Cofrestrwch ar gyfer #5kMay
29 Ebrill 2021Y mis hwn, mae crewyr her 5k y cyfnod clo, Run For Heroes, wedi lansio digwyddiad rhedeg rhithwir newydd, #5kMay. Darllenwch ragor am sut i gefnogi ymchwil Prifysgol Caerdydd drwy gymryd rhan yn eich 5k eich hun ym mis Mai.
5kMay yw fersiwn 2021 o her boblogaidd ‘Rhedeg 5, Rhoi 5, Enwebu 5’ a gododd filiynau ar gyfer elusennau. Eleni, rhedwch 5k unrhyw bryd rhwng 1 a 31 Mai. Gallwch wneud y 5k hwn unrhyw le, unrhyw bryd a gydag unrhyw un. Gallwch ei redeg, ei rolio, ei gerdded, ei feicio neu hyd yn oed ei nofio…! Mynd allan a theimlo’n dda yw’r nod – yn ogystal â rhoi rhywbeth yn ôl i achos da.
Ar ôl i cwblhau eich her, rhowch £5 i ymchwil niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl neu ganser Prifysgol Caerdydd.
Y cam olaf yw enwebu 5 o’ch ffrindiau neu gydweithiwyr i gymryd rhan hefyd, gan gofio ein tagio (@prifysgolCdydd) er mwyn i ni allu rhannu!
Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn cael bag llawn gwobrau a nwyddau gan frandiau gwych!
Bydd llawer o aelodau #TîmCaerdydd sydd wedi cofrestru i redeg Hanner Marathon Caerdydd yn cymryd rhan, fel cam cyntaf gwych i roi hwb i’w hyfforddiant ac i godi arian.
Rhagor am ymchwil niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl neu ganser Prifysgol Caerdydd.
- Medi 2024
- Awst 2024
- Gorffennaf 2024
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Mawrth 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018