Skip to main content

Cyswllt CaerdyddDonateNewyddion

Grymuso’r genhedlaeth nesaf o gynfyfyrwyr benywaidd Prifysgol Caerdydd drwy fentora

3 Rhagfyr 2021

Gwnaeth Joanna Dougherty (BScEcon 2017) gymryd rhan yn ein cynllun Menywod yn Mentora, lle mae graddedigion benywaidd yn cael eu mentora am gyfnod byr gan gynfyfyrwyr benywaidd llwyddiannus. Mae ein mentoriaid benywaidd yn rhoi arweiniad a chymorth ac yn helpu i ysbrydoli a grymuso’r genhedlaeth nesaf o gynfyfyrwyr benywaidd Prifysgol Caerdydd.  

Cafodd Joanna, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Byd-eang – Profiad y Cleient yn JLL, ei mentora gan Dr Linda Wilding (BSc 1980, PhD 1985), sydd wedi dilyn gyrfa ddisglair fel Cyfarwyddwr Anweithredol. Cawsom sgwrs â Joanna i drafod sut y gwnaeth cymorth Linda ei helpu i gymryd y camau nesaf yn ei gyrfa a sicrhau dyrchafiad enfawr.    

Beth oedd eich rhesymau dros wneud cais i’r cynllun Menywod yn Mentora? 

Rwyf bob amser yn ceisio cymryd rhan mewn pethau fel hyn, hyd yn oed os ydynt yn codi ofn arnaf neu’n gwneud i mi deimlo’n anghyfforddus, gan nad ydych byth yn gwybod pwy rydych yn mynd i gwrdd ag ef. Roedd y cyfle i siarad â menyw lwyddiannus mewn busnes yn un nad oeddwn yn gallu ei golli.

Beth oedd dan sylw? 

Gwnaeth fy mentor a minnau gyfarfod am y tro cyntaf dros Skype ym mis Mawrth. Roedd yr amseru’n wych – roedd rhywfaint o newid wedi bod yn y cwmni, ac roeddwn yn wynebu penderfyniadau ynghylch llwybr fy ngyrfa yn ogystal â pharatoi ar gyfer cyfweliadau mewnol. Cawsom ychydig o alwadau dros gyfnod o ychydig wythnosau, a gwnaeth fy helpu i nodi beth roeddwn am ei gael o’m rôl, yn y tymor hir a’r tymor byr. Roedd gallu elwa ar ei gwybodaeth a chael cyngor ar yr adeg honno mor ddefnyddiol, a phan ymgeisiais am ddyrchafiad, cafodd y swydd ei chynnig i mi yn ystod y cyfweliad!

Pa brif bethau y gwnaethoch eu dysgu wrth gael eich mentora? 

Gormod o bethau i’w rhestru, o bosibl! Mae fy mentor a minnau wedi trafod cymaint yn ystod ein cyfarfodydd. Gwnaeth rannu awgrymiadau ar gyfer cyfweliadau swydd tra oeddwn yn chwarae rôl y cyfwelai, a’r cyfwelydd ar ôl hynny. Gwnaeth hefyd roi cyngor i mi ar gadw fy mhen yn ystod cyflwyniadau a gweithio’n effeithiol gyda phobl mewn gwahanol wledydd, sydd wedi dod yn bwysig iawn i mi’n ddiweddar ar ôl symud i rôl fyd-eang.

Sut mae mentora wedi eich helpu, yn eich barn chi? 

Mae mentora wedi fy helpu drwy roi cyngor amhrisiadwy i mi, cynyddu fy hyder ac ehangu fy rhwydwaith. Rwyf hefyd yn meddwl y bydd yn fy helpu i ddod yn fentor da yn y dyfodol, gan fy mod bellach yn gwybod beth yw mentor ‘da’. 

A fyddech yn argymell mentora i gynfyfyrwyr eraill? 

Heb os nac oni bai. Mae cymaint o sefyllfaoedd lle gall rhywfaint o gyngor diduedd gan rywun profiadol fod yn werthfawr dros ben. Nid yw’n cymryd llawer o’ch amser, sy’n golygu nad oes gennych unrhyw beth i’w golli.

A ydych wedi cadw mewn cysylltiad â’ch mentor? 

Yn sicr. Rydym yn siarad bob mis fwy neu lai. Gwnaethom hyd yn oed gwrdd â’n gilydd wyneb-yn-wyneb am y tro cyntaf ychydig wythnosau’n ôl!

Beth fyddech yn ei ddweud wrth un o gynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd a oedd yn ystyried dod yn fentor?  

Ewch amdani! Unwaith eto, nid yw’n cymryd gormod o’ch amser, ond o’m mhrofiad i, gallech gael effaith fawr ar rywun ar gam cynnar yn ei yrfa. 

Cysylltwch â Joanna ar Cysylltiad Caerdydd, ein llwyfan rhwydweithio i gynfyfyrwyr lle gallwch ddod o hyd i gyfleoedd newydd, trosglwyddo eich arbenigedd a manteisio ar gymorth unigryw.