Skip to main content

Bossing ItCyswllt CaerdyddNewyddion

Cael eich troed yn y drws – Bossing It

23 Mai 2022
Bossing It - Getting your foot in the door

Gall dechrau yn y ‘byd go iawn’ ar ôl graddio ymddangos yn frawychus, a chanfod (a sicrhau) y swydd berffaith honno, yn dasg amhosibl. Rydym wedi siarad â chynfyfyrwyr o Gaerdydd sy’n dechrau ar eu gwaith o lywio llwybr eu gyrfa fel graddedigion newydd. Dyma eu cynghorion ar gyfer cael eich troed yn y drws…

Imogen Carter (BSc 2018)Imogen Carter (BSc 2018)

Mae Imogen yn Gyfrifydd Siartredig sydd wedi cymhwyso’n llawn. Treuliodd dair blynedd yn hyfforddi yn KPMG, a hynny’n rhan o’r cynllun i raddedigion. Mae bellach yn Uwch Ddadansoddwr Cyllid ar y Tîm Dychweliadau yn ASOS. O ganlyniad i’w blwyddyn ar leoliad ym Mhrifysgol Caerdydd, lle bu’n Intern Cyllid yn Walt Disney Company a mwynhau’n fawr, neidiodd o faes archwilio a chyfrifo ariannol i faes cyllid masnachol.

Ymgeisiwch ymgeisiwch ymgeisiwch!
Gall ymgeisio am swydd fod yn rhywbeth hynod ddiflas sy’n cymryd llawer iawn o amser (credwch chi fi, rwy’n gwybod). Fodd bynnag, os cymerwch yr amser yn gwneud ymdrech ar bob cais, gan sicrhau eich bod yn ei deilwra i’r rôl/cwmni dan sylw, ni fyddwch wedi gwastraffu eich amser! Yn fy mhrofiad i, roedd ceisiadau brysiog ac amhersonol yn cael eu gwrthod bob tro, tra bod y ceisiadau y cymerais ofal drostynt yn symud ymlaen i’r cam nesaf bob tro. Hyd yn oed os na fyddwch yn llwyddiannus yn nes ymlaen, rydych yn cael profiad gwerthfawr o symud drwy wahanol gamau gwahanol brosesau recriwtio, a fydd yn eich helpu i lwyddo yn y pen draw.

Recriwtwyr yw eich ffrindiau gorau newydd.
Efallai eu bod yn gorlwytho eich mewnflwch LinkedIn, ond hebddynt, ni fyddwn gydag ASOS heddiw. Maent yn gweithio’n galed i ddod o hyd i swyddi a fydd yn amlygu eich sgiliau, yn ogystal â chwilio am swyddi y byddwch yn eu hoffi. Os na fyddant yn cysylltu â chi i ddechrau, sicrhewch eich bod yn gwneud pob ymdrech i gysylltu â nhw. Er hynny, peidiwch â bod ofn dweud eich barn! Os byddant yn anfon manyleb swydd atoch nad ydych yn ei hoffi, dywedwch wrthynt! Mae hynny’n eich helpu i hidlo swyddi anaddas a dod o hyd i’r swydd berffaith yn gyflymach.

Oes gennych chi gwestiwn i Imogen? Gallwch gysylltu â hi ar Gysylltiad Caerdydd.

Nicole Jay (BA 2018, MA 2022)Nicole Jay

Mae Nicole yn Weithredwr Cyfrifon Digidol yn Helpful Digital, sy’n asiantaeth cysylltiadau cyhoeddus. Mae’n rheoli hyfforddiant ar gyfathrebu a rheoli argyfyngau i sefydliadau preifat a chyhoeddus ledled y byd. Mae ganddi MA mewn Cysylltiadau Cyhoeddus Rhyngwladol a BA mewn Ffrangeg ac Almaeneg.

Peidiwch â theimlo eich bod ar ei hôl hi
Gall graddio deimlo’n debyg i ras i weld pwy all sicrhau’r swydd orau’n gyntaf. Os ydych yn gwybod yn barod beth rydych am ei wneud, mae hynny’n wych, ond mae’n iawn hefyd os nad oes gennych syniad. Ar ôl i mi orffen astudio ar gyfer fy ngradd gyntaf, rhoddais gynnig ar amrywiaeth o swyddi gwahanol, cyn sylweddoli bod cysylltiadau cyhoeddus yn rhywbeth roeddwn yn ei fwynhau. Felly, penderfynais ddechrau ar fy ngyrfa ym maes cyfathrebu proffesiynol. Mae mor bwysig cymryd yr amser i roi cynnig ar bethau gwahanol, darganfod beth rydych yn frwd drosto a nodi pa fath o amgylchedd sy’n addas i chi.

Ewch ati i feithrin cysylltiadau
Peidiwch ag ofni estyn allan! Mae meithrin cysylltiadau’n bwysig, ac mae’r rhan fwyaf o bobl yn fwy na pharod i helpu! Dechreuais astudio ar gyfer fy MA heb unrhyw brofiad blaenorol. Roedd LinkedIn mor ddefnyddiol ar gyfer meithrin cysylltiadau yn y diwydiant a gofyn cyngor y rhai a oedd yn dal swyddi proffesiynol yn barod. Gwnaeth un ymarferydd cysylltiadau cyhoeddus fy helpu i ailysgrifennu fy CV i gyd-fynd â’r math o swydd a apeliodd ataf, gan gynnwys mynd drwy gwestiynau cyfweliad. Gwnaeth hynny i gyd fy helpu cymaint i sicrhau’r swydd sydd gennyf heddiw.

Oes gennych chi gwestiwn i Nicole? Gallwch gysylltu â hi ar Gysylltiad Caerdydd. Mae ein platfform rhwydweithio i gynfyfyrwyr hefyd yn eich galluogi i ddod o hyd i gynfyfyrwyr eraill sy’n gweithio yn eich diwydiant neu’r sefydliad o’ch breuddwydion er mwyn i chi allu gofyn cwestiynau iddynt, creu cysylltiadau â nhw neu weld a fyddent yn cynnig gwasanaeth mentora.

Marielle Wilkinson (BA 2017, MA 2018)Marielle Wilkinson (BA 2017, MA 2018)

Mae Marielle yn Gynhyrchydd Cynorthwyol sy’n gweithio ar gyfres i National Geographic ar hyn o bryd. Mae’n cyfuno straeon a ffilmiwyd dros y byd i gyd ac yn goruchwylio cynyrchiadau o’r dechrau i’r diwedd. Yn flaenorol, mae wedi bod yn Ymchwilydd ac yn Gyfieithydd i’r BBC, Netflix a sianel YouTube swyddogol y Gemau Olympaidd.

Chwiliwch am brofiadau yn eich diwydiant dewisol
Roedd mynd i gymaint o ddosbarthiadau meistr ag y gallwn ym maes y cyfryngau o fudd mawr i mi. Mae gweithwyr llawrydd profiadol hefyd yn mynd i’r rhain, a gallwch hefyd gwrdd ag unigolion profiadol eraill yn eich diwydiant. Mae dosbarthiadau meistr yn ffordd wych o gael siarad â gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant sydd yno i ateb eich cwestiynau â pharodrwydd. Manteisiwch arnynt! Ymhlith sefydliadau’r cyfryngau yng Nghaerdydd sy’n trefnu’r rhain yw BAFTA Cymru, Caerdydd Creadigol a ScreenSkills.

Byddwch yn dryloyw
Yn ansicr sut i wneud rhywbeth? Gofynnwch! Peidiwch ag esgus eich bod yn gwybod! Bydd bod o ddifrif a dangos parodrwydd i ddysgu’n gwneud i chi sefyll allan i’ch cyflogwr, a fydd yn eich helpu i ddatblygu yn eich gyrfa. Os na ofynnwch am gymorth, ni chewch mohono!

Oes gennych chi gwestiwn i Marielle? Gallwch gysylltu â hi ar Gysylltiad Caerdydd.

Mae cymuned Prifysgol Caerdydd yn griw sy’n barod iawn eu cymwynas ac yma i’ch helpu yn eich gyrfa ddewisol. Gallwch bori drwy eu cyngor a’u hawgrymiadau ar ystod eang o bynciau busnes yn ein cyfres ‘Bossing It’.