Skip to main content

Cyswllt CaerdyddI Gynfyfyrwyr, Gan GynfyfyrwyrNewyddionStraeon cynfyfyrwyr

O lawfeddyg i Brif Swyddog Gweithredol technoleg: pam wnes i newid fy ngyrfa i helpu i achub y GIG – I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr

20 Ebrill 2022
Owain Rhys Hughes (MBBCh 2005)

Llawfeddyg clust, trwyn, gwddf (ENT) yw Dr Owain Rhys Hughes (MBBCh 2005). Mae’n entrepreneur technoleg iechyd llwyddiannus, ac mae ei fenter Cinapsis yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng ôl-groniad presennol yn y GIG ac yn lleihau gorludded ar draws y gweithlu gofal iechyd. Mae’n rhannu ei brofiad o droi gyrfa, pwysigrwydd cydweithredu a sut mae gwneud newid go iawn yn bosibl.

Pan gyrhaeddais i Gaerdydd yn 1999 yn fyfyriwr cyffrous i astudio Meddygaeth, roeddwn i’n meddwl mai bod yn feddyg fyddai fy nghyfle gorau i gael effaith gadarnhaol yn y GIG. Fodd bynnag, yn fuan newidiais fy meddwl!

Ychydig o flynyddoedd yn ddiweddarach, ar ôl graddio, teithiais ar draws Cefnfor yr Iwerydd i astudio yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Harvard gyda lleoliad yn Ysbyty Llygaid a Chlustiau byd-enwog Massachusetts. Roedd hwn yn brofiad gwirioneddol anhygoel, a dysgais lawer iawn gan rai o feddygon mwyaf talentog y byd. Dychwelais adref yn ddiweddarach, i weithio’n llawfeddyg ENT yn y GIG, ac wrth weithio yn gofrestrydd yn Ymddiriedolaeth Sefydledig y GIG yn Royal Marsden, ac yn ddiweddarach yn Great Ormond Street, a Choleg Prifysgol Llundain, Ymddiriedolaethau Sefydledig y GIG, cefais dro annisgwyl yn fy llwybr gyrfaol.

Ar lawr yr ysbyty, cefais fy syfrdanu gan y problemau amlwg – o aneffeithlonrwydd i oedi – a oedd yn ganlyniad i systemau cyfathrebu clinigol hen ffasiwn oedd wedi’u datgysylltu. Nid oedd meddygon yn gallu rhannu gwybodaeth na chydweithio ar driniaeth cleifion. Roedd atgyfeiriadau ar bapur a chadwyni ebost yn rhwystro darpariaeth gofal, ac roedd cleifion yn cael eu hanwybyddu yn anfwriadol. Roeddwn yn gwybod bod angen dewis amgen gwell ar y GIG, felly, gyda chyngor a chymorth gan gydweithwyr, es ati i greu un.

Sefydlais Cinapsis gyda’r nod o ddarparu offer digidol diogel a phwrpasol i glinigwyr i symleiddio atgyfeiriadau a gwella canlyniadau cleifion. Mae ein platfform SmartReferrals yn cysylltu clinigwyr ag arbenigwyr er mwyn iddynt allu rhannu cyngor ac arbenigedd: mae hyn yn helpu meddygon teulu, parafeddygon ac optometryddion i wneud penderfyniadau cyflymach, mwy gwybodus a chywir am ddarparu gofal.

Dwi wedi cael llawer o foddhad wrth weld y dechnoleg hon yn helpu i symleiddio llwyth gwaith clinigwyr, lleihau atgyfeiriadau diangen a chyflymu canlyniadau cadarnhaol i gleifion. Yn Norfolk a Waveney, mae ein prosiect dermatoleg yn helpu i leihau amseroedd aros am gyngor arbenigol o 50 wythnos i ddim ond 48 awr, ac mae prosiect tebyg yn Swydd Gaer a Glannau Mersi yn arbed tua £1m y flwyddyn i’r GIG.

Mae effaith y pandemig wedi golygu bod angen mwy o atebion arloesol ar y GIG nag erioed o’r blaen, a chredaf mai clinigwyr sydd yn aml yn y sefyllfa orau i gynllunio’r atebion hyn. Gobeithio, drwy rannu fy stori, y gallaf ysbrydoli meddygon eraill i ystyried yr hyn y gallant ei gyfrannu at fyd technoleg iechyd hefyd. Dyma fy awgrymiadau defnyddiol i unrhyw un sydd eisiau creu eu hateb eu hunain i broblem y maen nhw’n credu sydd angen ei datrys:

Peidiwch ag ofni herio’r sefyllfa bresennol

Os ydych chi’n sicr bod angen i rywbeth newid, mae’n debyg nad chi yw’r unig un sy’n meddwl felly. Ond yn hollbwysig, mae gennych y pŵer i wneud gwahaniaeth. Heriwch y sefyllfa sydd ohoni trwy gyflwyno ffordd newydd o wneud pethau. Siaradwch â’r rhai o’ch cwmpas a byddwch yn hyderus wrth hyrwyddo newid.

Ystyried y newidiadau cynnil bob amser

Mae wedi bod yn hanfodol ystyried y newidiadau cynnil wrth ddatblygu Cinapsis. Roedd yn rhaid i ni ystyried y manylion – megis sut roedd gwahanol glinigwyr yn gweithio, pa systemau yr oeddent eisoes yn eu defnyddio a sut y byddai platfform digidol newydd yn cydweddu i’r rhain – er mwyn gwneud yn siŵr bod ein hateb wedi’i deilwra’n effeithiol i’w helpu. Dylech bob amser ymchwilio’n ddyfnach i’r broblem neu’r rhwystr rydych chi’n mynd i’r afael â hi. Cadwch olwg ar y newidiadau cynnil gan y bydd hyn yn eich helpu i nodi achosion sylfaenol y problemau ac yn y pen draw yn eich helpu i fynd i’r afael â nhw’n fwy effeithiol.

Bod yn barod i fynd i gyfeiriad gwahanol

Tra’n hyfforddi i fod yn feddyg doedd gen i ddim syniad y byddwn i’n ddigon ffodus i arloesi hefyd o fewn y sector technoleg iechyd. Yn wir, awgrymodd rhai pobl ei bod yn ‘wastraff’ ar hyfforddiant meddygol camu’n ôl o ymarfer meddygol rheng flaen! Ond ar ôl bod trwy’r profiad fy hun, rydw i’n hynod falch o’r hyn rydw i wedi’i gyflawni gyda Cinapsis. Felly byddwch yn barod i ddilyn llwybrau newydd, oherwydd ni wyddoch ble y gallent eich arwain.

Nid oes amheuaeth nad oedd fy nghyfnod ym Mhrifysgol Caerdydd yn allweddol wrth lunio’r meddyg a’r entrepreneur rydw i heddiw. Fyddwn i ddim lle’r ydw i heb yr addysg a’r gefnogaeth a gefais pan oeddwn yn fyfyriwr israddedig yng Nghaerdydd. Efallai fod fy ngyrfa wedi mynd ar drywydd annisgwyl, ond rwyf wedi dysgu a phrofi mwy nag y gallwn fod wedi’i ragweld erioed. Rwy’n edrych ymlaen at weld beth mae’r genhedlaeth nesaf o gynfyfyrwyr Caerdydd yn ei gyflawni!

Dywedwch wrthym beth sy’n bwysig i chi 

Rydym wedi cyflwyno ‘I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr’ gan nad oes neb yn adnabod ein cymuned o gynfyfyrwyr gystal â chi! Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych i gael eich syniadau ar gyfer erthyglau neu ddigwyddiadau ar-lein sydd o ddiddordeb i chi, neu rai y gallwch roi mewnwelediad iddynt, neu efallai mai CHI yw’r stori! Edrychwch ar ein rhestr lawn o erthyglau, a gwyliwch ein rhestr o ddigwyddiadau byw eto.