O'r 60 Aelod o'r Chweched Senedd, mae gan 22 gysylltiadau agos â Phrifysgol Caerdydd ac maent naill ai'n gynfyfyrwyr, yn Gymrodyr er Anrhydedd neu'n gyn-aelodau staff.
Mae cynfyfyriwr Prifysgol Caerdydd, Megan Wesley (BA 2015) yn gyd-sylfaenydd ac yn gyfarwyddwr yn Libratum, cwmni 'lles yn y gweithle' a greodd gyda'i mam cyn i COVID-19 daro. Mae Megan yn esbonio pam nawr, yn fwy nag erioed, bod lles mor bwysig ac yn rhannu rhai o'i hawgrymiadau gorau i weithwyr a chyflogwyr i'w helpu i greu lle cadarnhaol i weithio ynddo.
Mae Alex Moir (BA 2018) yn swyddog gweithredol marchnata a lwyddodd i gael ei swydd ddelfrydol drwy gymryd cyfle ar gwmni newydd, ar ôl gweithio mewn bariau yn Llundain i gael dau ben y llinyn ynghyd. Yma, mae'n egluro pam ei fod o'r farn y gall busnesau newydd fod yn ffordd wych o ddechrau ar eich gyrfa.
Mae wedi bod yn flwyddyn neu ddwy anarferol, a p'un a wnaethoch chi ymuno â Hanner Marathon Caerdydd filiwn o flynyddoedd yn ôl neu'n ddiweddar iawn, gall codi arian ymddangos yn lletchwith yn dilyn pandemig byd-eang. Ond mae rheolau COVID-19 ar draws sawl rhan o'r DU a'r byd yn newid. Mae llawer ohonom yn dechrau mentro allan i'r byd a gwneud pethau. I'ch helpu chi i ddechrau arni, mae gennym syniadau syml (a hawdd) i godi arian.
Y mis hwn, mae crewyr her 5k y cyfnod clo, Run For Heroes, wedi lansio digwyddiad rhedeg rhithwir newydd, #5kMay. Darllenwch ragor am sut i gefnogi ymchwil Prifysgol Caerdydd drwy gymryd rhan yn eich 5k eich hun ym mis Mai.
Ar ôl deuddeng mlynedd yn yr Ysgol Peirianneg, penodwyd yr Athro Jianzhong Wu yn Bennaeth yr Ysgol ym mis Medi 2020, yng nghanol y pandemig. Buon ni’n ei holi am arwain yr Ysgol yn ystod y cyfnod heriol hwn, ei flaenoriaethau, a'i ddyheadau ar gyfer y dyfodol.
Astudiodd dwy chwaer, Gillian Nimmo (BSc 1985) a Jane Nimmo (BSc 1986) yr un cwrs ym Mhrifysgol Caerdydd dros 30 mlynedd yn ôl ac yn ddiweddar rhoddodd y ddwy eu pennau at ei gilydd i redeg busnes bach ecogyfeillgar o’r enw Let it Bee, yn gwerthu gofal croen cynaliadwy, sebon a cynhyrchion eraill o gychod gwenyn. Maen nhw'n gweithio yn eu ceginau eu hunain, gyda chymorth miloedd o wenyn prysur.
Mae grŵp o gynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd wedi cychwyn eu helusen eu hunain o'r enw'r Little Environmental Action Foundation (LEAF). Mae Freddie Harvey Williams (BSc 2014) yn ysgrifennu am ei daith tuag at gadwraeth a gweithio gyda'i ffrindiau o Gaerdydd.
Mae Dr Darren Freebury-Jones (BA 2010, MA 2012, PhD 2016) yn gyn-fyfyriwr sydd wedi cael tri gradd yng Nghaerdydd ac yn ddarlithydd Shakespeare poblogaidd yn Stratford-upon-Avon. Mae ei angerdd wedi arwain at ddarganfyddiadau rhyfeddol am fyd llenyddiaeth. Mae'n egluro pam y dewisodd ymroi ei hun i'r Bardd, a'r gwersi y mae wedi'u dysgu ar y ffordd.
Yn ddiweddar, lansiodd y Brifysgol Strategaeth Gymraeg newydd a chynhwysfawr a fydd yn canolbwyntio ar ddathlu, hyrwyddo a chysylltu â'r Gymraeg ar draws pob agwedd ar fywyd y Brifysgol. Mae'r strategaeth yn cynnig agenda diwylliannol a chymunedol clir a diffiniedig, wedi'i chynllunio i ategu a chyfrannu at ddyheadau ymchwil, addysgu a rhyngwladol cyffredinol y Brifysgol.
Mae Sarah John (BA 2011), sylfaenydd a chyfarwyddwr Boss Brewing, yn fenyw sy'n benderfynol i gyflawni ei nodau a thorri rhwystrau ar hyd y ffordd. Yma, mae'n disgrifio taith gyffrous llawn llwyddiannau busnes, gan frwydro yn erbyn cewri corfforaethol, dod â'i baban newydd-anedig i gyfarfodydd, a herio'r drefn sydd ohoni yn gyffredinol.
Ar ôl saith mis yn y swydd fel Pennaeth newydd yr Ysgol Deintyddiaeth, cawsom air gyda'r Athro Nicola Innes am ei phrofiad yn y rôl, ei blaenoriaethau a'i gobeithion ar gyfer y dyfodol.
Cheryl Luzet (BA 1999), yw sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol asiantaeth farchnata ddigidol Wagada. Mae ei thîm yn helpu cwmnïau ledled y byd i ddatblygu a chreu cysylltiadau. Enwodd Small Business Britain hi yn un o 100 o entrepreneuriaid benywaidd mwyaf ysbrydoledig y DU. Yma, mae Cheryl yn rhannu eu hawgrymiadau defnyddiol ar rwydweithio ar gyfer pan fydd digwyddiadau wyneb yn wyneb yn dychwelyd.
Aeth bywyd proffesiynol a phersonol Adetoun Mustapha (MPH 1999) yn Nigeria yn brysur iawn pan darodd COVID-19. Cafodd ei hun mewn sefyllfa i helpu i ysgogi newid go iawn a brwydro yn erbyn newyddion ffug o amgylch iechyd y cyhoedd. Yma, mae'n disgrifio ei phrofiad o lywio ffordd newydd o weithio a byw, astudio lledaeniad COVID-19, a siarad allan am faterion cyfiawnder amgylcheddol.
Ym 1898, cynigiodd Prifysgol Caerdydd gyfle i fenyw ifanc a gafodd effaith enfawr nid yn unig arni hi, ond ar y menywod yn ei theulu a ddilynodd ei holion traed. Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, rydym yn siarad ag wyresau Cassie am bwysigrwydd addysg ar gyfer grymuso menywod.
Mae Canolfan Ymchwil Awtistiaeth Cymru (WARC) wedi bod wrth wraidd polisïau ac arferion pwysig ers 10 mlynedd, gan ddarparu data y gellir ei drosi yn gamau gweithredu ac sy'n cael effaith wirioneddol ar weithwyr proffesiynol yn y gymuned awtistig. Mae cyn-gyfarwyddwyr a chyfarwyddwyr presennol WARC yn cwrdd i fyfyrio ar eu cyflawniadau gan edrych ymlaen at y 10 mlynedd nesaf.
Anthropolegwr meddygol yw Harriet Quinn-Scoggins (PhD 2019) sy'n canolbwyntio ar ymchwil canser. Roedd unwaith yn rhan o raglen Arweinwyr Ymchwil Canser y Dyfodol (FLiCR), ac mae bellach yn cymryd rhan yn yr astudiaeth agweddau ac ymddygiadau canser COVID-19. Yma mae'n esbonio pam bod ymagwedd anthropolegol yn bwysig, a sut gall yr ymchwil hon wella diagnosis cynnar o ganser.
Gwnaethom siarad â Dr Erik Mire, Prif Ymchwilydd a Chymrawd Ymchwil Hodge yn Sefydliad Ymchwil y Niwrowyddorau ac Iechyd Meddwl Prifysgol Caerdydd, am ei ymchwil sy'n edrych sut y gall dietau mamau effeithio ar ddatblygiad yr ymennydd mewn babanod yn y groth.
Mae Glyn Lloyd (PhD 2008, PGDip 2007, MSc 2003, LLB 2002) yn Bartner a Sylfaenydd Newfields Law yng Nghaerdydd. Cwmni sy'n arbenigo mewn cyfraith mewnfudo. Gan ei fod wedi gwirfoddoli fel myfyriwr, mae Glyn wedi parhau i wneud hynny ar ôl graddio, gan rannu ei brofiad a'i arbenigedd er mwyn helpu myfyrwyr i wireddu eu potensial, ni waeth beth yw eu cefndir.