Yn dilyn ymateb enfawr gan y gymuned o gynfyfyrwyr, mae Barry Sullivan, Pennaeth Cysylltiadau Cynfyfyrwyr, yn rhoi crynodeb i ni am yr hyn fydd yn digwydd nesaf a beth i edrych amdano ar y rhestr.
Mae'r gyn-fyfyrwraig Katy Thomas (BA 2004) yn rhedwr Hanner Marathon Caerdydd profiadol ac yn dechrau ar ei thrydedd ras ar ddeg ym mis Hydref. Ar ôl colli sawl aelod agos o'i theulu i ganser, mae hi wedi cael ei hysbrydoli i godi arian dros ymchwil Prifysgol Caerdydd a fydd yn gwella gwaith i atal canser, ei ddiagnosio a’i drin.
Dechreuodd Dr Nicholas Jones (BMus 1994, MMus 1995, PhD 1999), ei swydd yn Bennaeth yr Ysgol Cerddoriaeth ym mis Awst 2023, gan olynu’r Athro Ken Hamilton. Yn gynfyfyriwr triphlyg o Gaerdydd, mae Nick wedi astudio a gweithio yn y Brifysgol ers dros 30 mlynedd. Cyn dechrau'r flwyddyn academaidd newydd, mae Nick yn rhannu ei obeithion a'i flaenoriaethau ar gyfer dyfodol yr Ysgol Cerddoriaeth.
Astudiodd Beti George (BA 1960) y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae'n ddarlledwr teledu a radio Cymreig o fri. Yma, mae Beti yn rhannu atgofion ei phlentyndod o’r Eisteddfod, ac yn sôn am yr hyn y mae hi, a’r Gymraeg yn ei olygu iddi.
Bu myfyrwyr o Brifysgol Florida yn ymweld â Chaerdydd yn ddiweddar i ddysgu mwy am gyfraith Cymru a Phrydain. Dan arweiniad y cyn-fyfyriwr o Brifysgol Caerdydd Dr Matthew Jones (MA 2017), Athro Cyfarwyddo Cynorthwyol ym Mhrifysgol Florida, cafodd y myfyrwyr y cyfle i fynd i ddigwyddiad rhwydweithio arbennig i gysylltu â chyn-fyfyrwyr Caerdydd sy'n gweithio ym maes y gyfraith a gwleidyddiaeth.
Mae aelodau o gymuned cynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd wedi cael eu cydnabod am eu llwyddiannau eithriadol yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin ar gyfer 2023.
Gall datblygu sgiliau trosglwyddadwy fod yn amhrisiadwy i'ch dilyniant, boed hynny drwy wirfoddoli, profiad personol neu drwy eich astudiaethau prifysgol. Buom yn siarad ag aelodau o’n cymuned anhygoel o gynfyfyrwyr sydd wedi rhannu eu doethineb ynghylch sut y gall y sgiliau hyn fod o fudd i chi wrth ddechrau ar eich gyrfa.
Mae rhaglen Arweinwyr y Dyfodol mewn Ymchwil Canser (FLiCR) Prifysgol Caerdydd yn rhoi’r sgiliau a’r hyfforddiant sydd eu hangen ar ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa i lwyddo yn eu maes. Mae FLiCR yn fan cychwyn i’r ymchwilwyr gorau a disgleiriaf lansio eu gyrfaoedd a dod yn genhedlaeth nesaf o arweinwyr ymchwil canser. Dyma hanes tri Arweinydd y Dyfodol o’n carfan 2017 a lle maen nhw heddiw.
Yn ddiweddar, cymerodd Kate Walsh (LLB 2010, PGDip 2011) ran yn ein cynllun mentora fflach blynyddol - Menywod yn Mentora, a chafodd gyfle i gael profiad gwerthfawr yn y diwydiant gan ei mentor.
Mae Wythnos y Gwirfoddolwyr yn ddathliad blynyddol a gynhelir rhwng 1-7 Mehefin i glodfori’r cyfraniad mae miliynau o bobl ledled y DU yn ei wneud drwy wirfoddoli yn eu cymunedau.
Yn 2015, sefydlodd Joshua Peasley (MArch 2018), Harry Thorpe (MArch 2018) a Harrison Marshall (MArch 2018) Stiwdio CAUKIN. Y nod? Grymuso cymunedau byd-eang trwy ddylunio a phensaernïaeth gynaliadwy, wrth addysgu […]
Lansiodd Prifysgol Caerdydd ei Changen Cynfyfyrwyr yn Efrog Newydd yn swyddogol ym mis Ebrill 2023, gyda'r nod o wneud cysylltiadau gwell yn ei chymuned fyd-eang. Gabriel Yomi Dabiri (LLB 2008), cyd-sylfaenydd a chyd-gadeirydd y gangen, sy'n sôn am y digwyddiad a'i atgofion o Gaerdydd.
Graddiodd Rhys Hughes (MA 2017) gyda gradd meistr mewn Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd, cyn dechrau ar PhD yn Arizona, UDA. Ac yntau wedi’i fagu yng Nghymru, mae'n rhannu ei atgofion o'r Eisteddfod Genedlaethol a sut mae'n cadw cysylltiad â'i wreiddiau Cymreig ymhell o gartref.
Buom yn siarad â'r Athro David Mosey CBE (LLB 1976) am theatr fyfyrwyr, pêl-droed, a'r radd yn y gyfraith a arweiniodd at ei yrfa ddisglair: o Gyfreithwyr Trower & Hamlins, i Goleg y Brenin Llundain, i CBE yn Rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd 2023 am wasanaethau i'r diwydiant adeiladu.
Mae'r cynfyfyriwr Gavin Jewkes (BA 2011, PgDip 2012) wedi gosod yr her iddo'i hun o redeg Hanner Marathon Hackney y mis nesaf i godi arian ar gyfer ymchwil i gyflwr prin y cafodd ei nith fach ddiagnosis ohono y llynedd.
Buom yn siarad yn ddiweddar â rhai o’n harweinwyr benywaidd llwyddiannus o gymuned cyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Gwnaethant rannu ychydig y gyngor y bydden nhw'n ei roi i'w hunain pan yn iau.
Mae Simon Blake OBE (BA 1995) wedi treulio’r deng mlynedd ar hugain diwethaf yn gweithio i sefydliadau sy’n mynd i’r afael â chyfiawnder cymdeithasol, cydraddoldeb a stigma. Mae bellach yn arwain ymgyrch i dorri'r cysylltiad rhwng system Anrhydeddau'r DU ac etifeddiaeth gwladychiaeth Prydain, i'w gwneud yn fwy cynhwysol.
Mae Angylion Cymru sy’n Ferched (ACM) yn syndicet angylion buddsoddi mewn busnesau newydd, sy’n cael ei gefnogi a’i hwyluso gan Fanc Datblygu Cymru. Dywedodd y cyd-sylfaenydd Jill Jones (MSc 2020, Astudiaethau Busnes 2019-) a chyd-aelod Helen Molyneux (LLB 1987) wrthym am eu cynlluniau ar gyfer WAW a'r ysbrydoliaeth y tu ôl i'r prosiect.
Tyngwyd Nneka Akudolu (LLB 2001, PgDip 2002) i mewn fel Cwnsler y Brenin (KC) yn 2022, gan ymuno â grŵp dethol o ymarferwyr y gyfraith a benodwyd gan y frenhines. Fel KC sy'n arbenigo mewn cyfraith droseddol, mae Nneka yn gweithio ar yr achosion mwyaf difrifol yr ymdrinnir â nhw yn llysoedd y Goron ac Apêl, ac mae'n un o ddim ond saith KC benywaidd Du yn y DU.
Clefyd Alzheimer yw'r math mwyaf cyffredin o ddementia. Mae’n effeithio ar atgofion y sawl sy’n dioddef o’r clefyd, eu gallu i wneud tasgau gwybyddol, mae’n achosi rhithweledigaethau gan hefyd achosi i’r person golli rheolaeth echddygol. Yn y recordiad o’n Harddangosfa Ymchwil ddiweddar, mae Dr Mat Clement (PhD 2013) a Dr Wiola Zelek (PhD 2020) o’r Ysgol Feddygaeth, yn trafod rôl firysau heintus, y system imiwnedd, a niwro-lid yn natblygiad Alzheimer.