Skip to main content

#TeamCardiffDonateNewyddion

Rhedwyr Marathon Llundain #TîmCaerdydd yn codi arian i ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd

22 Medi 2021

Marathon Llundain yw un o ddigwyddiadau rhedeg mwyaf poblogaidd y byd ac mae’n codi miliynau i elusennau bob blwyddyn. Ar ôl cael ei ohirio yn 2020, mae’r byd yn fwy awyddus nag erioed i fwynhau’r digwyddiad eleni a gynhelir ddydd Sul 3 Hydref 2021. Gydag ond ychydig o wythnosau ar ôl i hyfforddi, mae rhedwyr #TîmCaerdydd eleni yn ymateb i’r her.

Dewch i gwrdd â: Nic Clarke

Nic Clarke yw Rheolwr Gweithredu Canolfan Ymchwil Canser Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd. Cafodd le ym Marathon Llundain drwy’r balot ac mae wedi dewis codi arian ar gyfer ymchwil niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl, a chanser ym Mhrifysgol Caerdydd, a’i ddewis elusen arall, Movember.

Beth oedd wedi eich ysbrydoli i redeg Marathon Llundain ar gyfer ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd?

Mae gen i flog o’r enw 1 small-step, y dechreuais ei ysgrifennu pan roeddwn i’n gwella ar ôl wynebu problemau iechyd meddwl fy hun. Sylweddolais i fod rhaid imi reoli fy mywyd drwy wneud un peth yn wahanol, drwy gymryd yr un cam bach hwnnw.

Mae Marathon Llundain bob amser yn rhywbeth roeddwn i wedi meddwl cymryd rhan ynddo. Mae’n ddoniol – dwi’n gwybod cymaint am logisteg rasys, a minnau’n sefyll ar y llinell derfyn fel trefnydd digwyddiadau rhedeg ers blynyddoedd, ond y gwir amdani nad ydw i erioed wedi cymryd rhan mewn ras o’r blaen. Fues i ddim yn rhedeg yn ystod 50 mlynedd gyntaf fy mywyd!

Nid oedd yn anodd iawn imi ddewis cefnogi achos lleol ochr yn ochr â Movember, lle rwy’n llysgennad iechyd meddwl. Gan wybod y gallai’r arian y byddwn i’n ei godi ar gyfer y Brifysgol gael ei gyfeirio tuag at ymchwil niwrowyddoniaeth, iechyd meddwl a chanser, dyna imi oedd y dewis perffaith ar gyfer y gwaith o godi arian. 

Sut mae’r hyfforddiant yn dod ymlaen?

Mae fy mywyd fel pe bai’n yn troi o amgylch rhedeg, meddwl am redeg, tanwydd ar gyfer rhedeg, deall y logisteg, felly mae wedi mynd â llawer iawn o fy amser i. Mae trefnwyr Marathon Llundain wedi rhoi llawer o gefnogaeth imi ac mae nhw wedi bod yn anfon negeseuon rheolaidd cyn y digwyddiad ei hun. Y cerrig milltir hynny a dod yn nes at ddiwedd fy nghynllun hyfforddi sy’n fy nghadw ar y ddaear.

Sut aethoch chi ati i godi arian?

Mae yna lawer o weithgareddau codi arian clasurol o hyd sy’n cael eu gwahardd o dan reoliadau COVID-19, ond trefnais i lotri ar gyfer pencampwriaeth yr Ewros a ohiriwyd ac ar hyn o bryd rydw i’n cynnal raffl sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn.

Beth sy’n eich cymell yn ystod cyfnod hir o redeg?

Bwyd! Mae fy meddwl bob tro’n troi’n anochel at fwyd ac ar ôl rhedeg am gyfnod hir, mae angen mwy o danwydd! Rwyf i hefyd yn gwrando ar bodlediadau ac yn ceisio tynnu sylw fy ymennydd oddi ar y rhedeg.

Beth ydych chi’n edrych ymlaen ato fwyaf ar ddiwrnod y ras?

Alla i ddim aros i groesi’r llinell derfyn ar ôl gweld miloedd o bobl yn ei wneud pan oeddwn i’n drefnydd yn hytrach nag yn gyfranogwr, a’r tro hwn, fi fydd yn ei wneud! Rwyf i’n awyddus i allu mwynhau’r golygfeydd, y bobl, y bloeddio a’r gerddoriaeth ac rwyf i am wneud yn siŵr fod gen i ddigon o egni ar y diwedd i gael llun ohonof yn wên o glust i glust wrth groesi’r llinell derfyn!

Pa gyngor sydd gennych chi i bobl sydd eisiau cofrestru ar gyfer her megis rhedeg marathon?

Rwy’n meddwl bod yr heriau pellter hir pan fyddwch chi’n rhedeg ychydig o filltiroedd bob dydd yn wych i gymell rhywun, yn enwedig cyn i’r digwyddiadau corfforol ddychwelyd. Rwy wedi gwneud her rithwir Llwybr Arfordirol Cymru yn ogystal â Llwybr Rhithwir 66. 

Pan fydda i’n croesi’r llinell derfyn honno ar 3 Hydref, bydda i’n gwybod fy mod wedi cyrraedd pen y daith – os na fydda i byth yn cael lle ar gyfer marathon Lundain byth eto, mae hynny’n iawn. Ond rwy eisoes yn chwilio am y peth nesaf. Wrth gwrs, gan fy mod wedi byw yng Nghaerdydd y rhan fwyaf o fy mywyd, bydd yn rhaid imi redeg Hanner Marathon Caerdyddrywbryd!

Gallwch chi gefnogi taith Marathon Nic drwy gyfrannu at ei dudalen ar Virgin Money Giving.

Dewch i gwrdd â: Ed Wilson (Meddygaeth 2017-)

Mae Ed Wilson yn ei bedwaredd flwyddyn yn astudio meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Cafodd le elusennol gyda Phrifysgol Caerdydd i redeg ym Marathon Llundain eleni ac mae wedi dewis codi arian ar gyfer ymchwil niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl ym Mhrifysgol Caerdydd.

Beth oedd wedi eich ysbrydoli i redeg Marathon Llundain ar gyfer ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd?

Y ras gyntaf imi ei rhedeg oedd Hanner Marathon Prifysgol Caerdydd/Caerdydd yn 2018 ac roedd yn brofiad gwych. Dyna oedd y digwyddiad rhedeg cyntaf ar fy rhestr bersonol – yr ail oedd Marathon Llundain. Rwy wedi rhedeg dros ymchwil niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl ym Mhrifysgol Caerdydd o’r blaen, felly dw i’n gwybod popeth am yr achos.

Sut mae’r hyfforddiant yn dod ymlaen?

Rwy i wedi bod yn defnyddio’r ap Run With Hal sydd wedi bod yn wych gan ei fod yn cydamseru â fy watsh Garmin ac mae’n dda o ran sicrhau na fydda i’n cystadlu â phobl eraill. Rwy’n hoffi fy watsh redeg i gadw’r cyflymder, ond mae’n rhaid imi gofio nad yr efengyl yw hi, ac weithiau bydd gweld yr union bellter rwy wedi’i redeg yn fy nigalonni ac mae gen i gymaint i’w redeg o hyd!

Sut aethoch chi ati i godi arian?

Mae fy ffrindiau a fy nheulu wedi bod yn wych o ran rhwydweithio â nifer ehangach o bobl. Mae gen i dipyn o ffafrau o hyd y mae’n rhaid imi fanteisio arnyn nhw! Mae wedi bod yn anos yn ystod y pandemig gan fy mod i’n ymwybodol o reoliadau COVID-19 o ran trefnu gweithgareddau codi arian torfol. Gwych o beth yw meddwl faint o elusennau sy’n cael eu cefnogi gan redwyr Marathon Llundain ar yr un diwrnod – erbyn 2020, mae Marathon Llundain wedi codi £1biliwn at achosion da sy’n anhygoel o beth erbyn meddwl! 

Beth sy’n eich cymell yn ystod cyfnod hir o redeg?

Rwy’n gwrando ar bodlediadau gwirion oherwydd mae’n rhaid iddo fod yn rhywbeth digon gwirion fel nad oes rhaid i mi wrando bob munud os wyf i’n canolbwyntio ar y rhedeg. Rwy’n mwynhau Off Menu gyda James Acaster ac rwy’n hoff iawn o griced felly rwy’n gwrando ar Tailenders sy’n bodlediad criced. Mae’n ddefnyddiol cael pobl yn siarad fel bod gennych chi gwmni ar y rhediadau hirach!

Beth ydych chi’n edrych ymlaen ato fwyaf ar ddiwrnod y ras?

Mae llwybr y ras yn pasio cymaint o olygfeydd eiconig ond dwyf i ddim erioed wedi cerdded heibio iddyn nhw. Rwy’n edrych ymlaen at ddathlu gyda chwrw oer a byrgyr – pryd clasurol i ddathlu. Hefyd, peidio â gorfod poeni am redeg am rai wythnosau! Rwyf i hefyd wedi gweld rhestr o’r holl bethau y gallwch chi eu cael drwy ddangos eich medal ar benwythnos y ras, felly bydda i’n mynd amdani – mae tua 20 o bethau am ddim y gallwch chi eu cael!

Pa gyngor sydd gennych chi i bobl sydd eisiau cofrestru ar gyfer her megis rhedeg marathon?

Mynd amdani fyddwn i’n ei ddweud. Wedyn, gallwch chi feddwl am y penderfyniad a’r goblygiadau yn nes ymlaen! Mae cael y cyfle i wneud rhywbeth mor anhygoel fel Marathon Llundain wedi bod yn wych, felly mynd amdani yn ddi-os yw’r hyn byddwn i’n ei argymell.

Gallwch chi gefnogi taith Marathon Ed trwy gyfrannu at ei dudalen Virgin Money Giving.

Yn teimlo’n ysbrydoledig ac yn barod am her? Efallai ei bod yn rhy hwyr i gofrestru ar gyfer Marathon Llundain eleni, ond mae nifer gyfyngedig o leoedd ar ôl o hyd i ymuno â #TîmCaerdydd yn Hanner Marathon Prifysgol Caerdydd/Caerdydd ym mis Mawrth 2022. Digon o amser i ddechrau hyfforddi!