Skip to main content

#TeamCardiffDonateNewyddion

Rhedwr cyfnod clo yn cystadlu yn ei hanner marathon cyntaf

29 Tachwedd 2021

Dechreuodd Mark Woolner (BScEcon 1995) redeg yn ystod cyfnod clo cyntaf y DU ac mae’n dychwelyd i Gaerdydd bron i 30 mlynedd ar ôl graddio, i gymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd yn 2022. Mae’n rhannu ei gymhelliant, ei ysbrydoliaeth a’r hyn y mae’n edrych ymlaen ato ar ddiwrnod y ras.  

Dechreuoch chi redeg y llynedd. Beth ysbrydolodd chi i ddechrau a sut mae’r hyfforddiant yn dod ymlaen?  

Yn 47 oed, edrychais yn y drych ar ddechrau’r cyfnod clo cyntaf a sylwais fy mod yn ganol oed ac wedi magu pwysau. Penderfynais nad oeddwn yn hapus gyda hyn. Felly dechreuais ymarfer corff, heb ddisgwyl y byddwn yn glynu ato, ond wrth weld y canlyniadau’n gyflym cefais fy ysbrydoli i ddal ati.  

Roeddwn i’n canolbwyntio ar ymarferion i gryfhau cyhyrau’r abdomen, yna dechreuais redeg er mwyn gwneud ychydig o ymarfer corff cardio. Yn ystod y misoedd cyntaf roeddwn i’n rhedeg tua 2-3km ar y tro, ond roedd yn dod yn haws, felly gwnaeth ffrind sy’n rhedwr fy annog i wthio fy hun. Ar benwythnosau olynol, llwyddais i redeg 5k, 10k, 15k ac yna 20k – roedd y teimlad o gyflawniad yn anhygoel ac nid wyf wedi edrych yn ôl! 

Beth wnaeth eich ysbrydoli i redeg Hanner Marathon Caerdydd?  

Dwi ddim yn arfer cymryd rhan mewn digwyddiadau wedi’u trefnu, ond dywedodd ffrind i mi sydd â merch yn astudio yng Nghaerdydd ei fod wedi cofrestru ar gyfer yr hanner marathon ac mi berswadiodd fi i ymuno ag ef! Cefais fy argyhoeddi gan fod yr hanner marathon yng Nghaerdydd, un o fy hoff ddinasoedd yn y byd, a’r lle y bûm yn fyfyriwr yn y brifysgol yn y 1990au.  

Pam wnaethoch chi ddewis rhedeg ar gyfer ymchwil canser Prifysgol Caerdydd? 

Mae gan fy mam ganser y coluddyn eilaidd ac rwyf wedi bod yn dyst ar ddau achlysur yn ystod y pum mlynedd diwethaf i effaith ddinistriol y clefyd ofnadwy hwn a’i driniaeth ar y person a’r rhai o’u cwmpas. Mae gennyf hyder y bydd y gwaith y mae Prifysgol Caerdydd yn ei wneud yn cael effaith gadarnhaol ar allu concro canser o’r diwedd. 

Unrhyw gyngor hyfforddi y gallwch ei rannu – yn enwedig wrth i ddiwrnod y ras agosáu? 

Mae’n swnio’n hurt, ond credwch yn eich hun, ymddiriedwch yn eich corff, a gwthiwch eich hun yn ddigon i fynd yr ail filltir honno (yn llythrennol!)  

Sut aethoch chi ati i godi arian?  

Gosodais darged o £500 i mi fy hun a dechreuais godi arian ar Facebook, ond dwi heb wneud ymdrech fawr eto. Byddaf yn dechrau hyrwyddo mwy yn y flwyddyn newydd wrth i ddiwrnod y ras agosáu. Rwy’n gwybod y gallaf ddibynnu ar deulu a ffrindiau agos, ond rwy’n gobeithio y bydd neges wedi’i hamseru’n dda ar y cyfryngau cymdeithasol yn ennyn ymatebion gan hen ffrindiau! 

Beth sy’n eich cymell yn ystod cyfnod hir o redeg?  

Cyflawniad personol, mwynhau bod yn yr awyr agored, cyfle i anghofio am fywyd arferol a gwybod fy mod yn gwneud rhywbeth gwerth chweil ar gyfer fy iechyd corfforol a meddyliol. Roeddwn i’n arfer casáu clywed rhedwyr profiadol yn siarad am endorffinau positif ac ati, ond rydw i bellach wedi sylweddoli eu bod nhw’n hollol iawn! 

Beth yw barn eich ffrindiau a’ch teulu am eich hyfforddiant marathon? 

Maen nhw i gyd yn gefnogol iawn, er eu bod nhw’n synnu sut rydw i wedi dal ati ac wedi dod i’w fwynhau’n fawr – ac mae bellach yn rhan annatod o fy mywyd. Maent yn cydnabod yr effaith gadarnhaol y mae rhedeg wedi’i chael arnaf. Er yn achlysurol, rwy’n siŵr bod rhai ohonyn nhw wedi cael llond bol ar weld fy negeseuon hunan-longyfarch ar gyfryngau cymdeithasol pan rydw i wedi cyrraedd carreg filltir neu wedi cyflawni amser gorau (PB)!  

Beth ydych chi’n edrych ymlaen ato fwyaf ar ddiwrnod y ras? 

Cael fy mhrofiad cyntaf o fod yn rhan o ddigwyddiad wedi’i drefnu, mwynhau’r awyrgylch a chefnogaeth y torfeydd a gweld pa mor bell y gallaf wthio fy hun. 

Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gael bod ‘nôl yng Nghaerdydd hefyd! Mae gen i atgofion melys o fy amser yno ac nid wyf wedi bod yn ôl i ymweld yn aml. Bydd yn anhygoel rhedeg o amgylch rhai o’r lleoedd yr ymwelais â hwy yn aml yn y gorffennol, yn ogystal â rhai newydd – ni allaf gredu nad wyf wedi croesi’r morglawdd eto! 

Pa gyngor sydd gennych i unrhyw un sy’n ystyried ymuno â her codi arian?  

Ewch amdani – mae’n dda i chi’n bersonol ac i’r Brifysgol – byddwch yn rhedeg dros achos anhygoel ac yn cefnogi ymdrech academaidd barhaus. 

Gallwch gefnogi ymdrech Mark i godi arian tuag at ymchwil canser Prifysgol Caerdydd drwy gyfrannu at ei dudalen JustGiving.  

Rhedwch Hanner Marathon Caerdydd dros #TeamCardiff

Mynegwch eich diddordeb gyda ni a byddwn yn cysylltu i roi rhagor o wybodaeth am sut i gwblhau’r broses gofrestru a hawlio eich lle am ddim ar #TîmCaerdydd.