Rhoi profiadau i oedolion ifanc fydd gyda nhw am oes
17 Medi 2020Yn y misoedd diweddar, mae llawer ohonom wedi gweld effaith methu â theithio oherwydd y pandemig byd-eang. Mae’n dod yn amlwg pa mor werthfawr ac arbennig yw’r profiadau hyn, a’r ffaith ein bod wedi cymryd nhw’n ganiataol tan yn ddiweddar.
Mae rhaglen Cyfleoedd Byd-eang Prifysgol Caerdydd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr wirfoddoli, gweithio ac astudio dramor, ac elwa ar y profiadau na fyddent wedi’u cael fel arall. Buom yn siarad â Sammy Fagan (Cemeg 2018-) a dreuliodd haf 2019 yn addysgu plant yn Tanzania.
Ro’n i’n awyddus i fynd i Tanzania i addysgu Saesneg, ond nes i lawer mwy na hynny! Ro’n ni’n cymryd rhan yn y dosbarth ac yn ystod amser chwarae, ac felly’n helpu’r plant i ddeall chwarae a rhannu gyda’i gilydd.
Y peth mwyaf pleserus oedd gweld wynebau’r plant wrth glywed eu bod nhw wedi dweud yn iawn, ar ôl rhoi cynnig go dda arni! Roedd yr athrawon mor ddiolchgar am y deunyddiau ysgrifennu, ac roedd y boddhad a gafodd y plant wrth chwarae gyda swigod a balwnau wir yn gwneud i mi sylweddoli pa mor lwcus y’n ni.
Cefais gipolwg ar rai o’r prif wahaniaethau rhwng ein diwylliannau yn sgil cael fy nhrochi yn ffordd o fyw hollol wahanol, o’r cytiau a’r cawodydd oer i’r drafnidiaeth gyhoeddus (weithiau’n cael ei rhannu gydag ieir neu eifr). Dwi bendant yn gwerthfawrogi rhai pethau’n fwy, pethau yr oeddwn yn eu cymryd yn ganiataol o’r blaen.
Dysgais i fod yn fwy annibynnol yn ystod fy amser yno. Roedd gorfod dod o hyd i’n ffordd i’r ysgol ar drafnidiaeth gyhoeddus, a chwilio drwy’r ardal yn ein hamser rhydd, wedi fy helpu i ddysgu gwneud penderfyniadau, a bod â llai o ofn cymryd risgiau. Dwi newydd ddechrau ar fy mlwyddyn ar leoliad mewn diwydiant yn rhan o’m hastudiaethau parhaus. Nid yw hyn yn codi ofn arnaf gymaint o ystyried fy mod wedi teithio dramor ac wedi gwirfoddoli yn Affrica. Mae dechrau swydd newydd i weld yn hawdd o’i gymharu.
Y daith wnaeth ei gwneud hi’n glir i mi ‘mod i’n awyddus i fynd i mewn i faes puro dŵr, oherwydd pan ro’n i yno, dim ond dŵr potel oedd yn ddiogel i’w yfed. Fodd bynnag, roedd y plant yn yfed dŵr o’r tap ac er bod hyn yn edrych yn lân, doedd o ddim yn amlwg. Gwnaethom hefyd basio plant o ysgol wahanol yn casglu dŵr o afon fudr i’w yfed. Mae gennyf awydd cryf i helpu i newid hyn ac i roi mynediad i bawb at ddŵr yfed glân.
Roedd fy nhaith i Tanzania yn brofiad rhagorol na fyddaf fyth yn ei anghofio. Roedd yn llawn hwyl ac yn agoriad llygad a heb os yn rhywbeth y byddwn yn argymell i fyfyrwyr eraill ei wneud. Mae’n brofiad sy’n rhoi dealltwriaeth uniongyrchol i chi am y byd, ac yn eich helpu i ddatblygu sgiliau bywyd amhrisiadwy.
Mae Tanzania yn wlad na fyddwn erioed wedi ymweld â hi heb y cyfle gan Brifysgol Caerdydd ac os na fu cyllid, ni fyddwn fyth wedi gallu mynd. Drwy roi i’r rhaglen Cyfleoedd Byd-eang, rydych yn rhoi profiadau i oedolion ifanc fydd yn aros gyda nhw am oes. Nid yn unig hynny, ond gallai’r effaith y gallant ei chael ar y cymunedau y maent yn ymweld â nhw newid bywydau.
Dysgwch sut y gallwch gefnogi myfyrwyr Caerdydd drwy’r rhaglen Cyfleoedd Byd-eang i ehangu eu gorwelion, cael profiad o ddiwylliannau eraill a datblygu sgiliau newydd wrth iddynt nesáu at fywyd ar ôl y brifysgol.
- Medi 2024
- Awst 2024
- Gorffennaf 2024
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Mawrth 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018