
Astudiodd Phillip Cooke (PhD 2008) yn yr Ysgol Cerddoriaeth ac mae bellach yn Bennaeth Cerddoriaeth yn Adran Cerddoriaeth Prifysgol Aberdeen. Dywed i’r cyfleoedd addysgu a roddwyd iddo fel myfyriwr PhD ei helpu gyda’i yrfa arfaethedig yn ogystal â rhoi’r profiad angenrheidiol ar gyfer ymgeisio am swyddi ar ôl graddio.
Fy hoff atgofion o fy nghyfnod yng Nghaerdydd yw’r cyfleoedd oedd ar gael i fi fel cyfansoddwr ac academydd. Dysgais lawer ond cefais lawer o brofiadau hefyd. Roedd gweithio gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn uchafbwynt, fel oedd gweithio gydag amrywiol ensembles a pherfformwyr proffesiynol.
Roedd hefyd yn wych cael bod yng Nghaerdydd, wrth iddi dyfu’n ddinas fyd-eang. Roedd gweld yr adeiladau newydd yn ymddangos a gwylio’r ddinas yn dod o hyd i’w hunaniaeth yn rhywbeth gwych i gael bod yn rhan fach ohono.
Cyflwynodd yr Ysgol Cerddoriaeth set wych o alluoedd i mi eu defnyddio fel cyfansoddwr, athro ac academydd, ac rwyf i’n dal i ddefnyddio pob un heddiw. Yn sicr roedd y cyfleoedd a gefais i addysgu yn gymorth i fi ddod yn ddarlithydd gwell, a helpodd y cyfle i weithio gyda cherddorion gwych fi fel cyfansoddwr.
Ar ôl graddio bûm i’n ffodus i gael Cymrodoriaeth Datblygu Gyrfa yng Nghyfadran Cerddoriaeth Prifysgol Rhydychen. Fe’i cyfunais gyda Chymrodoriaeth Ymchwil Iau yng Ngholeg Queen’s, Rhydychen. Roedd yn newid mawr o Gaerdydd, ond yn gam buddiol arall yn fy ngyrfa.
Gweithiais yn Rhydychen am bum mlynedd cyn symud i Aberdeen. Rwyf i wedi parhau i gyfansoddi, gan weithio gyda nifer o gorau ac ensembles blaenllaw’r wlad gyda llawer o recordiadau, darllediadau a chyhoeddiadau.
Ar hyn o bryd, fi yw Pennaeth Cerddoriaeth yr Adran Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Aberdeen. Does dim dau ddiwrnod yr un fath, ond ers dod yn Bennaeth, rwyf i wedi cyfnewid darlithio am gyfarfodydd, sy’n drueni mewn rhai ffyrdd ond mae’n ddiddorol bod yn rhan o ddatblygiad strategol y ddisgyblaeth.
Yn ddiweddar hefyd rwyf i wedi cael fy mhenodi’n arholwr allanol ar raglenni israddedig ym Mhrifysgol Caerdydd.
Fy nghyngor i fyfyrwyr presennol yw bod maes cyfansoddi a’r byd academaidd yn hynod o anodd i fynd iddyn nhw, ond mae hynny’n iawn. Ambell waith mae pethau’n anodd ond, heb geisio swnio fel canllaw hunangymorth, po fwyaf o bethau anodd sydd yn rhaid i chi eu goresgyn, y mwyaf y byddwch ar eich ennill o’u goresgyn nhw.
Byddwn i’n dweud wrthyf fy hun fel person ifanc i wneud y gorau o bob cyfle a ddaw a mwynhau cael y lle a’r amser i weithio’n galed ar y peth sy’n bwysig i chi. Unwaith y bydd gennych chi swydd lawn amser a phlant, does dim cymaint o le ac amser ar gael i chi.
Pe bai’n rhaid i fi ddisgrifio Prifysgol Caerdydd mewn pum gair byddwn i’n dewis: cynhwysol, cosmopolitan, byd-eang, cofiadwy ac wedi’i thanbrisio.
Yr argraff sydd wedi aros gyda fi o’r brifysgol yw lle croesawgar gyda phobl wych a chyfnod gwirioneddol ddifyr yn fy mywyd.