Newid y drefn: Kellie Beirne (BA 1997, MSc 2003) – Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd
13 Rhagfyr 2018Kellie Beirne (BA 1997, MSc 2003) yw Cyfarwyddwr y Rhaglen ar gyfer Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd sydd werth £1 biliwn, ac yn gwella isadeiledd prifddinas Cymru.
Os wyf i wneud gwahaniaeth unrhyw le, y lle anhygoel hwn ydyw: y ddinas rwy’n hanu ohoni, ac yn teimlo cymaint o angerdd yn ei chylch.
Mae prifddinas-ranbarth Caerdydd yn gartref i dros 60% o boblogaeth Cymru, ond mae ganddi hefyd rhai o’r lefelau uchaf o dlodi ac amddifadedd. Pam? Am nad yw ein economi cystal ag y dylai fod, ac am fod gennym rai problemau cymdeithasol dwfn.
Mae hyn yn erbyn cefndir o dirluniau gogoneddus, digonedd o adnoddau naturiol, pobl anhygoel a chymunedau cysylltiedig. Mae gennym ysbryd ac egni go iawn yma, ac rwyf eisiau gwneud fy ngorau i helpu i ryddhau’r priodweddau hynny.
Mae’r Fargen Ddinesig yn ymwneud â thwf economaidd da, twf sy’n gwneud daioni, nid cyrraedd targedau’n unig. Mae’n ymwneud â datblygu economi ystwyth a hyblyg. Os gallwn ailgreu’r amodau lle mae pobl yn fwy hunangynhaliol a chanddynt well rhagolygon, dyna fydd yn ein gwarchod orau rhag anghyfiawnder ac anghydraddoldeb.
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Llywodraeth Cymru yn golygu ein bod yn meddu ar gyfle ardderchog i wneud gwahaniaeth wrth gam cynnar; i ystyried cyfleoedd bywyd ein plant a’u plant hwythau, pobl nad ydynt wedi’u geni eto.
Mae anghydraddoldeb ac anghyfiawnder yn bethau sydd wedi fy nghymell erioed. Penderfynais astudio ar gyfer gradd mewn Iaith a Chyfathrebu am fy mod o’r farn bod deall cymelliadau cynhenid rhywun yn fodd pwysig o feithrin perthnasoedd cryf, a’r cyflawniad proffesiynol sy’n dal i beri’r balchder pennaf i mi yw’r amser a dreuliais yn gweithio ar hostel i’r digartref ar ôl graddio.
Symudais ymlaen i’r sector tai, am fod hynny’n ffordd ymarferol, ar y cyd o fynd i’r afael â rhai o’r materion sylfaenol ynghylch anghyfiawnder cymdeithasol. Gwir, brics a morter yn unig yw hynny, ond gall ein helpu i ddeall yr hyn sy’n cymell pobl, yr heriau y maent yn eu hwynebu a’r cyfleoedd sydd eu hangen arnynt.
Mae’r gwersi hynny wrth wraidd y Fargen Ddinesig ac ynghlwm wrth y gred sylfaenol bod bob person yn haeddu cael ei drin ag urddas a pharch. Pryd bynnag y gallwn ddangos tosturi, mae’n ddyletswydd foesol arnom i wneud hynny. Dyma’r hyn rwy’n gobeithio ei gyflawni.
Hefyd yn y gyfres:
- Karen Cooke (BMus 1996)
- Helen Molyneux (LLB 1987) – Monumental Welsh Women
- Nia Jones (Environmental Geography 2016-) and Douglas Lewns (Environmental Geography 2017-) – The No Straw Stand
- Philip Evans QC (LLB 1993) – Prosiect Dieuogrwydd Caerdydd
- Simon Blake OBE (BA 1995) – Ymgyrchu dros gydraddoldeb
- Hydref 2024
- Medi 2024
- Awst 2024
- Gorffennaf 2024
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Mawrth 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018