Alumni Stories, Cyswllt Caerdydd, News

Chwiorydd mewn busnes – cynnyrch cychod gwenyn

Astudiodd dwy chwaer, Gillian Nimmo (BSc 1985) a Jane Nimmo (BSc 1986) yr un cwrs ym Mhrifysgol Caerdydd dros 30 mlynedd yn ôl ac yn ddiweddar rhoddodd y ddwy eu pennau at ei gilydd i redeg busnes bach ecogyfeillgar o’r enw Let it Bee, yn gwerthu gofal croen cynaliadwy, sebon a cynhyrchion eraill o gychod gwenyn. Maen nhw’n gweithio yn eu ceginau eu hunain, gyda chymorth miloedd o wenyn prysur.  

Cyrhaeddodd Gillian Nimmo Brifysgol Caerdydd ym 1981, yn frwd dros ieithoedd ac yn barod i astudio a chael rhywfaint o hwyl. Flwyddyn yn ddiweddarach, cyrhaeddodd ei chwaer Jane, â’i phryd ar fod yn annibynnol a gweld yr hyn roedd gan y ddinas i’w chynnig.  

Er mor debyg oedd dewisiadau Gillian a Jane, eu gwahaniaethau a lywiodd eu hamser ym Mhrifysgol Caerdydd a’u perthynas fel partneriaid busnes yn y pen draw yn y dyfodol.  

“Dewisais Brifysgol Caerdydd gan fy mod wrth fy modd ag ieithoedd,” meddai Gillian i ddechrau. “Ffrangeg a Sbaeneg oedd fy hoff bynciau ac roeddwn i eisiau parhau â nhw. Roedd cwrs Caerdydd yn cynnig cyfuniad unigryw o ddwy iaith gydag elfen fusnes.” 

“I mi, roedd y lleoliad yn hollbwysig,” meddai Jane, “cawson ni ein magu yn Abertawe, felly Caerdydd oedd y ddinas fawr. Roedden ni’n arfer mynd i Ynys y Barri i flasu’r hufen iâ ymhell cyn Gavin and Stacey wneud y lle’n enwog! Roedd Caerdydd yn lle cŵl iawn i fod.”  

“Ac yn ddigon agos i fynd â llwyth o olch adref at mam a dad!” ychwanega Gillian gan chwerthin.   

Er syndod efallai, roedd Gillian a Jane yn byw bywydau gweddol ar wahân yn ystod eu hamser yn y brifysgol.  

“Gan fy mod flwyddyn yn hŷn”, meddai Gillian, “Roeddwn eisoes wedi ymgartrefu pan gyrhaeddodd Jane yn fy ail flwyddyn, ac roeddwn yn astudio dramor yn fy nhrydedd flwyddyn. Pan ddes i yn ôl, roedd Jane ar ei blwyddyn dramor. Roedden ni yn dod ar draws ein gilydd o bryd i’w gilydd – fel arfer wrth far yr undeb!”  

Am eu bod yn astudio’r un cwrs, cawsant gyfle unigryw hefyd i dreulio rhywfaint o amser gwerthfawr gyda’i gilydd fel chwiorydd. 

“Cawsom gyfle i fynd ar gwrs am fis i ddysgu Catalaneg yng ngogledd Sbaen ac fe wnaethom dreulio llawer o amser gyda’n gilydd yn y mynyddoedd gyda myfyrwyr eraill o Ewrop. Roedd yn brofiad gwych,” meddai Jane.  

Wrth gwrs, mae ganddynt rai atgofion cyffredin o Brifysgol Caerdydd hefyd.  

Mae Gill yn gwenu o glust i glust ac yn dweud, “Roedd pob math o ddrygioni yn digwydd yn Neuadd y Brifysgol – dwi ddim yn siŵr y galla i eu hailadrodd! Roedd yn llawer o sbort. Roeddwn wrth fy modd gyda’r diwrnodau rygbi rhyngwladol yng nghanol Caerdydd. Byddem bob amser yn prynu bag o sglodion ar y ffordd adref i geisio sobri rhywfaint. Roedden nhw’n ddyddiau da.”  

Ar ôl graddio, dilynodd y chwiorydd lwybrau gwahanol ym myd gwaith. 

Aeth Gillian i Lundain a chwrdd â’i gŵr. Symudodd i Seland Newydd a threuliodd 27 mlynedd yn Awstralia, Seland Newydd a Fiji. Dychwelodd i’r DU dair blynedd yn ôl ar ôl gweithio gydag amrywiaeth o sefydliadau di-elw a llywodraeth leol.  

Syrthiodd Jane dros ei phen â’i chlustiau mewn cariad â Sbaen a Sbaeneg, felly yn syth ar ôl graddio roedd hi ar yr awyren. Bu’n gweithio yn y diwydiant twristiaeth ac yna’n gweithio mewn iard llongau yn Galicia. 

“Roedd yn eithaf anarferol ond roedd yn rhoi boddhad mawr i mi. Dwi’n meddwl y byddwn i wedi aros yno ond daeth fy chwaer arall i fy nôl a’m llusgo adref!” Meddai Jane. Daeth yn ôl a gweithio yng Nghaerdydd i Awdurdod Datblygu Cymru a threuliodd 30 mlynedd yn gweithio ar faterion Ewropeaidd a gweithio ar brosiectau’r Comisiwn Ewropeaidd.  

“Rwy’n Europhile go iawn a’m cwrs i yng Nghaerdydd a’m helpodd i lywio pwy ydw i,” esbonia Jane.    

Ond dros y 10 mlynedd diwethaf, mae Jane wedi bod yn meithrin angerdd arall: cadw gwenyn.  

“Fe wnes i hynny am resymau amgylcheddol i ddechrau, ac fe ddatblygodd o hynny. Dechreuodd gyda dim ond ambell haid o wenyn ond o fewn dim roedd gen i 6,7,8 haid, a chyda cymaint â hynny mae gennych dipyn o fêl yn sbâr!” Eglura Jane. 

“Mae croen sensitif gyda fi a Gill, felly dechreuais ddefnyddio’r cwyr gwenyn a’r mêl fel gofal croen naturiol a rhoi potiau i ffwrdd fel anrhegion Nadolig. Hwyl oedd y cyfan mewn gwirionedd a dywedodd pobl y dylem ni sefydlu fel busnes, felly dyna beth wnaethon ni.”  

Jane yw’r gwenynwr, yn creu’r fformiwlâu ar gyfer y sebon a’r eli. Mae Gillian yn eu profi, yn dylunio’r pecynnu, ac yn gwneud cynhyrchion gwenyn eraill ar gyfer y cartref.  

“Mae cyfuniad da o sgiliau gyda ni,” meddai Jane, “Pe byddwn i’n ceisio gwneud hyn ar fy mhen fy hun, byddai hi’n anodd iawn arna i gan fod cymaint o beli i’w jyglo. A dydw i ddim yn meddwl ein bod ni erioed wedi bod mor agos fel chwiorydd. Mae’r teulu yn cael llond bol ar adegau oherwydd pryd bynnag y byddwn yn dod at ei gilydd ar gyfer pryd o fwyd fel teulu, maent yn tynnu ein sylw at y ffaith fy mod i Gill wedi bod yn cael cyfarfod pwyllgor Let It Bee wrth un pen o’r bwrdd!” 

“Mae ein teulu ehangach yn wych yn ein cefnogi,” ychwanega Gillian, “Mae partner Jane yn mynd ar ei feic i ddanfon peth cynnyrch yn lleol ac mae ei mab wedi gwneud rhai fideos i ni. Mae hyd yn oed ein mam (yn ei 80au hwyr) yn Abertawe yn dweud wrth ei ffrindiau i gyd. Rydyn ni’n ei hystyried hi fel prif hyrwyddwr ein cynnyrch yng Nghymru!”  

Tyfodd angerdd Jane dros wenyn a chadw gwenyn dros y blynyddoedd. Yn ogystal â rhedeg Let It Bee, mae hi’n ymwneud â Chymdeithas Gwenynwyr Swydd Warwick ac mae’n arweinydd addysg ar draws Birmingham, gan annog ac addysgu ei chyd wenynwyr.  

“Mae cadw gwenyn yn llawer mwy cymhleth nag y tybiwch, ac mae llawer o wenynwyr yn rhoi’r gorau iddi yn ystod eu blwyddyn gyntaf. Rydym yn benderfynol o sicrhau bod gwenynwyr newydd yn mynd ar gyrsiau ac yn cael mentor i roi cefnogaeth iddynt. Nid yw’n fater o gael y cwch gwenyn a’i adael ar waelod eich gardd. Mae angen dysgu am heidio, plâu a chlefydau, a beth mae’r gwenyn yn chwilio amdano,” esbonia Jane.   

“Mae gwenyn yn greaduriaid diddorol,” meddai Gillian, “a dydw i ddim yn credu bod llawer o bobl yn sylweddoli faint rydym yn dibynnu arnynt ar gyfer ein bwyd. Rwy’n caru fy nghoffi a’m siocled – ond heb wenyn ni fyddem yn cael y pethau hynny.” 

Daw Jane i’r casgliad: “Pe bawn i’n gallu cyfleu un neges, dyma hi: cefnogwch eich gwenynwr lleol a phrynwch fêl leol, naturiol, amrwd. Yn ogystal â bod yn dda i’r amgylchedd, mae’n blasu’n hollol wahanol i’r hyn a geir yn yr archfarchnad!”  

Awgrymiadau garddio sydd o les i wenyn 

Mae Jane a Gillian yn annog pobl i wneud pethau syml yn eu hamgylchedd i helpu pryfed peillio. Dyma rai o’u hawgrymiadau:  

  • Peidiwch â defnyddio plaladdwyr yn yr ardd a gadewch i bethau dyfu ychydig yn wyllt.  
  • Hyd yn oed os oes gennych falconi bach, bydd un neu o botiau’n gwneud byd o wahaniaeth.  
  • Casglwch bennau hadau a’u taflu ar ddarnau o dir diffaith. Taflwch hadau i gornel o’ch gardd sydd wedi’i esgeuluso, neu os ydych yn mynd am dro, dewch o hyd i ddarn o dir moel a’u hau.  
  • Mae angen llawer iawn o ddŵr ar wenyn i oeri’r cwch gwenyn a phrosesu’r mêl. Felly, rhowch botiau bach o ddŵr allan gydag ychydig o gerrig mân ynddyn nhw fel nad yw’r gwenyn yn mynd i nofio!  
  • Os ydych chi’n mynd i ganolfan arddio, chwiliwch am labeli ‘sydd o les i bryfed peillio’. Nid yw pob blodyn yn dda i’r holl bryfed peillio. Tafodau bach iawn sydd gan wenyn mêl, felly dim ond i rai blodau y maen nhw’n gallu mynd i mewn iddyn nhw.  
  • Peidiwch â thorri eich chwyn. Mae dant y llew a blodau menyn yn ffynonellau pwysig o neithdar. Gall iorwg achosi llawer o niwed, ond bydd gwenyn meirch, pryfed a gwenyn yn heidio i’r blodau bach sydd arnyn nhw nes ymlaen yn y tymor pan nad oes fawr ddim arall ar gael.  

Mae gan Jane a Gillian lu o awgrymiadau eraill am gadw gwenyn, cynhyrchion gwenyn a garddio mewn ffyrdd sydd o les i’r amgylchedd ar eu gwefan.