Skip to main content

Cyswllt CaerdyddNewyddionStraeon cynfyfyrwyr

Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines

22 Mehefin 2021
Dr Quentin Sandifer (MBBCh 1985, MPH 1995)

Mae rhai o aelodau cymuned o gynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd wedi’u hanrhydeddu yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines.

Mae Dr Quentin Sandifer (MBBCh 1985, MPH 1995), Cyfarwyddwr Gweithredol y Gwasanaethau Iechyd Cyhoeddus a Chyfarwyddwr Meddygol Iechyd Cyhoeddus Cymru, wedi derbyn OBE am ei wasanaethau i Iechyd Cyhoeddus yng Nghymru yn enwedig yn ystod yr ymateb i Covid-19.

Dyfarnwyd CBE i Dr Philippa Gregory (Cymrawd Anrhydeddus 2015), awdur nofelau poblogaidd fel The Other Boleyn Girl, am ei gwasanaethau i lenyddiaeth a gwaith elusennol yn y DU a Gambia. Dywedodd Dr Gregory wrth asiantaeth newyddion PA: “Roeddwn mor falch a chefais fy synnu’n fawr ar yr ochr orau. Wrth gwrs, roeddwn yn teimlo’n hynod freintiedig ac rydw i wrth fy modd.”

Dyfarnwyd OBE i Mr Peter Gough (BSc 1977, MSc 1979), Prif Gynghorydd Adnoddau Naturiol Cymru, am ei wasanaethau i reoli pysgodfeydd yn gynaliadwy. Mae gwaith Mr Gough yn edrych ar reoli gwaith dŵr croyw a physgod mudol ac yn canolbwyntio ar ddiogelu poblogaethau pysgod ar gyfer y dyfodol. Wrth siarad â South Wales Argus am ei OBE, dywedodd Peter: “Doeddwn i ddim yn ei ddisgwyl o gwbl, roedd yn hynod annisgwyl … rwy’n falch iawn ond roedd yn un o’r adegau hynny lle allwn i ddim credu’r peth.”

Dyfarnwyd OBE i Miss Sharmin Joarder (BSc 1998), Cyfarwyddwr Parodrwydd Busnes yn Swyddfa’r Cabinet, am wasanaeth cyhoeddus a dyfarnwyd OBE i Mr Michael Newman (BScEcon 1997), prif weithredwr Cymdeithas y Ffoaduriaid Iddewig, am ei wasanaethau i gofio’r Holocost a’r addysg amdano.

Mae Mr Sumit Goyal (LLM 2010) yn Llawfeddyg Oncoplastig Ymgynghorol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac mae wedi treulio dros ddegawd yn ymdrechu i wella gwasanaethau’r fron, gan sefydlu Clinig y Fron One Stop yn Llandochau. Dyfarnwyd MBE iddo am ei wasanaethau i ganser y fron ac Elusen Canolfan y Fron Caerdydd.

Mr Paul Kalle-Grover (BSc 1998) yw Cadeirydd Partneriaeth Lerpwl Tsieina ac mae wedi derbyn MBE am ei wasanaethau i Fasnach a Buddsoddi Rhyngwladol.

Dyfarnwyd MBE i Dr John Llewelyn (MBBCh 1980), Meddyg Ymgynghorol mewn Niwroleg ac Uwch Ddarlithydd  Anrhydeddus yn Sefydliad Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan am ei wasanaethau i Feddygaeth yng Nghymru.

Mrs Jenni McDonnell (BSc 1992) yw Rheolwr Trosglwyddo Gwybodaeth y Rhwydwaith Gwybodaeth a Throsglwyddo ac mae wedi gweithio ers bron i ddegawd yn helpu miloedd o fusnesau i leihau allyriadau carbon trwy wella effeithlonrwydd thermol. Dyfarnwyd MBE iddi am ei gwasanaethau i’r economi werdd.

Dr Claire Prosser (BSc 2008, DEdPsy 2020) yw Sylfaenydd Spectropolis, prosiect elusennol sydd wedi ymroi i helpu pobl awtistig, aelodau o’u teulu a’r gweithwyr proffesiynol sy’n eu cefnogi. Dyfarnwyd BEM i Dr Prosser am ei gwasanaethau i blant ac oedolion ag anhwylder ar y sbectrwm awtistiaeth, a’u teuluoedd.

Fe wnaeth Dr Elizabeth Davies (MSc 2017), Geriatregydd Ymgynghorol yn Ysbyty Morriston yng Nghymru gydnabod yn gynnar ar ddechrau’r pandemig y byddai angen cefnogaeth a gwasanaethau ychwanegol ar yr henoed. Fe weithiodd gyda’r Adran Achosion Brys i sefydlu uned a allai dderbyn cleifion oedrannus yn syth ar ôl brysbennu. Fe wnaeth hynny osgoi derbyn pobl yn ddiangen i’r ysbyty, lleihau amser aros a chysgodi pobl hŷn rhag cleifion eraill. Dyfarnwyd BEM i Dr Davies am ei gwasanaethau i’r GIG a chleifion hŷn yn ystod pandemig COVID-19.

Wrth dderbyn ei BEM, dywedodd: “Rwy’n falch iawn ac yn teimlo’n wylaidd fy mod wedi derbyn y wobr hon sy’n cydnabod nid yn unig fy ngwaith i, ond gwaith holl dîm Adran Gofal yr Henoed ac Achosion Brys Morriston.”

Mae Dr Jeremy Williams (PhD 2013) yn ganwr opera sydd wedi perfformio mwy na 60 o rolau operatig ac sydd wedi derbyn BEM am ei wasanaethau i gerddoriaeth a gwaith elusennol. Ac yn Adran Filwrol Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines, dyfarnwyd statws Swyddog i Gaplan y Lluoedd (Dosbarth 1af), y Parchedig Andrew James MBE (MTh 2007). 

Rydym mor falch o’n cymuned o gynfyfyrwyr yng Nghaerdydd llongyfarchiadau mawr i bawb sydd wedi’u cydnabod am eu hymroddiad a’u cyflawniadau.