Skip to main content

Cyswllt CaerdyddNewyddion

I Orwedd Mewn Preswylfeydd – cynfyfyrwyr Caerdydd yn anfon negeseuon tymhorol o gefnogaeth i’r flwyddyn gyntaf

8 Rhagfyr 2021

Mae cymuned cynfyfyrwyr Caerdydd wedi cysylltu â myfyrwyr y flwyddyn gyntaf mewn neuaddau preswyl i anfon negeseuon tymhorol o gefnogaeth a dangos iddyn nhw fod eu perthynas â Phrifysgol Caerdydd yn un sy’n para am oes.

Mae cynfyfyrwyr o bob cwr o’r byd wedi cymryd rhan, gan rannu eu geiriau doeth, dymuniadau da, ac atgofion melys o Gaerdydd.

Cafodd y negeseuon eu rhoi mewn cardiau, a oedd wedyn yn cael eu danfon â llaw i bron i 900 o fflatiau mewn neuaddau prifysgol, gan gorachod Nadoligaidd y tîm Bywyd Preswyl. Dyma rai o’r negeseuon hyfryd a ranwyd.

Roedd Theodora Ackers, myfyriwr ieithoedd blwyddyn gyntaf, a’i chyd-letywyr mor falch o dderbyn eu cerdyn, fe wnaethon nhw ddiolch i’r cynfyfyriwr a’i anfonodd.

Os ydych wedi derbyn cerdyn a hoffech ddiolch i’r cynfyfyriwr, trydarwch eich neges i @Cardiffalumni gyda #DeckTheHalls neu ebostiwch alumni@cardiff.ac.uk.

Os ydych chi’n gynfyfyriwr o Gaerdydd a hoffech gefnogi myfyrwyr Caerdydd, yn ogystal â’ch cyd-gynfyfyrwyr, cofrestrwch ar gyfer Cyswllt Caerdydd, ein llwyfan rhwydweithio i gynfyfyrwyr. Trosglwyddo eich arbenigedd, datblygu eich rhwydwaith proffesiynol a rhannu cyfleoedd.