Skip to main content

Straeon cynfyfyrwyr

Cyn-fyfyrwraig Cwnsler y Brenin yn dychwelyd i Gaerdydd i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf

Cyn-fyfyrwraig Cwnsler y Brenin yn dychwelyd i Gaerdydd i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf

Postiwyd ar 17 Mawrth 2023 gan Anna Garton

Tyngwyd Nneka Akudolu (LLB 2001, PgDip 2002) i mewn fel Cwnsler y Brenin (KC) yn 2022, gan ymuno â grŵp dethol o ymarferwyr y gyfraith a benodwyd gan y frenhines. Fel KC sy'n arbenigo mewn cyfraith droseddol, mae Nneka yn gweithio ar yr achosion mwyaf difrifol yr ymdrinnir â nhw yn llysoedd y Goron ac Apêl, ac mae'n un o ddim ond saith KC benywaidd Du yn y DU.

Cefnogi ymchwil canser sy’n trawsnewid bywydau – Mollie Lewis (BSc 2022)

Cefnogi ymchwil canser sy’n trawsnewid bywydau – Mollie Lewis (BSc 2022)

Postiwyd ar 8 Mawrth 2023 gan Jordan Curtis

Mae Mollie Lewis (BSc 2022) yn rhedeg Hanner Marathon Caerdydd ym mis Hydref i helpu i godi arian ar gyfer yr ymchwil canser sy'n trawsnewid bywydau a gynhelir ym Mhrifysgol Caerdydd. Gan mai dyma’r tro cyntaf iddi redeg hanner marathon, mae Mollie yn rhannu ei syniadau am ddechrau ymarfer yn ogystal â’r gefnogaeth anhygoel y mae wedi’i chael gan deulu, ffrindiau a #TeamCardiff.

Gair Rhydd – Dathlu 50 mlynedd

Gair Rhydd – Dathlu 50 mlynedd

Postiwyd ar 27 Hydref 2022 gan Jordan Curtis

Dathlu Pen-blwydd Gair Rhydd yn 50 oed eleni. Mae Gair Rhydd wedi gweld llu o newidiadau ers ei argraffiad cyntaf ar 3 Hydref 1972, o ysgrifennu erthyglau ar deipiaduron a’u pinio i fyrddau gosod i’w hargraffu, i gyhoeddi’r papur ar-lein yn ddidrafferth.

Cynfyfyrwyr Caerdydd yn cynrychioli Cymru yng Nghwpan Rygbi’r Byd

Cynfyfyrwyr Caerdydd yn cynrychioli Cymru yng Nghwpan Rygbi’r Byd

Postiwyd ar 26 Hydref 2022 gan Jordan Curtis

Mae Cwpan Rygbi'r Byd ar y gweill yn Seland Newydd. Dechreuodd Cymru eu hymgyrch gyda buddugoliaeth agos o 18-15 yn erbyn yr Alban. Mae’r flwyddyn hon yn arwyddocaol iawn gan mai dyma’r tro cyntaf i nifer o’r tîm fynd i’r twrnamaint gyda chytundebau proffesiynol.

Cefnogi’r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr Caerdydd – golwg yn ôl ar y flwyddyn

Cefnogi’r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr Caerdydd – golwg yn ôl ar y flwyddyn

Postiwyd ar 11 Hydref 2022 gan Alumni team

Mae myfyrwyr wrth galon Prifysgol Caerdydd, ond gall heriau ariannol atal y meddyliau gorau a mwyaf disglair rhag cael mynediad at yr addysg a'r cyfleoedd y maent yn eu haeddu. Y llynedd rhoddodd ein cefnogwyr swm syfrdanol o £68,000 tuag at gefnogi myfyrwyr Caerdydd i gyflawni eu llawn botensial, trwy roddion hael, yn ogystal ag anrhegion mewn Ewyllysiau ac er cof am anwyliaid. Rhoddodd ein cynfyfyrwyr eu hamser a’u harbenigedd hefyd i gefnogi ein myfyrwyr trwy fentora, gwneud cyflwyniadau am yrfaoedd a chynnig interniaethau i’w helpu i baratoi ar gyfer bywyd ar ôl Caerdydd.

Codwyr arian #TeamCardiff yn cymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd

Codwyr arian #TeamCardiff yn cymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd

Postiwyd ar 3 Hydref 2022 gan Alumni team

Ddydd Sul 2 Hydref, rhedodd tua 70 o gynfyfyrwyr, myfyrwyr a staff yn Hanner Marathon Caerdydd, i godi arian ar gyfer ymchwil Prifysgol Caerdydd yn rhan o #TeamCardiff. Eu nod yw codi £25,000 ar gyfer niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl, ac ymchwil canser.

Castell Gwrych: y stori tu ôl i leoliad newydd I’m a Celebrity

Castell Gwrych: y stori tu ôl i leoliad newydd I’m a Celebrity

Postiwyd ar 26 Hydref 2021 gan Kate Morgan (BA 2017)

Darganfu Mark Baker (MA 2008, PhD 2014) harddwch a chymhlethdod Castell Gwrych yn 11 oed ac mae wedi ymroi llawer o'i fywyd i'w warchod a'i adfer, yn ogystal â chyhoeddi ei lyfr cyntaf amdano yn 13 oed. Mae Mark yn disgrifio sut roedd y castell nid yn unig yn dal ei ddychymyg, ond hefyd llygad cynhyrchwyr ITV o I'm a Celebrity... Get Me Out of Here.

Y ffoadur o Syria sy’n helpu busnesau Cymru i ffynnu ar-lein

Y ffoadur o Syria sy’n helpu busnesau Cymru i ffynnu ar-lein

Postiwyd ar 23 Gorffennaf 2021 gan Kate Morgan (BA 2017)

Mae Naser Sakka (MSc 2019) yn ddyn teulu gwydn a gyrhaeddodd y DU yn 2015 fel ffoadur o Syria yn dilyn y rhyfel yno. Syrthiodd mewn cariad â Chymru ac, ar ôl iddo gwblhau cwrs a grëwyd ar gyfer ffoaduriaid ym Mhrifysgol Caerdydd, aeth yn ei flaen i ennill meistr a dechrau menter gymdeithasol sydd wedi helpu busnesau lleol, yn enwedig yn ystod y pandemig.

Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines

Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines

Postiwyd ar 22 Mehefin 2021 gan Kate Morgan (BA 2017)

Mae rhai o aelodau cymuned o gynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd wedi'u hanrhydeddu yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines.

Chwiorydd mewn busnes – cynnyrch cychod gwenyn

Chwiorydd mewn busnes – cynnyrch cychod gwenyn

Postiwyd ar 28 Ebrill 2021 gan Kate Morgan (BA 2017)

Astudiodd dwy chwaer, Gillian Nimmo (BSc 1985) a Jane Nimmo (BSc 1986) yr un cwrs ym Mhrifysgol Caerdydd dros 30 mlynedd yn ôl ac yn ddiweddar rhoddodd y ddwy eu pennau at ei gilydd i redeg busnes bach ecogyfeillgar o’r enw Let it Bee, yn gwerthu gofal croen cynaliadwy, sebon a cynhyrchion eraill o gychod gwenyn. Maen nhw'n gweithio yn eu ceginau eu hunain, gyda chymorth miloedd o wenyn prysur.