Skip to main content

Cyswllt CaerdyddNewyddion

Bywyd Owain Glyn Dŵr

28 Medi 2018

Oeddech chi’n gwybod mai Owain Glyn Dŵr oedd y Cymro olaf i gael ei alw yn Dywysog Cymru?

Diwrnod Owain Glyn Dŵr

Roedd hi’n ddiwrnod Owain Glyn Dŵr 16 Medi, gŵyl answyddogol sy’n cael ei dathlu bob blwyddyn gan mai ar y diwrnod hwn yn 1400 cyhoeddwyd mai efe oedd Tywysgog Cymru. Cafodd baner Owain ei chwifio y tu allan i’r Senedd yng Nghaerdydd am y tro cyntaf llynedd, yn symbol o Gymru hunan-lywodraethol. Dyma’r tro cyntaf mewn 600 mlynedd i’r faner gael ei chwifio tu allan i senedd Gymreig. Ond pwy oedd Owain Glyn Dŵr, sy’n ail ar y restr 100 o arwyr Cymru?

Ei linach

Roedd yn ddisgynnydd i dywysogion Powys ac yn hynod falch o’i wreiddiau yng Nghymru. Nid oes sicrwydd ynghylch ei ddyddiad geni, mae un cofnod yn nodi iddo gael ei eni yn 1359, ac ar lawysgrif arall mae dyddiad mwy pendant, 28 Mai, 1354, ond mae sôn iddo gael ei eni yn 1349, blwyddyn y Pla Du hefyd.

Ei fywyd cynnar

Ychydig o wybodaeth sydd am ei fywyd cynnar ond treuliodd beth amser yn astudio yn Ysbytai’r Brawdlys yn Llundain. Roedd e’n gallu siarad pedair iaith. Roedd o blaid senedd genedlaethol, eglwys Gymreig annibynnol a phrifysgol i Gymru. Byddai rhai yn dweud bod ei weledigaeth o flaen ei amser.

Ei weledigaeth

Cynhaliodd Owain senedd ym Machynlleth yn 1404. Yno, fe gyflwynodd ei weledigaeth am Gymru annibynnol ac am sefydlu dwy Brifysgol yng Nghymru, un yn y De ac un yn y Gogledd. Fe ail-luniodd system gyfreithiol Cymru gyda’r bwriad o ddychwelyd at gyfreithiau Hywel Dda.

Er ei weledigaeth am brifysgol yng Nghymru yn y drydedd ganrif ar ddeg, cafodd Prifysgol Cymru, a oedd mewn 3 lleoliad; Caerdydd, Aberytwyth a Bangor ei sefydlu drwy Siarter Brenhinol yn 1893. Dros 500 mlynedd ers cyfnod Owain Glyn Dŵr, mae ei frwdfrydedd dros addysg yn cael ei anrhydeddu.