Skip to main content

NewyddionUncategorized @cy

Pam rwy’n rhedeg: Adrian Harwood

6 Hydref 2018

Adrian Harwood yw cyd-gyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil y Niwrowyddorau ac Iechyd Meddwl (NHMRI) ac mae’n rhedeg dros #TeamCardiff. Buon ni’n ei holi am y rheswm ei fod yn cymryd rhan a pham y dylech chi gefnogi’r rhedwyr mewn crys coch.

Mae gan bob person sy’n rhedeg dros #TeamCardiff reswm dros pam maen nhw’n rhedeg, ond ychydig iawn sydd mor gysylltiedig â’i achos o ddydd i ddydd â Adrian Harwood.

“Rwy’n astudio celloedd nerfol dynol er mwyn deall yr ymennydd iach a’r newidiadau sy’n digwydd gyda chyflyrau iechyd meddwl, gwaith sy’n heriol, ond fydd yn helpu i ddatblygu triniaethau a fydd yn fwy effeithiol.”

Symudodd Adrian i Gaerdydd 13 mlynedd yn ôl i fod yn rhan o’r tîm ymchwil iechyd meddwl ac erbyn heddiw mae e’n gyd-gyfarwyddwr i Sefydliad Ymchwil y Niwrowyddorau ac Iechyd Meddwl (NMHRI) – a’i gefndir sydd wedi meithrin ei ddiddordeb mewn rhedeg.

“Pan oeddwn yn wyddonydd ifanc, roeddwn wrth fy modd yn y labordy yn gwneud arbrofion, yn treulio oriau hir ar fy nhraed. Gan fod fy nhîm ymchwil fy hun wedi ehangu, rwyf nawr yn treulio gormod o amser yn eistedd wrth fy nesg yn ysgrifennu neu yn eistedd mewn cyfarfodydd.”

“Yn 50 mlwydd oed, penderfynais ddechrau rhedeg. Gydag anogaeth Claire, fy merch, sy’n rhedwraig eithaf da ei hun, fe es ati, gan hyfforddi ar gyfer 10K Caerdydd yn gyntaf, ac yna ar gyfer Hanner Marathon Prifysgol Caerdydd/Caerdydd. Hanner Marathon 2018 fydd y pumed i mi gyflawni, mae’n dod yn hen ffrind.”

Mae rhedwyr #TeamCardiff sydd wedi dewis cefnogi ymchwil niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl yn codi arian cychwynnol ar gyfer ymchwilwyr sy’n dechrau ar eu gyrfaoedd gyda’r rhaglen Arweinwyr y Dyfodol mewn Niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl.

Mae ymchwil i glefydau megis clefyd Alzheimer’s, dementia, anhwylder deubegynol a sgitsoffrenia yn manteisio o arian cychwynnol. Mae hyn yn galluogi ymchwilwyr i brynu cyfarpar, ehangu eu hymchwil ac, yn y pen draw, datblygu dealltwriaeth well a thriniaeth sy’n fuddiol i gleifion.

Mae rhedeg yn rhoi cyfle i Adrian feddwl, yn ogystal â chysylltu â’i ymchwil.

“Dwi’n hoffi meddwl tra dwi’n rhedeg, weithiau am sut mae’r myfyrwyr PhD yn dod ymlaen, weithiau am ddarnau diddorol o wyddoniaeth, neu a allaf redeg y ras nesaf funud ynghynt.”

Sut hwyl geith ef arni gyda Hanner Marathon Caerdydd yn prysur agosáu? Nid yw’n syndod, felly, nad yw’n edrych fel petai’r rhaglenni a gyflymwyd am fodloni targedau.

“Dwi ddim yn Mo Farah o bell ffordd, ond dwi’n gwneud yn eithaf da yn y categori i Athrawon canol oed. Mae rhedeg yn dda i’r iechyd, mae’n cadw fy mhwysau i lawr, mae fy nghymalau yn well ac mae’n dda i fy ymennydd – credwch fi, dwi wedi gweld y data!”

Gallwch gefnogi ymchwil niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl ym Mhrifysgol Caerdydd drwy roi arian drwy dudalen JustGiving Adrian ar gyfer Hanner Marathon Prifysgol Caerdydd/Caerdydd 2018.