Mae Dr Darren Freebury-Jones (BA 2010, MA 2012, PhD 2016) yn gyn-fyfyriwr sydd wedi cael tri gradd yng Nghaerdydd ac yn ddarlithydd Shakespeare poblogaidd yn Stratford-upon-Avon. Mae ei angerdd wedi arwain at ddarganfyddiadau rhyfeddol am fyd llenyddiaeth. Mae'n egluro pam y dewisodd ymroi ei hun i'r Bardd, a'r gwersi y mae wedi'u dysgu ar y ffordd.
Yn ddiweddar, lansiodd y Brifysgol Strategaeth Gymraeg newydd a chynhwysfawr a fydd yn canolbwyntio ar ddathlu, hyrwyddo a chysylltu â'r Gymraeg ar draws pob agwedd ar fywyd y Brifysgol. Mae'r strategaeth yn cynnig agenda diwylliannol a chymunedol clir a diffiniedig, wedi'i chynllunio i ategu a chyfrannu at ddyheadau ymchwil, addysgu a rhyngwladol cyffredinol y Brifysgol.
Mae Sarah John (BA 2011), sylfaenydd a chyfarwyddwr Boss Brewing, yn fenyw sy'n benderfynol i gyflawni ei nodau a thorri rhwystrau ar hyd y ffordd. Yma, mae'n disgrifio taith gyffrous llawn llwyddiannau busnes, gan frwydro yn erbyn cewri corfforaethol, dod â'i baban newydd-anedig i gyfarfodydd, a herio'r drefn sydd ohoni yn gyffredinol.
Ar ôl saith mis yn y swydd fel Pennaeth newydd yr Ysgol Deintyddiaeth, cawsom air gyda'r Athro Nicola Innes am ei phrofiad yn y rôl, ei blaenoriaethau a'i gobeithion ar gyfer y dyfodol.
Cheryl Luzet (BA 1999), yw sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol asiantaeth farchnata ddigidol Wagada. Mae ei thîm yn helpu cwmnïau ledled y byd i ddatblygu a chreu cysylltiadau. Enwodd Small Business Britain hi yn un o 100 o entrepreneuriaid benywaidd mwyaf ysbrydoledig y DU. Yma, mae Cheryl yn rhannu eu hawgrymiadau defnyddiol ar rwydweithio ar gyfer pan fydd digwyddiadau wyneb yn wyneb yn dychwelyd.
Aeth bywyd proffesiynol a phersonol Adetoun Mustapha (MPH 1999) yn Nigeria yn brysur iawn pan darodd COVID-19. Cafodd ei hun mewn sefyllfa i helpu i ysgogi newid go iawn a brwydro yn erbyn newyddion ffug o amgylch iechyd y cyhoedd. Yma, mae'n disgrifio ei phrofiad o lywio ffordd newydd o weithio a byw, astudio lledaeniad COVID-19, a siarad allan am faterion cyfiawnder amgylcheddol.
Ym 1898, cynigiodd Prifysgol Caerdydd gyfle i fenyw ifanc a gafodd effaith enfawr nid yn unig arni hi, ond ar y menywod yn ei theulu a ddilynodd ei holion traed. Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, rydym yn siarad ag wyresau Cassie am bwysigrwydd addysg ar gyfer grymuso menywod.
Mae Canolfan Ymchwil Awtistiaeth Cymru (WARC) wedi bod wrth wraidd polisïau ac arferion pwysig ers 10 mlynedd, gan ddarparu data y gellir ei drosi yn gamau gweithredu ac sy'n cael effaith wirioneddol ar weithwyr proffesiynol yn y gymuned awtistig. Mae cyn-gyfarwyddwyr a chyfarwyddwyr presennol WARC yn cwrdd i fyfyrio ar eu cyflawniadau gan edrych ymlaen at y 10 mlynedd nesaf.
Anthropolegwr meddygol yw Harriet Quinn-Scoggins (PhD 2019) sy'n canolbwyntio ar ymchwil canser. Roedd unwaith yn rhan o raglen Arweinwyr Ymchwil Canser y Dyfodol (FLiCR), ac mae bellach yn cymryd rhan yn yr astudiaeth agweddau ac ymddygiadau canser COVID-19. Yma mae'n esbonio pam bod ymagwedd anthropolegol yn bwysig, a sut gall yr ymchwil hon wella diagnosis cynnar o ganser.
Gwnaethom siarad â Dr Erik Mire, Prif Ymchwilydd a Chymrawd Ymchwil Hodge yn Sefydliad Ymchwil y Niwrowyddorau ac Iechyd Meddwl Prifysgol Caerdydd, am ei ymchwil sy'n edrych sut y gall dietau mamau effeithio ar ddatblygiad yr ymennydd mewn babanod yn y groth.
Mae Glyn Lloyd (PhD 2008, PGDip 2007, MSc 2003, LLB 2002) yn Bartner a Sylfaenydd Newfields Law yng Nghaerdydd. Cwmni sy'n arbenigo mewn cyfraith mewnfudo. Gan ei fod wedi gwirfoddoli fel myfyriwr, mae Glyn wedi parhau i wneud hynny ar ôl graddio, gan rannu ei brofiad a'i arbenigedd er mwyn helpu myfyrwyr i wireddu eu potensial, ni waeth beth yw eu cefndir.
Mae Iestyn Griffiths (BA 2016, MA 2018) yn disgrifio ei daith o fod yn blentyn oedd wedi'i wirioni â cherddoriaeth i gyd-gyfarwyddo cyngerdd digidol mawr ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi, gan ddathlu a chefnogi cerddorion o Gymru.
Mae Jackie Yip (BA 2018) wedi teithio’r byd ac wedi ymdrwytho ym mhob cyfle sydd wedi dod ei ffordd. Gan ddefnyddio’r agwedd at waith a ysbrydolodd ei rhieni ynddi, ynghyd â’r gefnogaeth ar gael gan Brifysgol Caerdydd, llenwodd Jackie ychydig flynyddoedd byr â llond oes o brofiadau.
Efallai bydd Dydd Sant Ffolant ychydig yn wahanol eleni ac mae'n annhebygol y gwelwn lawer o enghreifftiau mawr a chyhoeddus o gariad ond peidiwch â phoeni. Ewch i nôl paned poeth, setlwch ar y soffa ac ymgollwch i deimladau cynnes a braf gyda'r tudalennau cyffrous hyn.
Mae Cangen Prydain o Gymdeithas yr Ysgolheigion sy’n Dychwelyd o‘r Gorllewin wedi bod mor hael â rhoi masgiau i Brifysgol Caerdydd fel arwydd twymgalon o undod a chefnogaeth.
Gweithiodd Chloe Wells (BA 2007) i Gyngor Caerdydd ar ôl graddio cyn ymfudo i'r Ffindir ar ddiwedd 2010 lle enillodd ei gradd Meistr Gwyddor Gymdeithasol a'i PhD. Yma, mae Chloe yn siarad am ei hatgofion ym Mhrifysgol Caerdydd, dod yn ddinesydd Prydeinig-Ffinnaidd, a byw yn yr UE yn ystod Brexit.
Mae Dr Anne-Catherine Raby yn ymchwilydd yn yr Ysgol Feddygaeth, yn chwilio am y cysylltiad rhwng clefyd cronig yr arennau a chlefyd cardiofasgwlaidd gyda ffocws ar lid. Mae ei gwaith yn bellgyrhaeddol, yn hollgynhwysol, ac yn hollbwysig i ddeall y clefyd sy'n gyfrifol am fwy o farwolaethau yn fyd-eang nag unrhyw achos arall.
Mae Scott Bowers (BA 2003, PGDip 2004) yn wirfoddolwr ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae wedi bod yn llysgennad cynfyfyrwyr, yn aelod o Lys Prifysgol Caerdydd ac yn fentor myfyrwyr. Prif swyddog materion corfforaethol i un o brif fusnesau chwaraeon y DU, The Jockey Club, yw ei rôl broffesiynol, ac yn ddiweddar mae wedi dod yn dad. Darllenwch ymlaen i weld pam mae’n wirfoddolwr mor frwdfrydig ac ymroddgar.