegi hyder go iawn, ac rydyn ni’n parchu hynny!

Bydd hon yn noson fydd yn digwydd WYNEB YN WYNEB*, a bydd yn gyfle i ddathlu a rhwydweithio gyda gwneuthurwyr-gwahaniaeth eraill o Gaerdydd… ac rydyn ni’n edrych ymlaen at eich gweld chi yno.

*Gan gadw ein bysedd wedi’u croesi’n dynn na fydd unrhyw gyfyngiadau