Skip to main content

Cyswllt CaerdyddPam Prifysgolion?

Mae Prifysgolion yn siapio ein cymunedau a’n llywodraeth

17 Rhagfyr 2018

Mae Julie Morgan (alumna) yn Aelod Cynulliad (AC) ac yn gyn-aelod Seneddol dros Ogledd Caerdydd. Mae hi’n aelod o nifer o bwyllgorau amrywiol gan gynnwys y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

Rwy’n credu’n gryf ein bod ni yng Nghaerdydd yn hynod ffodus o fod yn gartref i brifysgol lwyddiannus. Mae cyfraniad economaidd a gwyddonol y Brifysgol i fywydau pobl yng Nghymru yn amhrisiadwy, gan greu swyddi a chefnogi ymchwil sy’n ein rhyfeddu ac o fudd i bawb.

Un maes ymchwil arwyddocaol, ond llai adnabyddus, yw llunio syniadau gwleidyddol a pholisi’r Llywodraeth.

Rwy’n Gadeirydd ar sawl grŵp trawsbleidiol yn y Cynulliad ac rydym yn gwahodd academyddion yn aml i roi cyflwyniadau. Mae ymchwil Prifysgol Caerdydd yn ein helpu i ddatblygu polisïau, ac mae’r data yn allwedd i daflu goleuni ar sut y mae’r polisïau hynny yn gweithio yn ymarferol.

Mae hyn yn digwydd yn aml: er enghraifft, cynhaliwyd digwyddiad ar y cyd â Chanolfan Llywodraethu Cymru yng Nghaerdydd sy’n cyhoeddi ymchwil hynod ddefnyddiol ar garcharorion o Gymru a charcharorion sy’n byw yng Nghymru. Cyn cynhaliwyd y gwaith ymchwil hwn, nid oedd unrhyw ddata penodol, hygyrch am boblogaeth carchardai Cymru.

Mae ymchwil y Brifysgol yn helpu diwygio’r Cynulliad Cenedlaethol hefyd. Bydd gan y Cynulliad mwy o bwerau deddfu ym Mae Caerdydd, ac mae gwaith yr Athro Laura McAllister (PhD 1995, Anrh 2013) wedi bod yn amhrisiadwy wrth ddarparu modelau ar gyfer sut y gall y Cynulliad Cenedlaethol weithredu mewn ffordd gynaliadwy yn y dyfodol.

Mae’r Brifysgol, y staff a’r myfyrwyr yn gyfraniad gwych i wead ein dinas amlddiwylliannol, yn helpu ein cymunedau i ffynnu ac yn siapio’r ffordd y llywodraethir y cymunedau hynny.

Darllenwch yr erthygl nesaf am Pam Prifysgolion?:
Mae Prifysgolion yn achub, newid a chyfoethogi bywydau

Hefyd yn y gyfres: