Skip to main content

Ryseitiau Er Mwyn Llwyddo

Ryseitiau Er Mwyn Llwyddo: Cawl ffacbys coch a moron wedi’u rhostio

6 Ebrill 2022

Cyfres o ryseitiau gan arbenigwyr yn y diwydiant bwyd a diod yw Recipes for Success. Wedi’i greu yn wreiddiol fel llyfr ryseitiau ar gyfer myfyrwyr newydd, mae cogyddion cyn-fyfyrwyr, blogwyr bwyd a pherchnogion bwytai yn hael yn rhannu eu ryseitiau blasus, hawdd eu gwneud. Darganfyddwch fwy am ein cyn-fyfyrwyr disglair yn y gegin wrth wneud rhywbeth blasus! 

Dyma’r cogydd

Mae Claire Thomson (BA 2001) yn awdur bwyd a chogydd a astudiodd Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Caerdydd ac roedd yn lasfyfyriwr yn ôl yn 1998. Mae hi wedi ysgrifennu chwe llyfr coginio ac wedi coginio’n broffesiynol ar draws y byd. Roedd hi’n awyddus i rannu un o’i hoff ryseitiau (a mwyaf darbodus!) gyda chymuned Caerdydd.

“Dwi’n gwneud cawl yn aml drwy’r misoedd oerach. Mae’r cynhwysion yn dibynnu ar ba lysiau bynnag sydd wrth law ac (yn amlach na pheidio) ychydig ffacbys neu ffa rhad, a f ydd yn cyrraedd y sosban hefyd!”

Dewch i ni goginio…

Rhestr siopa

500g o foron, wedi’u plicio a’u torri’n fras

1 winwnsyn/nionyn, wedi’i sleisio’n fân

2 llwy fwrdd o olew olewydd, a rhagor i weini

Pinsiad mawr o halen, yn ogystal â rhagor fel sesnin

1 llwy de o gwmin wedi’i falu

1 llwy de o goriander wedi’i falu

250g o ffacbys coch (split red lentils)

Pupur du newydd ei falu

4 llwy fwrdd o za’atar, dewisol

Bydd arnoch angen

Sosban fawr

Tun rhostio

Ffon blendio neu brosesydd bwyd

Dull

Cam 1

Rhoi’r moron a’r winwnsyn/nionyn mewn tun rhostio. Ychwanegu’r olew olewydd a phinsiad mawr o halen, a rhoi sesnin o bupur du. Ychwanegu’r sbeisys mâl, gan gymysgu’n dda i orchuddio popeth.

Cam 2

Rhoi ffoil yn dynn dros y tun a rhostio’r moron a’r winwnsyn ar 190°C am tua 35 munud, nes eu bod yn feddal.

Cam 3

Rinsio’r ffacbys coch yn dda mewn dŵr oer a’u rhoi mewn sosban gydag 1 litr o ddŵr. Rhoi’r cyfan dros wres cymedrol a’i godi i’r berw. Sgimio unrhyw ewyn sy’n codi i’r wyneb, yna lleihau’r gwres a’i fudferwi am 15–20 munud, nes ei fod wedi’i goginio ac yn feddal iawn. Blendio’r ffacbys nes eu bod yn llyfn.

Cam 4

Ychwanegu’r moron a’r winwnsyn wedi’u rhostio a’u prosesu nes eu bod at eich dant. Gwirio’r sesno, gan ychwanegu rhagor o halen a phupur os oes angen.

Dewisol

Cynnwys pinsiad o za’atar, sbeisys amrywiol, neu un sbeis yn unig, fel fflawiau tsili, i bawb eu rhoi dros y cawl eu hunain.

Addaswyd o Home Cookery Year gan Claire Thomson (Quadrille)

Yn ôl ein profwr Jackie Yip (BA 2018) sy’n gynfyfyriwr…

“Roedd y rysáit hon yn hawdd iawn! Ro’n i wrth fy modd gyda sut roedd y pryd yn barod mewn llai na 30 munud gan fod modd coginio pethau ar yr un pryd. Ond, cofiwch roi digon o sesnin ar y diwedd!”

 

Wedi mwynhau’r rysáit hon? Mae gennym lawer mwy o le y daeth honno yn Recipes for Success. Ewch amdani!