
Cyfres o ryseitiau gan arbenigwyr yn y diwydiant bwyd a diod yw Recipes for Success. Wedi’i greu yn wreiddiol fel llyfr ryseitiau ar gyfer myfyrwyr newydd, mae cogyddion cyn-fyfyrwyr, blogwyr bwyd a pherchnogion bwytai yn hael yn rhannu eu ryseitiau blasus, hawdd eu gwneud. Darganfyddwch fwy am ein cyn-fyfyrwyr disglair yn y gegin wrth wneud rhywbeth blasus!
Dyma’r cogydd
Bu Laura Graham (BA 2008) yn gweithio fel prif gogydd ar iotiau mawr preifat ac erbyn hyn hi yw cyfarwyddwr a phrif gogydd The Tidy Kitchen, cwmni arlwyo sy’n defnyddio bwyd lleol i wneud prydau maethlon. Astudiodd Laura Lenyddiaeth Saesneg yng Nghaerdydd a bu’nbyw ar basta fel myfyriwr.
“Mae pasta yn ddefnyddiol ac yn rhad, ac yn arfer bod yn brif ran llawer o brydau bwyd yng Ngogledd Tal-y-bont. Mae’n wych i’w rannu, gallwch ddefnyddio bag o ddail salad neu ychwanegu bara garlleg i fwydo grwˆ p cyn noson allan neu i gael egni eto ar ôl gwneud chwaraeon.”
Dewch i ni goginio…
Rhestr siopa:
225g o basta penne (bydd pasta
cyflawn yn eich llenwi am ragor o
amser)
2 llwy fwrdd o olew olewydd
1 winwnsyn gwyn, wedi’i dorri’n fân
2 ewin o arlleg, wedi’u gwasgu
500g o friwgig eidion (500g o friwgig
Quorn i lysieuwyr)
2 tun o domatos wedi’u torri
1 llwy fwrdd o biwrî tomato
1 llwy de o bowdr tsili
1 llwy de o halen
Pupur
Caws Parma/cheddar wedi’i gratio
Bydd arnoch angen:
Sosban
Colandr neu ogr
Padell ffrio
Dysgl pobi
Dull:
Cam 1
Cynhesu’r ffwrn i 200˚C Coginio pasta mewn dŵr a halen nes ei fod yn feddal (gwirio manylion y pecyn i wneud yn siŵr). Ei ddraenio a’i adael i oeri.
Cam 2
Mewn padell ffrio boeth, brownio briwgig (neu Quorn) nes ei fod wedi digoni, ei roi mewn powlen ar y naill ochr, gan ddraenio a thaflu unrhyw fraster o’r briwgig.
Cam 3
Yn yr un badell ffrio, ychwanegu winwns/nionod dros wres isel am 10 munud nes eu bod yn feddal. Ychwanegu’r garlleg a’i goginio nes ei fod yn sawrus. Ychwanegu’r piwrî tomato a’i goginio am 30 eiliad.
Cam 4
Ychwanegu’r tomatos wedi’u torri, y fflawiau tsili a’r briwgig a’u coginio dros wres uwch am 15 munud i dynnu asidedd o’r tomatos a gadael i’r saws dewychu. Rhoi sesnin o halen a phupur.
Cam 5
Ychwanegu’r saws hwn at y pasta wedi’i goginio ac yna gwasgaru haen ar waelod y ddysgl pobi. Taenu caws Parma neu cheddar drosto. Pobi’r cyfan mewn ffwrn wedi’i chynhesu ymlaen llaw nes ei fod yn euraidd, am tua 15 munud.
Dewisol:
Taflu ychydig o bys wedi’u rhewi, sbigoglys, neu gêl i mewn i wneud hwn yn bryd iach iawn. Ar gyfer opsiynau figan, defnyddio cawsiau tofu a figan.
Yn ôl ein profwr Kate Morgan (BA 2017, MA 2020) sy’n gynfyfyriwr…
“Dwi’n fawr o gogydd, a dwi’n hyfforddi ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd (ewch #TeamCardiff!) felly mae angen prydau bwyd hawdd sy’n fy llenwi. Roedd hwn yn berffaith. Os oes bwyd dros ben, mae’n flasus o’i ail-gynhesu’r diwrnod wedyn.”