Sut i ddod o hyd i chi’ch hun yn ein fideos archif o’r seremonïau graddio
7 Awst 2024Ydych chi’n cofio sut oeddech chi’n teimlo wrth i chi gerdded ar lwyfan Neuadd Dewi Sant? Oeddech chi’n teimlo’n nerfus, yn chwilio am eich teulu ymysg y dorf, neu’n barod i fwynhau’r teimlad o glywed eich enw yn cael ei alw! Er bod blynyddoedd lawer wedi mynd heibio, gallwch chi ail-fyw’r foment trwy ddod o hyd i’ch hun yn ein harchifau Graddio. Porwch ein harchifau graddio o 2004, 2005, 2006, 2007, 2008, 2009 a 2010.
Gallwch chi weld seremonïau Graddio mwy diweddar ar ein gwefan.
Dyma ein hawgrymiadau ar gyfer dod o hyd i chi’ch hun neu’ch ffrindiau yn y fideos.
- Byddwch chi’n gweld rhestr lawn o’r ysgolion hynny sy’n rhan o seremoni benodol yn y disgrifiad o’r fideo ar YouTube.
- Tua awr a hanner yw hyd pob seremoni, a bydd enwau’r graddedigion yn cael eu darllen tua 15-20 munud ar ôl dechrau’r fideo.
- Yn y seremonïau, bydd yr ysgolion yn cael eu cyflwyno yn ôl y drefn a nodir yn y disgrifiad.
- Dyfernir graddau israddedig pob ysgol yn gyntaf. Bydd y rhain yn cael eu rhannu fesul cwrs, a byddwn yn galw ar y graddedigion yn nhrefn yr wyddor yn y cwrs. Unwaith y bydd yr holl raddau israddedig wedi cael eu galw, bydd y graddau meistr yn cael eu galw, unwaith eto fesul cwrs, ac yna yn nhrefn yr wyddor. Yn olaf, gelwir graddau PhD pob pwnc.
- Gair i gall – ewch ati i droi’r is-deitlau awtomatig ymlaen, clicio ar ‘more’ yn y disgrifiad o’r fideo a dewis ‘Show transcript’. Gan ddefnyddio’r swyddogaeth chwilio (CTRL + f ar eich bysellfwrdd), chwiliwch am eich enw cyntaf neu’ch enw canol. Gallwch chi hefyd geisio chwilio am eich cyfenw, ond sylwer efallai na fydd yr is-deitlau awtomatig yn sillafu’ch enw yn gywir.
- Wedi ichi ddod o hyd i chi’ch hun, defnyddiwch y botwm ‘Share’ er mwyn anfon y fideo at eich ffrindiau a’ch teulu. Ticiwch y blwch ‘Start at’ i gael dolen sy’n dangos eich eiliad arbennig chi.
- Os ydych chi’n bwriadu rhannu’r fideo ar X, Facebook neu Prigysgol Caerdydd ar LinkedIn, cofiwch ein tagio ni.
- Rhannwch y cariad a rhoi gwybod i’ch ffrindiau. Os nad ydyn nhw eisoes wedi cael ein e-gylchlythyr i gyn-fyfyrwyr, gallan nhw gofrestru i’w gael yma.
- Hydref 2024
- Medi 2024
- Awst 2024
- Gorffennaf 2024
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Mawrth 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018