Skip to main content

Cyswllt CaerdyddNewyddionStraeon cynfyfyrwyrUncategorized @cy

Delio â chofgolofnau dadleuol yn Estonia a thu hwnt

23 Gorffennaf 2020

Mae Federico Bellentani (PhD 2018) yn rheolwr ymchwil digidol i bartner Google Cloud yn yr Eidal. Mae ei ymchwil PhD am gofgolofnau dadleuol wedi dod yn fwyfwy perthnasol o ganlyniad i brotestiadau rhyngwladol a galwadau i dynnu cerfluniau i lawr. Mae’n trafod ei ddarganfyddiadau o Estonia a’i safbwyntiau ar ddelio â chofgolofnau dadleuol ledled y byd. 

During Federico’s time as a PhD student at Cardiff University, he was looking at monuments and memorials as built forms which communicate certain values and ideas.  

Yn ystod amser Federico fel myfyriwr PhD ym Mhrifysgol Caerdydd, roedd yn edrych ar gofgolofnau a chofebion fel ffurfiau adeiledig sy’n cyfathrebu gwerthoedd a syniadau penodol.  

“Byddwn yn mynd heibio cofgolofnau a cherfluniau Caerdydd pob dydd, yn enwedig wrth fynd i adeilad Morgannwg â’r cofebion rhyfel gyfagos. Fe wnaeth yr amgylchedd hwn fy helpu gyda’m hastudiaethau.”  

“Mae Cymru yn debyg i wledydd eraill sy’n mynd trwy gyfnod o newid. Mae ei pherthynas gyda’r DU wedi bod yn anodd ar adegau. Fy astudiaeth achos oedd Estonia, ond roedd ei gwneud yng Nghaerdydd yn ystyrlon.” 

Yn ddiweddar, mae cynghorau Cymreig wedi bod yn troi eu sylw at gofgolofnau a chofebion lleol ac yn asesu p’un a ddylid eu tynnu i lawr. Mae Federico yn pwysleisio pwysigrwydd y drafodaeth a chymhlethdod y mater.  

Mae ei ymchwil yn arddangos sut mae gwledydd ôl-sofietaidd wedi ceisio strategaethau gwahanol i leihau effaith cofgolofnau drwy eu tynnu i lawr, eu hadleoli neu, mewn rhai achosion, eu cuddio yn eu hamgylchedd cyfagos hyd yn oed.  

“Hoffwn bwysleisio – mae pob cenedl a phob cerflun â’i chyd-destun ei hun. Nid yw tynnu cofgolofn Sofietaidd i lawr yn Estonia yr un peth â thynnu cofgolofn Cydffederal i lawr yn yr UDA. Mae arferion cynllunio gwahanol iawn a syniadau gwahanol iawn o fethodolegau dylunio.”  

Yn seiliedig ar ei ddarganfyddiadau, mae Federico wedi datblygu set o strategaethau ar gyfer delio gyda chofgolofnau, o’u gadael fel y maent a delio gyda’r ffurf faterol, i’w dinistrio yn llwyr.  

Ar lefel y wladwriaeth, rwyf yn annog cyfranogiad â chymysgedd o bobl – artistiaid, penseiri, cynllunwyr, athronwyr a dinasyddion cyffredin. Mae’n bwysig asesu’r broblem hon ac mae’n gymhleth oherwydd bod llawer o emosiynau’n gysylltiedig.” 

Ar yr wyneb, mae tynnu cofgolofnau i lawr yn ymddangos yn syml, ond eglurai Federico fod tynnu cofgolofn i lawr yn gallu achosi ymateb annisgwyl weithiau.  

“Yng ngwledydd y Baltig, mae problemau wedi bod ynglŷn â symud ffurfiau adeiledig Sofietaidd oedd wedi cael eu derbyn am flynyddoedd. Nid oes twristiaeth o’u cwmpas a darnau gweithredol o’r amgylched adeiledig oeddynt yn unig. Eto, cawsant eu tynnu i lawr drwy wario swm enfawr o arian. Yn aml, cawsant eu rhoi mewn amgueddfa lle byddai pobl yn dechrau eu gweld. Rhoddodd fywyd newydd iddynt.  

“Fe wnaeth eu symud achosi tensiynau gyda chymydog dadleuol (Rwsia Putin) hefyd, a oedd yn pendroni pam oeddynt yn cael eu symud. Felly, mewn rhai achosion, gallwch greu problem ddwys a all arwain at sancsiynau economaidd, cael gwared ar lysgenadaethau ac, ar lefel eithafol, rhyfela hybrid.” 

Yn yr achos hwn, fe wnaeth tynnu cofgolofn i lawr achosi mwy o broblemau. Ond, fel pwysleisia Federico, mae pob cofgolofn neu gofeb yn wahanol  

“Mae Estonia wedi datblygu ffyrdd gwych o gynnwys pobl wrth ddylunio cofgolofnau. Yn 2018, fe adeiladon nhw gofeb i ddioddefwyr comiwnyddiaeth, a’i fwriad yw ehangu rhagor o’r cyhoedd i gymryd rhan drwy ddefnyddio offer digidol. Gerllaw y mae cofeb Sofietaidd arall na chafodd ei thynnu i lawr, felly maent yn byw gyda’i gilydd ac yn cydfodoli. 

“Nid yw’n dileu’r gorffennol nac yn ychwanegu tensiwn. Fe weithiodd y llywodraeth gyda chynllunwyr, dylunwyr a phobl a allai roi ateb o fath penodol, gan arwain at brosiect homogenaidd mae pobl, yn gyffredinol, yn ei hoffi.  

Mae Federico ar hyn o bryd yn gweithio i un o bartneriaid Google Cloud yn yr Eidal sy’n arbenigo mewn deallusrwydd artiffisial ac offer cydweithio. Wrth edrych i’r dyfodol, mae ganddo ddiddordeb mewn cyfuno ei arbenigedd a chanolbwyntio ar gofebion digidol.  

“Wrth feddwl am gofebion, maen nhw’n rhywbeth materol iawn ac yn bethau y gallwch eu cyffwrdd. Mae’r pandemig presennol wedi dangos fod coffâd yn bosibl heb gael neb yn gorfforol bresennol i goffáu eich anwyliaid. Dychmygwch faint o bobl ar draws y byd mewn cymunedau gwahanol allai ymgysylltu â chofeb pe na fyddai’r angen i fynd yno’n gorfforol?”  

Am fwy o wybodaeth am ymchwil a syniadau Federico gallwch ddarllen ei bapurau cyhoeddedig neu ei lyfr a gyhoeddir cyn bo hir