Wrth gystadlu â llawer o ymgeiswyr, gall sicrhau cyfweliad swydd deimlo fel tasg anodd. Yn ein crynodeb diweddaraf o gyngor i gyn-fyfyrwyr, gofynnwyd i'r arbenigwyr Jasper, Parves, Yvonne, a David am eu hawgrymiadau defnyddiol ar gyfer llunio cais cryf.
Awdur yw Emma Young (BSc 1996). Hi hefyd yw sefydlydd a Chyfarwyddwr Emma Young Consulting Ltd. Cymerodd Emma ran yn ein cynllun Menywod yn Mentora yn 2025, a oedd wedi paru 26 o fentoriaid â mentoreion ar ddechrau eu gyrfaoedd. Mae hi'n rhannu ei phrofiadau o fod yn fentor a'r cipolwg gwerthfawr a gafodd drwy gymryd rhan yn y rhaglen.
Mae Wythnos y Gwirfoddolwyr yn ddathliad blynyddol a gynhelir o ddydd Llun 2 Mehefin i ddydd Sul 8 Mehefin i gydnabod cyfraniad miliynau o bobl ledled y DU trwy wirfoddoli yn eu cymunedau.
Peiriannydd yw Joseph Rapoport (MA 1990) ac mae’n byw yn Houston, Texas. 18 mlynedd ar ôl gorffen ei radd meistr mewn Hanes ym Mhrifysgol Caerdydd, sefydlodd grŵp LinkedIn gan ddod â chyd-gyn-fyfyrwyr ynghyd yn yr Unol Daleithiau.
Mae Dr Deola Agbato (MBA 1997) yn gyn-fyfyriwr o Ysgol Busnes Caerdydd, gyda dros ddau ddegawd o brofiad ym maes bancio. Mae hi'n angerddol am ddatblygu a grymuso talent i wella cynaliadwyedd a thwf sefydliadau. Yma, mae hi’n rhannu ei syniadau ar sut i ddatblygu'n broffesiynol, hyd yn oed wrth ymdopi â gwahanol flaenoriaethau.
Aethoch chi i Brifysgol Caerdydd yn y 1960au? Ymunwch â'r cyn-fyfyriwr Steve Pritchard (BA 1965), Llyfrgellydd Emeritws yng Nghaerdydd, am daith ymdrochol trwy Undeb Myfyrwyr y 1960au.
Mae Cymdeithas y Cyn-fyfyrwyr (APS), a gafodd ei sefydlu ym 1889, wedi bod yn gymuned fywiog a gweithgar i gyn-fyfyrwyr o sefydliadau a ragflaenodd Prifysgol Caerdydd fel colegau ym Mhrifysgol Cymru, hyd heddiw.
Treuliodd Camille Stanley (BA 2019) haf yn astudio marchnata yng Nghanada. Bu’r profiad o gymorth iddi ddatblygu sgiliau mewn maes pwnc newydd, a’i pharatoi ar gyfer ei swydd bresennol yn gweithio dramor.
Croesawodd y cyn-fyfyriwr, Dr Mark Davies, (BEng 1994, PhD 1999), Cyfarwyddwr UK Power T&D yn RINA, un o’n myfyrwyr presennol, Harvy Davies (Peirianneg Drydanol ac Electronig 2024-) ar interniaeth yn para saith wythnos. Darllenwch sut roedd y lleoliad o fudd i bawb, a sut mae wedi rhoi hwb i hyder a CV Harvy.
Yr hydref hwn, mae Joseph, sy’n fyfyriwr gwleidyddiaeth, yn cymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd i gefnogi ymchwil hollbwysig ar ganser ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae Dr Chloe Cheung (PgDip 2023, Dermatoleg Ymarferol 2024-) yn Feddyg Gofal Sylfaenol sydd â diddordeb arbennig mewn dermatoleg. Mae wedi sefydlu elusen y Gymdeithas Rosacea Asiaidd gyda grŵp o weithwyr proffesiynol amlddisgyblaethol i helpu cleifion sydd wedi cael diagnosis anghywir, fel ei mam.
Gwyddonydd daearegol yw Ben Lepley (MESci 2008), ac mae’n arbenigwr amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethol yn y diwydiant mwyngloddio a mwynau. Yma, mae Ben yn chwalu rhai mythau ynghylch mwyngloddio ac yn dadlau'r achos dros ymuno â'r diwydiant, sy'n galw am ystod eang o sgiliau.
Mewn marchnad swyddi gystadleuol, gall proffil digidol rhagorol ddal sylw cyflogwyr. Ar gyfer ein crynodeb diweddaraf o gyngor i gyn-fyfyrwyr, gwnaethon ni ofyn i'r arbenigwyr digidol Sagnik, Rachel a Jessica am eu hawgrymiadau gorau ar gyfer mwyhau eich presenoldeb ar-lein.
Ym mis Hydref, yn hytrach na gwisgo ei got labordy yn ôl ei arfer, bydd yr Athro Duncan Baird yn rhoi ei fest rhedeg amdano ac yn rhoi cynnig ar redeg Hanner Marathon Caerdydd.
Nid yw dringo’r ysgol yrfaol yn rhywbeth rydych chi’n ei wneud ar eich pen eich hun – yn amlach na pheidio, mae llwyddiant yn digwydd drwy gydweithio a chyd-gefnogaeth.
Newyddiadurwr llawrydd, golygydd cynnwys, ac ymgyrchydd gofal iechyd yw Ellie Philpotts (BA 2017). Ar ôl cael diagnosis o ganser y gwaed yn ei harddegau, aeth Ellie ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd, gan weithio i gefnogi unigolion eraill â chanser.
Bydd Darshni Vaghjiani (Cysylltiadau Rhyngwladol a Gwleidyddiaeth 2022-) yn rhedeg Hanner Marathon Caerdydd ym mis Hydref er cof am ei diweddar dad-cu.
A hithau’n aelod o #TeamCardiff, mae hi'n codi arian ar gyfer ymchwilwyr yma ar y campws, sy'n gwella canlyniadau i bobl sy'n byw gyda rhai o'r canserau mwyaf cyffredin.
Mae Charley Bezuidenhout (Seicoleg 2022-) a Lizzy Braithwaite (Seicoleg 2022-) yn ffrindiau ac yn fyfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd. Maen nhw wedi penderfynu rhedeg Hanner Marathon Caerdydd 2024 gyda’i gilydd er mwyn cefnogi’r ymchwil iechyd meddwl a niwrowyddoniaeth hanfodol sy’n digwydd ar y campws.