Skip to main content

#TeamCardiffCyswllt CaerdyddNewyddion

Rhedeg Hanner Marathon Caerdydd er budd niwrowyddoniaeth ac ymchwil iechyd meddwl – Yr Athro Neil Harrison

4 Rhagfyr 2023

Athro Clinigol mewn Niwroddelweddu yng Nghanolfan Ymchwil Delweddu’r Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC) yw Neil Harrison. Ym mis Hydref rhedodd Hanner Marathon Caerdydd yn rhan o #TeamCardiff i godi arian at niwrowyddoniaeth ac ymchwil iechyd meddwl ym Mhrifysgol Caerdydd. Yma, mae’r Athro Harrison yn sôn am baratoi ar gyfer rhedeg Hanner Marathon Caerdydd a’r gwahaniaeth y mae codi arian yn ei wneud i ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa.   

Gan fy mod i’n seiciatrydd academaidd, mae gen i ddiddordeb mawr yn y ffordd y mae’r system imiwnedd a’r ymennydd yn rhyngweithio a’i gilydd i newid ein hwyliau, ein cymhellion a’n syniadau, sut mae hyn yn cyfrannu at afiechydon meddwl cyffredinol a sut y gallwn ddefnyddio’r wybodaeth hon i ddylunio triniaethau newydd sy’n fwy effeithiol o ran trin cyflyrau fel iselder a sgitsoffrenia. 

Rwy’n ddigon ffodus i fod wedi gweld â’m llygaid fy hun sut mae’r arian mae #TeamCardiff wedi’i godi yn cefnogi’r genhedlaeth nesaf o niwrowyddonwyr ac ymchwilwyr iechyd meddwl. Mae’n rhoi’r arian sydd ei angen i fynd ar y trywydd gwyddonol a all lansio meysydd ymchwil cwbl newydd, yn ogystal â rhoi’r cyfle iddyn nhw gyflwyno eu gwaith, gwella eu hyfforddiant a chreu’r rhwydweithiau gwyddonol a fydd yn eu cefnogi drwy gydol eu gyrfaoedd.  

Rwy wedi bod yn hoff iawn o rhedeg drwy gydol fy oes, a byddwn i fel arfer yn rhedeg am gyfnodau byr er mwyn ymlacio a lleddfu straen. Y gwir amdani yw mai damwain lwyr oedd dechrau’n rhedwr pellter hir Es i ar goll wrth redeg o gwmpas Harrogate pan oeddwn i yno am gynhadledd ac yn lle gwneud y 20-30 munud arferol, rhedais i am awr a hanner, bron iawn!  

Fodd bynnag, sylweddoles i nad oedd y cyfan cynddrwg â hynny, a phan welais i’r cyfle i bobl redeg Hanner Marathon Caerdydd, penderfynais i y byddwn i’n mynd amdani. Roedd yn gyfle gwych i godi arian at yr ymchwil ardderchog ar niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl sy’n cael ei wneud yng Nghaerdydd, ac yn gyfle gen i i gefnogi’r ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa y bydda i’n eu gweld yn y Brifysgol. 

Roedd ymarfer ar gyfer y ras yn amrywiol tu hwnt, ac roedd rhai uchafbwyntiau ac isafbwyntiau heb os nac oni bai. Ro’n i’n mwynhau rhedeg 3-4 diwrnod yr wythnos, ac roedd yn wych gweld cynnydd go iawn o wneud hynny’n rheolaidd. Yr her oedd gwneud yn siŵr nad o’n i’n gwthio fy hun yn rhy galed. Mae’n hawdd ceisio gwneud gormod ond dyna pryd y byddwch chi’n anafu eich hun – ac yn bendant ces i ambell un o’r rhain. Dysgais i fy ngwers a byddwn i’n annog pawb i wrando ar y cyngor, ei chymryd hi’n araf deg ac i gynyddu’n raddol.   

Ro’n i hefyd yn lwcus i gael criw o gefnogwyr yn ystod y cyfnod ymarfer a chodi arian. Roedd fy nheulu a ffrindiau yn gefnogol dros ben, gan gynnwys fy mrawd iau a oedd yn hoff iawn o ymffrostio yn ei amseroedd rhedeg lawer gwell (tua hanner yr amser a gymerodd i mi redeg yr un pellter fel arfer)! 

Roedd diwrnod y ras ei hun yn llawer o hwyl. Mwynheuais i’r cyfan yn fawr – wel, yr hanner cyntaf o leiaf! Roedd sefyll ar y llinell gychwyn gyda miloedd o bobl o’n cwmpas, y lle yn gynnwrf i gyd a’r cyfeillgarwch rhwng y rhedwyr yn anhygoel. Roedd clywed pobl yn bloeddio fy enw pan ges i drafferth yn bendant wedi fy helpu i ddal ati. Chwarae teg hefyd i’r dyn ym Mharc y Rhath a oedd yn dal arwydd â’r geiriau “Cwrw ymhen 1 filltir!”  

Mae’r cof yn dda o ran anghofio’r darnau poenus, ond ro’n i wedi mwynhau’r broses gyfan yn fawr ac rwy’n edrych ymlaen at redeg yn y dyfodol (a dod o leiaf ychydig yn nes at guro amseroedd personol gorau fy mrawd iau!)  

Oes diddordeb gennych mewn rhedeg Hanner Marathon Caerdydd ym mis Hydref 2024 er budd niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl neu ymchwil canser ym Mhrifysgol Caerdydd? Bellach gallwch chi wneud cais ar gyfer lleoedd elusennol #TeamCardiff.

Neu os oes gennych chi awydd ymgymryd â her fwy, mae hefyd nifer gyfyngedig o leoedd elusennol i redeg Marathon APB Casnewydd Cymru ar 28 Ebrill 2024. Rhagor o wybodaeth.

Mae gwaith codi arian #TeamCardiff yn cefnogi ymchwil Prifysgol Caerdydd ar niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl, a chanser. Drwy gefnogi’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr, gallwch chi helpu i ddod o hyd i atebion yn gynt, gan newid bywydau yn y broses a gwella’r gwaith o atal, rhoi diagnosis a chynnig triniaeth i bobl sy’n byw gydag ystod eang o gyflyrau. Rhagor o wybodaeth ynghylch codi arian ym Mhrifysgol Caerdydd.