Mae George Watkins (BA 2018) yn rhedwr Hanner Marathon Caerdydd profiadol ac yn gyn-Swyddog Iechyd Meddwl ym Mhrifysgol Caerdydd. Yn 2018, 2019 a 2022, rhedodd yn rhan o #TeamCardiff, gan godi arian ar gyfer gwaith ymchwil hanfodol Prifysgol Caerdydd ym maes niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl. Yma, mae George yn rhannu ei daith gyda rhedeg a'i iechyd meddwl ei hun.
Gwych — rydych chi wedi cael gwahoddiad i gyfweliad am swydd newydd a chyffrous, ond beth nesaf!? Yn aml, bydd aros am gyfweliad yn gallu codi braw ar rywun, ond drwy baratoi’n effeithiol amdano, byddwch chi’n dawel eich meddwl wrth wybod y gallech fynd i'r afael ag ef yn llawn hyder. Cawson ni sgwrs gyda rhai o'n cyn-fyfyrwyr gwych, ac maen nhw wedi rhannu awgrymiadau da iawn ar sut i lwyddo yn eich cyfweliad nesaf.
Lucy Robertson (BA 2023) sydd newydd raddio eleni, sy’n myfyrio ar ei chyfnod o fod yn fyfyriwr, a'r syniad o gymryd blwyddyn fwlch wedi’r brifysgol yn hytrach na mynd yn syth i fyd gwaith.
Cafodd Tyrone Stewart (MSc 2022) ei fentora’n rhan o'n rhaglen mentora gan gyn-fyfyrwyr yn ystod ei radd meistr. Andrew Jones (BSc 2014) sy’n hyfforddwr busnes oedd ei fentor.
Yn dilyn ymateb enfawr gan y gymuned o gynfyfyrwyr, mae Barry Sullivan, Pennaeth Cysylltiadau Cynfyfyrwyr, yn rhoi crynodeb i ni am yr hyn fydd yn digwydd nesaf a beth i edrych amdano ar y rhestr.
Mae'r gyn-fyfyrwraig Katy Thomas (BA 2004) yn rhedwr Hanner Marathon Caerdydd profiadol ac yn dechrau ar ei thrydedd ras ar ddeg ym mis Hydref. Ar ôl colli sawl aelod agos o'i theulu i ganser, mae hi wedi cael ei hysbrydoli i godi arian dros ymchwil Prifysgol Caerdydd a fydd yn gwella gwaith i atal canser, ei ddiagnosio a’i drin.
Dechreuodd Dr Nicholas Jones (BMus 1994, MMus 1995, PhD 1999), ei swydd yn Bennaeth yr Ysgol Cerddoriaeth ym mis Awst 2023, gan olynu’r Athro Ken Hamilton. Yn gynfyfyriwr triphlyg o Gaerdydd, mae Nick wedi astudio a gweithio yn y Brifysgol ers dros 30 mlynedd. Cyn dechrau'r flwyddyn academaidd newydd, mae Nick yn rhannu ei obeithion a'i flaenoriaethau ar gyfer dyfodol yr Ysgol Cerddoriaeth.
Astudiodd Beti George (BA 1960) y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae'n ddarlledwr teledu a radio Cymreig o fri. Yma, mae Beti yn rhannu atgofion ei phlentyndod o’r Eisteddfod, ac yn sôn am yr hyn y mae hi, a’r Gymraeg yn ei olygu iddi.
Bu myfyrwyr o Brifysgol Florida yn ymweld â Chaerdydd yn ddiweddar i ddysgu mwy am gyfraith Cymru a Phrydain. Dan arweiniad y cyn-fyfyriwr o Brifysgol Caerdydd Dr Matthew Jones (MA 2017), Athro Cyfarwyddo Cynorthwyol ym Mhrifysgol Florida, cafodd y myfyrwyr y cyfle i fynd i ddigwyddiad rhwydweithio arbennig i gysylltu â chyn-fyfyrwyr Caerdydd sy'n gweithio ym maes y gyfraith a gwleidyddiaeth.
Mae aelodau o gymuned cynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd wedi cael eu cydnabod am eu llwyddiannau eithriadol yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin ar gyfer 2023.
Gall datblygu sgiliau trosglwyddadwy fod yn amhrisiadwy i'ch dilyniant, boed hynny drwy wirfoddoli, profiad personol neu drwy eich astudiaethau prifysgol. Buom yn siarad ag aelodau o’n cymuned anhygoel o gynfyfyrwyr sydd wedi rhannu eu doethineb ynghylch sut y gall y sgiliau hyn fod o fudd i chi wrth ddechrau ar eich gyrfa.
Mae rhaglen Arweinwyr y Dyfodol mewn Ymchwil Canser (FLiCR) Prifysgol Caerdydd yn rhoi’r sgiliau a’r hyfforddiant sydd eu hangen ar ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa i lwyddo yn eu maes. Mae FLiCR yn fan cychwyn i’r ymchwilwyr gorau a disgleiriaf lansio eu gyrfaoedd a dod yn genhedlaeth nesaf o arweinwyr ymchwil canser. Dyma hanes tri Arweinydd y Dyfodol o’n carfan 2017 a lle maen nhw heddiw.
Yn ddiweddar, cymerodd Kate Walsh (LLB 2010, PGDip 2011) ran yn ein cynllun mentora fflach blynyddol - Menywod yn Mentora, a chafodd gyfle i gael profiad gwerthfawr yn y diwydiant gan ei mentor.
Mae Wythnos y Gwirfoddolwyr yn ddathliad blynyddol a gynhelir rhwng 1-7 Mehefin i glodfori’r cyfraniad mae miliynau o bobl ledled y DU yn ei wneud drwy wirfoddoli yn eu cymunedau.
Yn 2015, sefydlodd Joshua Peasley (MArch 2018), Harry Thorpe (MArch 2018) a Harrison Marshall (MArch 2018) Stiwdio CAUKIN. Y nod? Grymuso cymunedau byd-eang trwy ddylunio a phensaernïaeth gynaliadwy, wrth addysgu […]
Lansiodd Prifysgol Caerdydd ei Changen Cynfyfyrwyr yn Efrog Newydd yn swyddogol ym mis Ebrill 2023, gyda'r nod o wneud cysylltiadau gwell yn ei chymuned fyd-eang. Gabriel Yomi Dabiri (LLB 2008), cyd-sylfaenydd a chyd-gadeirydd y gangen, sy'n sôn am y digwyddiad a'i atgofion o Gaerdydd.
Graddiodd Rhys Hughes (MA 2017) gyda gradd meistr mewn Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd, cyn dechrau ar PhD yn Arizona, UDA. Ac yntau wedi’i fagu yng Nghymru, mae'n rhannu ei atgofion o'r Eisteddfod Genedlaethol a sut mae'n cadw cysylltiad â'i wreiddiau Cymreig ymhell o gartref.
Buom yn siarad â'r Athro David Mosey CBE (LLB 1976) am theatr fyfyrwyr, pêl-droed, a'r radd yn y gyfraith a arweiniodd at ei yrfa ddisglair: o Gyfreithwyr Trower & Hamlins, i Goleg y Brenin Llundain, i CBE yn Rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd 2023 am wasanaethau i'r diwydiant adeiladu.