Skip to main content

Cyswllt CaerdyddGyrfaoeddNewyddionStraeon cynfyfyrwyrWomentoring

Fy mhrofiad gyda Womentoring – Jane Cook (BA 2008)

5 Rhagfyr 2023

Ym mis Mawrth 2023, cymerodd Jane Cook (BA 2008), ymgynghorydd cysylltiadau cyhoeddus annibynnol, ran yn ein cynllun mentora fflach blynyddol ar gyfer cyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd – Menywtora (Womentoring). Isod, mae Jane yn myfyrio ar ei hamser yn fentor ar sawl cyd-fyfyriwr ac yn rhannu ei phrofiadau er mwyn galluogi’r rhai sy’n ystyried cymryd rhan yng nghynllun y flwyddyn nesaf amgyffred ag ef.

Pam wnaethoch chi benderfynu ymuno â chynllun Menywod yn Mentora i fod yn fentor arno?

Ces i dipyn o sioc pan ofynnwyd imi gymryd rhan, a dweud y gwir! Roedd y mentoriaid blaenorol a wyddwn amdanynt yn gweithio i sefydliadau mawr, mewn swyddi lle maent yn rheoli timau mawr neu gyllidebau enfawr. Er bod gennyf rwydwaith o weithwyr llawrydd y gallaf ddibynnu arnynt i weithio ar wahanol brosiectau, rwy’n hunangyflogedig, heb os.

Imi, roedd cael fy ngofyn i fod yn fenter yn hwb mawr, ac wrth fyfyrio arno, pan oeddwn yn fyfyriwr yn y brifysgol, ni feddyliais erioed y byddwn i’n hunangyflogedig.   Byddwn wedi hoffi cael clywed gan amrywiaeth ehangach o bobl a’r llwybrau gwahanol a gymeron nhw.

Pam fod y cynllun Menywtora yn bwysig ichi?

Mae cynllun mentora lle mae menywod yn helpu menywod eraill yn fy nharo i i’r dim. Wrth i’r blynyddoedd fynd heibio, rydw i wedi sylweddoli bod bywyd yn llawer anoddach i fenywod yn y gweithle.

Bu imi gychwyn fy ngyrfa mewn amgylchedd corfforaethol iawn ar ôl graddio, ac mewn gwirionedd, nid oedd gen i ddealltwriaeth ddofn o’r rhwystrau hynny sy’n bodoli i fenywod. P’un a yw hynny’n jyglo pethau fel absenoldeb mamolaeth a gofal plant, neu gymryd mwy o’r baich emosiynol yn y gweithle gan y’i hystyrir yn sgil benywaidd. Mae nifer o ffyrdd y gall y gweithle fod yn lle anodd i fenywod sydd â phlant a’r rheiny sydd heb blant hefyd.

Felly, os bydd angen i fenyw gael dyrchafiad neu’n ymgeisydd posibl ar gyfer swydd, yn reddfol rydw i’n ymateb mewn modd neilltuol er mwyn ceisio gwireddu hynny iddi.

A allwch chi ddweud wrthym am yr hyn yr oedd y mentora yn ei olygu?

Ces i alwad gychwynnol gyda’r tri o bobl yr wyf yn eu mentora i drafod ein gyrfaoedd hyd yma, y rhesymau pam wnaethom benderfynu cymryd rhan yn y cynllun, a’r hyn yr oeddem am ei ddysgu ohono. Gwnes i geisio talu sylw i’r tebygrwydd yn yr hyn yr oedd fy mentoreion eisiau symud ymlaen ato nesaf, megis newid gyrfa i lwybr gwahanol.

Yna fe wnes i gynnal sawl galwad un-i-un dros gyfnod o tua chwe wythnos, lle holais i ambell gwestiwn. Roedd fy mentoreion ar fin cymryd y cam nesaf neu wedi gosod y sylfaen i’w gymryd, felly roedd y galwadau hynny’n teimlo fel ffordd o gadw mewn cysylltiad tra’r oeddent yn parhau â’r daith honno.

Sut deimlad oedd gwybod bod un o’ch mentoreion, Jamie Marie Ellis, wedi cyhoeddi ei darn llawrydd cyntaf o ysgrifennu ar fwyd yn gynharach eleni?

Os gwnes i helpu, mewn pa bynnag ffordd, i roi hwb i hyder Jamie wrth iddi fentro i’r byd mawr, yna rydw i wrth fy modd! Mae’n ddarn hynod ddiddorol o ysgrifennu ac mae’r adborth a gafwyd o’m cymuned wedi bod yn gryf iawn. Rwy’n siŵr y bydd gan Jamie lawer mwy i’w gyfrannu.

Roedd yn hyfryd cael bod yn gefn i’m mentoreion a’u hannog yn eu blaenau. Roeddwn i’n gallu rhagweld y bydden nhw i gyd yn cyrraedd eu cyrchfan gyrfaol, gan sylweddoli mai bod yn fentor iddynt oedd yn greiddiol i helpu magu eu hyder. Wrth orffen pob galwad, meddyliais, “bydd hi’n wych a jyst angen mynd amdani”.

A oes gennych chi unrhyw awgrymiadau da i gyn-fyfyrwyr sydd am ymuno â chynllun Menywod yn Mentora yn 2024?

Gwrandewch a thalwch sylw gymaint ag y gallwch chi a cheisiwch dreiddio i feddwl y person yr ydych chi ei fentora.

Yn ystod fy sesiynau, byddwn wrth reddf mewn sefyllfa le byddwn i’n gofyn i’m mentoreion a wnaethon nhw roi cynnig ar hwn neu hwnna, neu’r weithred hon, a sylweddolais nad oes yn rhaid o reidrwydd ceisio dod o hyd i’r cyswllt cywir na’r cam nesaf bob tro. Er bod hynny’n ddefnyddiol, nid dyna yw prif ddiben bod yn fentor.

Weithiau, mae angen ichi fod ychydig bach yn fwy amyneddgar a gadael i syniadau a meddyliau ddatblygu’n naturiol. Efallai y bydd ambell i saib yn nawr ac yn y man, ond ceisiwch beidio â phlymio’n syth i mewn.

Sut mae’r mentora wedi cael effaith gadarnhaol ar eich gyrfa eich hun?

Nid wyf erioed wedi gwneud unrhyw fentora o’r blaen, felly roedd yn ddefnyddiol iawn cael gwybod nad yw eich swydd yn mentora o reidrwydd yn  datrys problemau’n uniongyrchol. Yn hytrach, mae’n achos o helpu rhywun gyda’u meddylfryd a thaflu goleuni ar yr hyn a allai fod yn rhwystr iddynt neu’n eu dal nhw’n ôl.

Meddyliais efallai bod angen mentor arna’ i! Roeddwn i’n gallu gweld manteision mentora o’r ddwy ochr, ac mae gennyf ddiddordeb mewn gwneud hyn eto yn y dyfodol.

Rhannodd Jamie Marie Ellis (MA 2019), un o fentoreion Jane, ei phrofiad o’r cynllun Menywod yn Mentora hefyd.

Os ydych chi’n gyn-fyfyriwr o Gaerdydd sy’n awyddus i ddod o hyd i, neu ddod yn fentor i gyn-fyfyriwr, mae ein platfform rhwydweithio cyn-fyfyrwyr Cyswllt Caerdydd yn eich helpu chi i ddod o hyd i’r gyfatebiaeth gywir. Mae cofrestru’n gyflym ac yn hawdd, a gallwch chi hidlo yn ôl y diwydiant a’r lleoliad i chwilio am y rheiny sydd naill ai’n cynnig helpu neu’n gofyn am gymorth.

Mae yna hefyd lawer o ffyrdd eraill y gallwch chi wirfoddoli eich amser a’ch arbenigedd i helpu i ysbrydoli a chefnogi’r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr a chyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd.