Mae’r artist a’r pensaer, Katherine Jones (BSc 2011, MArch 2013, PGDip 2015), yn egluro sut ellir ymgorffori grym hiraeth a’n hawydd i ymgysylltu mewn adeiladau a’r celf sy’n eu darlunio.
Dr Abdul C.M. Mae Rasheed yn fewnfudwr cenhedlaeth gyntaf o bentref bach gwledig yn Sri Lanka. Roedd yn Swyddog Ymchwil yn yr Ysgol Cemeg rhwng 1975 ac 1978. Mae wedi ymddeol o’i waith fel Uwch-beiriannydd Datblygu erbyn hyn,ond mae ganddo atgofion melys o’i amser yng Nghaerdydd. Mor felys oeddynt, iddo annog ei bedwar o blant i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd.
Tra bo’r cyfyngiadau symud ar waith, mae pobl yn chwilio am ffyrdd newydd a chreadigol i godi arian ar gyfer achosion pwysig. Mae sawl marathon a ras wedi cael eu canslo, ond nid yw Josh Little (MEng 2019) ac Owain Davies (Cysylltiadau Rhyngwladol a Gwleidyddiaeth 2019 -) wedi gadael i hynny eu rhwystro rhag codi arian ar gyfer niwrowyddoniaeth ac ymchwil iechyd meddwl a chanser ym Mhrifysgol Caerdydd fel rhan o #TîmCaerdydd. Maent wedi penderfynu mynd i’r afael â heriau newydd sydd o fewn y canllawiau...
Yr Athro Stephen Riley (MD 2003, MBBCh 1993) yw Pennaeth Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd ac mae’n gynfyfyriwr. Mae’n myfyrio ar lwyddiannau myfyrwyr meddygol blwyddyn olaf a chydweithwyr, a sut y mae COVID-19 yn newid y ffyrdd rydym yn dathlu, gweithio ac addysgu.
Mae ein cynfyfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn griw creadigol sydd wedi canfod ffordd i gyrraedd llawer drwy bŵer y podlediad. P’un a ydych awydd chwerthin, gwers werthfawr neu gyngor defnyddiol, rydym wedi casglu ychydig o’r nifer o bodlediadau poblogaidd gan ein cynfyfyrwyr medrus a dawnus i’ch helpu i ladd amser.
Mae James Smart (MA 2016) yn newyddiadurwr darlledu llwyddiannus yn Nairobi. Mae rhai o uchafbwyntiau ei yrfa yn cynnwys bod yn gyflwynydd newyddion ar gyfer sianeli teledu blaenllaw Kenya, gweithio ar ddarllediad y BBC: ‘Focus on Africa’, creu dwy sioe deledu hynod lwyddiannus ac, yn fwy diweddar, sylwebu ar effaith y coronafeirws ar aelodau mwyaf bregus cymdeithas.
Yr Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl hon rydym yn siarad gyda Rosie Moore (BSc 2017, Dulliau Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol 2018-) a gafodd ei hysbrydoli gan ei thrafferthion ei hun gydag iechyd meddwl i ymgyrchu i godi ymwybyddiaeth, ac ymgymryd â PhD mewn Atal Hunanladdiad.
Mae Julie Nicholas (MSc 2005) yn egluro pam ei bod yn codi arian ar gyfer cerflun newydd o gyn-lywydd Prifysgol Caerdydd, Arglwyddes Rhondda, yn ei dinas genedigol yng Nghasnewydd.
Mae Simon Wright (LLB 1995) a Claire Morgan (BSc Econ 1992, MSc 1994) ill dau yn gynfyfyrwyr ac yn aelodau staff - dywedon wrthym am yr her o gefnogi myfyrwyr drwy’r argyfwng.
Cymhwysodd Emily Chestnut (BN 2019) fel nyrs ddiwedd 2019 ac mae’n gweithio yn Ysbyty’r Mynydd Bychan, Caerdydd. Mae hi’n gweithio ar y ward gastroenteroleg a chlefydau heintus A7, sy’n darparu […]
Mae aelodau o deulu Caerdydd bellach yn ysgwyddo cyfrifoldebau newydd yn yr ymdrech fyd-eang i fynd i’r afael â COVID-19. P’un a oes ganddynt gefndir mewn peirianneg, meddygaeth, cyfathrebu, cyfrifiadureg, busnes neu chwaraeon, mae’r cynfyfyrwyr hyn o Brifysgol Caerdydd yn rhoi eu hamser, eu hegni a’u sgiliau i ymladd yn erbyn pandemig y coronafeirws.
Ydych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod â’r sgiliau a’r profiad i gefnogi Cyngor y Brifysgol? Mae Cadeirydd Cyngor y Brifysgol am benodi dau Aelod Lleyg newydd i'r Cyngor o 1 Awst.
Yn y cyntaf o’n blogiau i Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr, mae Graham Findlay (PgDip 1991) yn ystyried sut y gallai pandemig Covid-19 fod wedi dod â gweithio hyblyg gam yn nes i bobl anabl. Mae Graham wedi bod yn ymgyrchydd dros hawliau anabledd ers blynyddoedd lawer.
Mae’r Parchedig Delyth Liddell (BTh 2003, MTh 2014) yn weinidog Methodistaidd, a hi yw Caplan Cydlynu Caplaniaeth Prifysgol Caerdydd. Mae’r Gaplaniaeth yn cynnig lle o gyfeillgarwch, lletygarwch, myfyrio, gweddïo, cymorth a deialog, lle gall fyfyrwyr a staff gymdeithasu ac ystyried ffydd ac ysbrydolrwydd. Mae pob un o’r caplaniaid yn dod o gefndiroedd crefyddol gwahanol.
Siaradon ni â Shuting Cai (sydd hefyd yn cael ei galw’n Lily), myfyriwr Cyfrifeg a Chyllid ôl-raddedig a gymerodd ran yng nghynllun ‘Ieithoedd i Fusnes’.
Athro Subodh Chandra Mahalanobis (circa 1900) Nid yw Subodh Chandra Mahalanobis yn enw cyfarwydd i lawer, ond roedd y cyn-academydd o Brifysgol Caerdydd yn arloeswr yn ei gyfnod. Yng Ngholeg […]
Prem Gill (BSc 2017) sy’n arwain prosiect Morloi o’r Gofod - yn gweithio i fapio poblogaethau anifeiliaid Antarctig. Fe wnaethom ofyn iddo sut beth yw bod yn fforiwr pegynol.
I ddathlu deng mlynedd o ymchwil arloesol yng Nghanolfan y Cyngor Ymchwil Feddygol ar gyfer Geneteg Niwroseiciatrig a Genomeg, fe wnaethom gynnal yr arddangosfa Ailystyried Salwch Meddwl.