Skip to main content

Ryseitiau Er Mwyn Llwyddo

Ryseitiau Er Mwyn Llwyddo: Llysiau o’r drôr wedi’u ffrio

25 Medi 2022

Cyfres o ryseitiau gan arbenigwyr yn y diwydiant bwyd a diod yw Recipes for Success. Wedi’i greu yn wreiddiol fel llyfr ryseitiau ar gyfer myfyrwyr newydd, mae cogyddion cyn-fyfyrwyr, blogwyr bwyd a pherchnogion bwytai yn hael yn rhannu eu ryseitiau blasus, hawdd eu gwneud. Darganfyddwch fwy am ein cyn-fyfyrwyr disglair yn y gegin wrth wneud rhywbeth blasus! 

Dyma’r cogydd

Astudiodd Ross Clarke (MA 2014) Newyddiaduraeth Cylchgronau ac mae bellach yn awdur bwyd a theithio i deitlau fel National Geographic Traveller a The Independent. Mae’n arbenigo ar fwyd o Gymru a Sbaen ac yn cyhoeddi cylchlythyr wythnosol am fwyd a diod o Gymru o’r enw The Welsh Kitchen.

“Mae pwynt yn dod pan wyt ti’n edrych yn yr oergell ac yn gweld ambell eitem ar hap yn y drôr llysiau. Os nad oes gen ti basta neu reis, yna mae’r rhain yn berffaith. Maen nhw’n wych fel rhan o frecwast wedi’i goginio, cinio cyflym, neu fyrbryd canol prynhawn.”

Dewch i ni goginio…

Rhestr siopa

ó taten felys fawr neu daten

1 foronen ganolig

1 winwnsyn/nionyn bach

llwy de o gwmin wedi’i falu

ó llwy de o bowdr tsili

ó llwy de o bowdr mwstard Seisnig (neu lond llwy o fwstard)

3 llwy fwrdd o flawd

1 wy maes

Bacwn ac wy (dewisol)

Bydd arnoch angen

Powlen fawr neu sosban fawr

Gratiwr caws

Llwy, fforc neu’ch dwylo

Padell ffrio

Sbatwla, sleis bysgod neu gyllell

Papur cegin

Dull

Cam 1

Rhoi’r daten felys a’r foronen mewn powlen fawr. Torri neu gratio’r winwnsyn/nionyn a’i ychwanegu at y bowlen. Troi’r llysiau gyda’i gilydd. Gwasgu i lawr yn gadarn â phapur cegin er mwyn amsugno’r lleithder.

Cam 2

Ychwanegu’r cwmin, y powdr tsili, y mwstard a’r blawd at y bowlen a chymysgu nes bod popeth wedi’i orchuddio’n gyfartal. Cracio’r wy mewn cwpan a’i chwisgo â fforc. Ychwanegu’r wy at y cynhwysion eraill i wneud cymysgedd gludiog.

Cam 3

Cynhesu rhywfaint bach o olew neu fenyn mewn padell ffrio dros wres canolig-isel. Gwneud byrgyrs maint llaw â’r cymysgedd drwy eu gwasgu â’ch dwylo a’u rhoi yn y badell boeth.

Cam 4

Coginio am bum munud nes bod y rhan oddi tano’n frown, cyn troi a choginio am 5 munud arall. Eu rhoi mewn popty cynnes neu o dan gril isel wrth i chi goginio’r gweddill.

Cam 5

Pentyrru popeth ar blât gyda bacwn neu wy wedi’i ffrio ar eu pennau neu eu bwyta fel maen nhw.

Dewisol

Defnyddio blawd heb glwten ac yn lle’r wy, rhoi rhywfaint o saws tomato neu afal i’w wneud yn figan. Yn ôl ein profwr Tesni Street (MA 2017) sy’n gynfyfyriwr…

“Ces i gymaint o hwyl gyda’r rysáit hon. Mae’n un wych ar gyfer arbrofi ac ychwanegu llysiau eraill fel courgette neu bupur. Dwi’n siwˆr y byddai’n neis iawn gydag ychydig o tzatziki hefyd!”

 

Wedi mwynhau’r rysáit hon? Mae gennym lawer mwy o le y daeth honno yn Recipes for Success. Ewch amdani!