Skip to main content
Alumni team

Alumni team


Postiadau blog diweddaraf

Rhedeg er lles dros y gaeaf hwn

Rhedeg er lles dros y gaeaf hwn

Postiwyd ar 18 Rhagfyr 2020 gan Alumni team

Gall misoedd y gaeaf fod yn anodd i unrhyw un sy'n cael trafferth â'u hiechyd meddwl, ac eleni yn fwy nag erioed.

Ein gwirfoddolwyr – Scott Bowers

Ein gwirfoddolwyr – Scott Bowers

Postiwyd ar 16 Rhagfyr 2020 gan Alumni team

Mae Scott Bowers (BA 2003, PGDip 2004) yn wirfoddolwr ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae wedi bod yn llysgennad cynfyfyrwyr, yn aelod o Lys Prifysgol Caerdydd ac yn fentor myfyrwyr. Prif swyddog materion corfforaethol i un o brif fusnesau chwaraeon y DU, The Jockey Club, yw ei rôl broffesiynol, ac yn ddiweddar mae wedi dod yn dad. Darllenwch ymlaen i weld pam mae’n wirfoddolwr mor frwdfrydig ac ymroddgar.

Llwybrau gyrfa anghyffredin ac allfeydd creadigol – I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr

Llwybrau gyrfa anghyffredin ac allfeydd creadigol – I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr

Postiwyd ar 17 Tachwedd 2020 gan Alumni team

Mae James Orpwood (BSc 2002, PhD 2006) wedi newid o fod yn wyddonydd pysgodfeydd i fynyddwr, yn cyrraedd uchelfannau newydd a dechrau llwybr gyrfa newydd. Mae hefyd ar fin cyhoeddi ei lyfr cyntaf, a gafodd ei ysgrifennu dros nifer o oriau yn ystod y cyfnod clo o ganlyniad i’r pandemig COVID-19. Mae James yn disgrifio ei daith yrfaol bersonol a sut wnaeth y mwyaf o’i amser sbâr...

Myfyrio ar Fywyd: Neville John (BMus 1957)

Myfyrio ar Fywyd: Neville John (BMus 1957)

Postiwyd ar 21 Hydref 2020 gan Alumni team

Cafodd Neville John (BMus 1957) ei eni yn y Tymbl, Sir Gâr a bu’n astudio’r soddgrwth ym Mhrifysgol Caerdydd. Cafodd yrfa lwyddiannus fel athro cerdd a chyfansoddwr ar ôl ei astudiaethau, ac yn ddiweddar dathlodd ei ben-blwydd yn 90 oed. Yn yr erthygl hon sy’n Myfyrio ar Fywyd, mae’n edrych yn ôl ar ei deulu cerddorol, ei atgofion gorau o Gaerdydd a’r drychineb hanesyddol a fu’n ysbrydoliaeth iddo gyfansoddi.

Mae’r daith yn cychwyn yma – I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr

Mae’r daith yn cychwyn yma – I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr

Postiwyd ar 12 Hydref 2020 gan Alumni team

Mae Nadine Lock (BA 2001) wedi gweithio mewn Adnoddau Dynol ers dros ddeng mlynedd yn y Trydydd Sector a'r Sector Preifat. Mae'n adlewyrchu ar y daith y mae Dosbarth 2020 yn ei hwynebu, ac yn rhannu rhai pethau y byddai wedi bod yn falch o gael gwybod fel rhywun oedd newydd raddio.

Prifysgol Caerdydd i ddarparu gwasanaeth sgrinio coronafeirws (COVID-19) ar gyfer myfyrwyr a staff asymptomatig

Prifysgol Caerdydd i ddarparu gwasanaeth sgrinio coronafeirws (COVID-19) ar gyfer myfyrwyr a staff asymptomatig

Postiwyd ar 24 Medi 2020 gan Alumni team

Mae Prifysgol Caerdydd yn gweithredu nifer o fesurau amddiffynnol arloesol wrth i'r campws ailagor, gan gynnwys creu gwasanaeth sgrinio torfol unigryw ar gyfer myfyrwyr a staff asymptomatig y Brifysgol

Osgoi chwythu eich plwc drwy ddod o hyd i’ch ‘peth’ – I Gynfyfyrwyr, gan Gynfyfyrwyr

Osgoi chwythu eich plwc drwy ddod o hyd i’ch ‘peth’ – I Gynfyfyrwyr, gan Gynfyfyrwyr

Postiwyd ar 23 Medi 2020 gan Alumni team

Daeth Gemma Clatworthy (BA 2007) ar draws ei hangerdd dros adrodd straeon pan fu’n astudio Hanes Hynafol ym Mhrifysgol Caerdydd, ond nid tan bandemig byd-eang a chyfnod clo cenedlaethol y dysgodd am bŵer canolbwyntio ar rywbeth rydych chi'n ei garu i leddfu straen. Yma, mae'n rhannu ei brwydrau gyda chydbwyso gyrfa, gofal plant a'r awydd afrealistig i fod yn berffaith, a sut y gwnaeth osgoi chwythu’i phlwc o drwch blewyn drwy ddefnyddio grym ei theimladau i fod yn greadigol.

Cwrdd â’r Ymchwilydd – Dr Sarah Lauder

Cwrdd â’r Ymchwilydd – Dr Sarah Lauder

Postiwyd ar 17 Medi 2020 gan Alumni team

Canser y fron yw'r canser mwyaf cyffredin ymhlith menywod a phob blwyddyn mae tua 55,000 o bobl yn cael diagnosis yn y DU yn unig. Cyn Mis Ymwybyddiaeth Canser y Fron ym mis Hydref, buom yn siarad â'r ymchwilydd canser Sarah Lauder (BSc 2002, PhD 2007), sy’n Gydymaith Ymchwil yn Lab Imiwnoleg Canser Gallimore Godkin Prifysgol Caerdydd.

Rhoi profiadau i oedolion ifanc fydd gyda nhw am oes

Rhoi profiadau i oedolion ifanc fydd gyda nhw am oes

Postiwyd ar 17 Medi 2020 gan Alumni team

Mae rhaglen Cyfleoedd Byd-eang Prifysgol Caerdydd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr wirfoddoli, gweithio ac astudio dramor, ac elwa ar y profiadau na fyddent wedi'u cael fel arall. Buom yn siarad â Sammy Fagan (Cemeg 2018-) a dreuliodd haf 2019 yn addysgu plant yn Tanzania.

Mercy Ships, y GIG, a systemau gofal iechyd ar draws y byd – I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr

Mercy Ships, y GIG, a systemau gofal iechyd ar draws y byd – I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr

Postiwyd ar 16 Gorffennaf 2020 gan Alumni team

Mae Leo Cheng (LLM 2006) yn llawfeddyg y geg, y genau a’r wyneb, y pen, a’r gwddf sydd wedi treulio rhan fwyaf o’i fywyd yn teithio’r byd ac yn helpu’r rheiny o’r ardaloedd tlotaf drwy roi llawdriniaeth am ddim a darparu gofal iechyd sydd ei ddirfawr angen. Mae bellach wedi troi ei sylw a’i ymdrechion tuag at COVID-19 ac mae’n myfyrio ar ei brofiad hyd yn hyn gyda’r GIG a’i bryderon ynghylch y rheiny sydd heb system iechyd gwladol.