Skip to main content

Cyswllt CaerdyddNewyddionWomentoring

Menywod sy’n mentora ‘22 – Cysylltu cyn-fyfyrwragedd Caerdydd â’i gilydd drwy fentora

27 Ebrill 2022
Woman using a laptop in an office

Yn ystod mis Mawrth, i ddathlu Mis Hanes Menywod, cynhaliwyd ein digwyddiad fflach-fentora blynyddol ar gyfer cyn-fyfyrwragedd Caerdydd, sef Menywod sy’n mentora.

Daethon ni â 22 o gyn-fyfyrwragedd llwyddiannus Caerdydd a ddewiswyd yn ofalus yn fentoriaid at ei gilydd, i rannu eu profiad a’u harbenigedd gwerthfawr. Mae ein mentoriaid, sydd ar frig eu maes mewn diwydiannau megis y gyfraith, technoleg, cyllid, marchnata, recriwtio, gwyddorau bywyd a’r trydydd sector, wedi cefnogi ein mentoreion mewn digwyddiadau rhithwir, sesiynau grŵp a chyfarfodydd un i un.

Cafodd ein 62 o fentoreion ar ddechrau eu gyrfa’r cyfle i ddatblygu eu gwybodaeth, meithrin rhwydweithiau, gofyn cwestiynau, a chael sawl cipolwg ar y diwydiant. Drwy eu cysylltu’n uniongyrchol â chyn-fyfyrwragedd llwyddiannus Caerdydd, rydyn ni’n grymuso graddedigion benywaidd o Gaerdydd i gyflawni eu potensial llawn.

Dyma’r hyn roedd gan rhai o’n mentoreion i’w ddweud;

“Cefais fy mharu â mentor a oedd mor wych, ac rydyn ni’n mynd i gadw mewn cysylltiad â’n gilydd . Mae cwrdd â menyw arall yn fy maes cystadleuol a heriol a chlywed am ei phrofiadau a’r heriau y mae wedi’u goresgyn wedi bod mor ddefnyddiol.”

Lucy Sutcliffe (LLB 2013)
Cyfreithiwr Cyswllt yn Osborne Clarke, wedi’i mentora gan Carolyn Pepper (LLB 1993, PGDip 1994), Partner yn Reed Smith.

“Roedd y profiad yn wych ac rwy’n hynod ddiolchgar i’r rhaglen Menywod sy’n mentora am fy nghysylltu â’m mentor ysbrydoledig.”

Lauren Sourbutts (BA 2013)
Swyddog Cyfathrebu, Prifysgol Caerdydd, wedi’i mentora gan Amanda Cairo (MA 2001), Rheolwr Cyfathrebu yn UC Berkeley.

“Des i ymlaen yn dda iawn gyda fy mentor. Gofynnodd hi gwestiynau craff gan roi cyngor cadarn. Gwnes i fwynhau’r sesiynau mentora mewn grŵp yn fawr wrth iddyn nhw roddi sicrwydd imi nad ydw i ar fy mhen fy hun yn fy nheimladau ac oherwydd hynny ces i hwb mawr wrth edrych ymlaen tuag at y dyfodol.”

Lea Sanford-Opatz (myfyriwr Erasmus 2015)
Lea Sanford-Opatz, (myfyriwr Erasmus 2015), Seicolegydd Cynorthwyol yn GIG Cymru, wedi’i mentora gan Anne Hill (BSc 1980), Uwch Is-lywydd a Phrif Swyddog Adnoddau Dynol yn Avery Dennison (Wedi Ymddeol).

Rydyn ni mor ddiolchgar i’n holl fentoriaid a roddodd o’u hamser i gefnogi’r genhedlaeth nesaf o Brif Weithredwyr, cyfarwyddwyr, llywyddion a phartneriaid benywaidd, trwy rannu eu harbenigedd a’u profiad.

Os ydych chi’n gyn-fyfyrwraig o Gaerdydd sy’n awyddus i ddod o hyd i rywun arall sydd wedi graddio neu i fod yn fentor, mae ein platfform rhwydweithio i gyn-fyfyrwyr Cysylltiad Caerdydd yn eich helpu i ddod o hyd i’r person cywir. Mae cofrestru’n gyflym ac yn hawdd, a gallwch chi hidlo yn ôl y diwydiant a’r lleoliad i chwilio am y rheiny sydd naill ai’n cynnig helpu neu’n gofyn am gymorth.

Mae yna hefyd lawer o ffyrdd eraill y gallwch chi wirfoddoli eich amser a’ch arbenigedd i helpu i ysbrydoli a chefnogi’r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr a chyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd.