Skip to main content

Cyswllt CaerdyddPam Prifysgolion?

Mae Prifysgolion yn gwneud cymunedau yn llefydd gwell

17 Rhagfyr 2018

Ali Abdi yw rheolwr Partneriaethau a Chyfleusterau Prifysgol Caerdydd ac mae e wedi byw yn Grangetown, un o faestrefi Caerdydd gydol ei oes

Ali stands in front of Grange Pavilion

Cefais fy magu yn Grangetown ac rwy’n angerddol dros ei gwneud yn lle gwell fyth i fyw. Mae Prifysgol Caerdydd yn rhannu’r weledigaeth honno.

Does unman yn fwy amlwg na Phafiliwn Grange. Am amser hir, dim ond y Clwb Bowlio oedd yn defnyddio’r lle – 15 o bobl mewn siwtiau Gwyn yn chwarae bowls a chloi’r giât ar eu hôl. Roedd y ffensys yn chwe throedfedd o uchder. Pan orffennodd y clwb, dechreuodd yr adeilad ddadfeilio a dechreuodd y trigolion lleol bryderu.

Dyna pryd derbyniais ebost gan y Brifysgol – roeddent yn chwilio am fentrau ar gyfer eu rhaglenni ymgysylltu cymunedol. Roeddwn yn bryderus iawn i ddechrau: Doeddwn i ddim am fod yn rhan o rywbeth na fyddai’n cal unrhyw effaith, oherwydd, fel y gwyddoch, mae prosiectau yn mynd a dod, ond mae cymunedau yn barhaol. Ond wrth imi gael mwy o wybodaeth, gwyddwn y gallwn gredu yn y fenter. Felly, defnyddiais fy nghysylltiadau gyda’r gymuned i ledaenu’r gair: “Gadewch inni gredu yn hyn. Gallai wneud gwahaniaeth gwirioneddol.”

Y peth cyntaf a wnaethom oedd gofyn “beth y mae’r gymuned ei hun eisiau?'” a dywedon nhw “Rydyn ni eisiau gwneud y lle hwn yn fwy, yn fwy disglair ac yn well” – a bellach mae’n cael ei ailwampio’n llwyr.

Mae’r Brifysgol wedi twtio’r lle ac mae’r adeilad ar agor i’r gymuned saith diwrnod yr wythnos. Mae myfyrwyr pensaernïaeth Prifysgol Caerdydd wedi siarad â gwahanol rhanddeiliaid fel rhan o’u haddysg fyw, yn datblygu dyluniadau, gyda’r gymuned yn graidd i’w cynlluniau. Rydym yn mynd i ehangu ein gorwelion ac agor caffi gyda chegin lle gall grwpiau cymunedol ddod a dysgu sut i goginio ar gyfer ei gilydd. Mae’n brofiad gwych; mae llawer o fyfyrwyr yn parhau yn rhan o’r fenter ar ôl iddynt raddio hyd yn oed!

Ond dim ond rhan o’r fenter yw’r brics a’r morter. Mae Prifysgol Caerdydd yn datblygu partneriaethau gydag ysgolion lleol i gyfoethogi’r profiad o ddysgu ac i helpu pobl ifanc i anelu at addysg uwch. Ymhlith digwyddiadau eraill, fe wnaethom gynnal Wythnos Gyrfaoedd gyda gwahanol ysgolion o fewn y Brifysgol; Y Gyfraith, Daearyddiaeth, Gwyddorau’r Ddaear, Busnes a Meddygaeth. Cafodd diwrnod agored bach ei chynnal yma yn y Pafiliwn hyd yn oed. Mae pob person ifanc a gafodd sgwrs gyda ni yn awr yn awyddus i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae cymaint o botensial yn ein cymunedau. Rhaglenni ymgysylltu blaenllaw Prifysgol Caerdydd yw’r mwyaf uchelgeisiol o’u math, gan ddefnyddio ymchwil a sgiliau arbenigol i gefnogi lleoedd fel Grangetown, ac ar draws Cymru. Gyda’r math hwnnw o ymrwymiad, mae’r dyfodol yn edrych yn ddisglair iawn!

Darllenwch yr erthygl nesaf am Pam Prifysgolion?:
Mae Prifysgolion yn newid ein gorwelion

Hefyd yn y gyfres: