Skip to main content

Cyswllt CaerdyddDonateNewyddionUncategorized @cy

Lleoliadau Blas ar Fyd Gwaith: mantais amlwg i unrhyw fusnes

9 Medi 2021

Cymerodd Beth Addison (BSc 2019) ran mewn Lleoliad Blas ar Fyd Gwaith Prifysgol Caerdydd gyda Microsoft, ac ar ôl wythnos yn unig cafodd awydd i weithio ym maes technoleg. Cafodd ei thywys drwy’r sefydliad gan Arweinydd Addysg Uwch Microsoft a chynfyfyriwr Prifysgol Caerdydd, Elliot Howells (BSc 2016), ac mae hi bellach wedi gweithio am ddwy flynedd fel Arbenigwr Datrysiadau Azure ar gyfer Manwerthu, lletygarwch a Theithio gyda Microsoft. 

Lleoliadau gwaith byr yw lleoliadau Blas ar Fyd Gwaith Prifysgol Caerdydd sy’n caniatáu cyflogwyr a myfyrwyr i gydweithio. Mae myfyrwyr yn cael dealltwriaeth o ddiwydiant ac mae cyflogwyr yn gallu sylwi ar dalent a datblygu eu gweithdrefnau recriwtio. Yn ystod ei hastudiaethau, gwnaeth Beth gais am leoliad Blas ar Fyd Gwaith gyda Microsoft, ac roedd Elliot yn hapus i ddangos y drefn iddi.

Beth wnaeth i chi wneud cais am y lleoliad Blas ar Fyd Gwaith gyda Microsoft?

Beth:
Wrth astudio ym Mhrifysgol Caerdydd, fe wnes i fanteisio ar bob cyfle posibl i gymryd rhan mewn gweithdai oedd yn gysylltiedig â gyrfaoedd. Roeddwn i’n gwybod nad oedd gyrfa draddodiadol ym maes cemeg (fy ngradd israddedig) yn addas i mi ac roeddwn i eisiau sicrhau fy mod i’n gallu marchnata fy hun fel ymgeisydd deniadol ar draws diwydiannau eraill. Gwelais y cyfle i gysgodi Elliot a bachais arno i ddysgu am y diwydiant technoleg. Nid oeddwn wedi ystyried gyrfa mewn technoleg ac roeddwn yn tybio na fyddai gennyf y cefndir priodol ar ei chyfer.

Beth wnaeth eich annog i gynnig lleoliad Blas ar Fyd Gwaith i fyfyriwr o Brifysgol Caerdydd?
 
Elliot: Rwy’n gwybod pa mor hanfodol oedd cael profiad bywyd go iawn i mi, gan roi’r cyfle i weld sut mae sefydliad yn cael ei redeg, ac fe wnaeth fy helpu i bennu llwybr fy ngyrfa. Roeddwn i’n teimlo’n ffodus iawn bod gen i’r hyblygrwydd yn fy rôl i allu cynnig y profiad hwnnw i rywun ac roedd yn teimlo fel y peth iawn a naturiol i’w wneud! Fe wnes i fwynhau’n fawr cael Beth yn y tîm am wythnos ac ni fyddwn yn oedi cyn gwneud hynny eto.

Sut oedd y broses recriwtio?
 
Elliot: Hwylus dros ben. Y tîm wnaeth yr holl waith caled a pharatoi set o ymgeiswyr i mi oedd wedi’u paratoi’n dda. Roeddwn i’n gallu cwrdd â nhw’n rhithwir a deall yr hyn y gallent ei gynnig a’r hyn y byddent yn ei gael o’r profiad. Gwnaeth Beth argraff dda iawn arnaf ac fe wnaeth y tîm yng Nghaerdydd sirchau bod popeth yn ei le er mwyn iddi ddechrau gyda ni yn ystod gwyliau’r Pasg.

A allwch chi ddweud ychydig bach wrthym am yr hyn yr oedd eich lleoliad Blas ar Fyd Gwaith yn ei olygu? 

Mae Microsoft yn sefydliad enfawr ac fe wnaeth Elliot fy nghyflwyno i bobl o wahanol feysydd busnes ac o sawl rôl i roi syniad i mi o ba mor fawr yw’r sefydliad.

Cefais y cyfle i weithio ar ddogfen fasnachol i gefnogi Elliot ac roedd yn wych gweld y prosesau o’r dechrau i’r diwedd oedd yn gysylltiedig â’r rôl i roi’r ddealltwriaeth i mi a fyddai hyn yn rhywbeth yr hoffwn ei wneud yn y dyfodol.

Uchafbwynt i mi oedd gweld Elliot yn cyflwyno i sefydliad Addysg Uwch ar ‘gelfyddyd yr hyn sy’n bosibl’ gyda Phrofiad Cwsmeriaid Microsoft Dynamics. Gwnaeth ei allu trawiadol o adrodd hanes a ddefnyddir i arddangos nodweddion cynhyrchion Microsoft wneud i mi feddwl mae hyn yn rhywbeth yr hoffwn i allu ei wneud.

Beth oedd y pethau allweddol y gwnaethoch chi eu dysgu yn ystod eich lleoliad Blas ar Fyd Gwaith a sut mae wedi eich helpu chi yn eich gyrfa?

Beth: Y peth mwyaf arwyddocaol i mi ddysgu oedd bod swydd yn bodoli a oedd yn cyfuno meithrin perthynas â phobl newydd, deall y datblygiadau diweddaraf ym maes technoleg a gallu rhannu hyn â gweithwyr proffesiynol TG sy’n awyddus i glywed amdano. Cyn y lleoliad Blas ar Fyd Gwaith, nid oeddwn yn gwybod y gallai hon fod yn yrfa bosibl, heb sôn y byddwn yn cael y profiad i’w dilyn. 

Sut gwnaeth eich tîm elwa o gael myfyriwr gyda chi ar brofiad gwaith?
 
Elliot: Roedd Beth yn fwy na pharod i fynd i’r afael â thasgau ar unwaith, felly roedd fel cael pâr ychwanegol o ddwylo am wythnos. Ymunodd Beth â mi mewn cyfarfodydd cwsmeriaid, fy nghefnogi i baratoi cynnig masnachol yn ogystal ag ymgymryd â rhai o fy nhasgau sy’n ymwneud â phrosesau gwaith yn bennaf. Mae yna fanteision hefyd i dreulio amser gyda rhywun yn gynharach yn eu gyrfa, gan esbonio wrthyn nhw beth yw hanfodion eich rôl a pham rydych chi’n ei mwynhau!

Ydych chi’n meddwl bod cymryd rhan mewn lleoliad Blas ar Fyd Gwaith yn hanfodol i gael gwaith gyda Microsoft?

Beth: Er fy mod i’n gallu darllen am ddiwylliant Microsoft a gwylio fideos am y cynhyrchion, ni fyddai unrhyw beth yn cymharu â chwrdd â gweithwyr a’u gweld wrth eu gwaith. Roedd y lleoliad Blas ar Fyd Gwaith yn hollbwysig o ran fy nghysylltu ag Elliot, rhywun a fyddai’n mynd ymlaen i’m cefnogi yn fy nghais a thawelu fy nerfau cyn cyfweliad. Trafododd Elliot a minnau sut y byddwn yn mynd i’r afael â chwestiynau cyfweliad a rhoddodd hyder i mi na fyddwn wedi ei gael fel arall.

Sut mae cael cefnogaeth gan Elliot wedi dylanwadu ar eich taith broffesiynol?

Beth: Mae Elliot wedi bod yn hynod gefnogol i’m gyrfa hyd yma, rwy’n teimlo mor ffodus i gael mentor a ffrind mor wych. Gall mynd i mewn i sefydliad mawr yn syth o’r brifysgol fod yn frawychus ac fel y mae’r holl weithwyr proffesiynol yn cael eu hatgoffa, mae eich rhwydwaith mor bwysig. 

Ers i Beth ymuno â Microsoft fel gweithiwr amser llawn rydych chi wedi dod yn fentor iddi – pam ydych chi’n meddwl bod mentora ac adeiladu cysylltiadau yn bwysig ar gyfer datblygiad proffesiynol?

Elliot: Rydyn ni’n siarad am gael “Meddylfryd Twf” yn Microsoft, bod yn rhywun sydd am ddysgu popeth yn hytrach na rhywun sy’n gwybod popeth, ac er bod hynny efallai’n gallu swnio fel jargon corfforaethol, byddwch chi’n teimlo manteision y diwylliant hwnnw bob dydd. Credaf yn gryf mai un o’r ffyrdd gorau o ddysgu yw drwy ddeall safbwyntiau pobl eraill a dysgu o’r ffordd maen nhw’n gwneud pethau, lle mae pethau wedi gweithio’n dda iddyn nhw, beth fydden nhw’n ei wneud yn wahanol yn y dyfodol a gweld pethau o’u persbectif nhw. Am yr holl resymau hyn rydw i’n fentor ac yn fentai – yn cefnogi eraill gyda’u datblygiad eu hunain ond hefyd yn dysgu fy hun.

A fyddech chi’n argymell lleolaid Blas ar Fyd Gwaith i fyfyrwyr eraill? 

Beth: Yn bendant. Nid oes amheuaeth bod fy lleoliad Blas ar Fyd Gwaith yn Microsoft gydag Elliot wedi newid llwybr fy ngyrfa. Hyd yn oed os oeddech chi’n ansicr a yw’r diwydiant yn addas i chi, mae lleoliad Blas ar Fyd Gwaith yn rhoi cyfle i chi ymgolli’n llawn mewn sefydliad, cwrdd â gweithwyr a gweld a yw hwn yn faes yr hoffech weithio ynddo.

Beth fyddech chi’n ei ddweud wrth gynfyfyriwr o Brifysgol Caerdydd sy’n ystyried cynnig lleoliad Blas ar Fyd Gwaith i fyfyriwr?

Beth: Ni allaf ei argymell ddigon. Gallwch agor llygaid rhywun i yrfa nad oeddent erioed wedi’i hystyried a gall y myfyriwr gynnig persbectif newydd ar yr hyn rydych chi’n gweithio arno hefyd.    

Elliot: Ni allaf ei argymell ddigon. Nid wyf eto wedi cwrdd â myfyriwr graddedig o Gaerdydd nad yw’n canmol y profiad anhygoel a gawsant tra yn y Brifysgol ac sy’n priodoli eu llwyddiant i’r profiadau a gawsant. Rwy’n teimlo mai dyma’r peth iawn i’w wneud i roi yn ôl i fyfyrwyr cyfredol a chynnig cyfleoedd iddynt ffynnu. Mae cymryd rhan yn y broses recriwtio hefyd yn golygu y gallwch ddewis ymgeisydd fydd yn gwella’ch tîm, felly mae llawer o manteision hefyd!

Os hoffech chi gysylltu â Beth neu Elliot a chael rhywfaint o gyngor neu ofyn iddynt eich mentora, gallwch gysylltu â nhw ar ein platfform Cysylltiad Caerdydd i gynfyfyrwyr. Rhagor o wybodaeth am sut y gallwch chi gefnogi myfyrwyr Caerdydd i ennill profiad gwaith gwerthfawr yn y byd go iawn drwy gynnig Interniaethau, lleoliad gwaith neu roi rhodd