Skip to main content

Cyswllt CaerdyddNewyddion

Mae’n rhaid i ddiwydiannau creadigol gefnu ar docenistiaeth, ar fod yn arwynebol ac anwiredd

26 Mehefin 2020

Mae Joycelyn Longdon (BSc 2019) yn farchnatwr llawrydd a sylfaenydd BLACKONBLACK, asiantaeth greadigol sy’n hyrwyddo amrywiaeth yn y diwydiannau creadigol a chefnogi pobl greadigol o liw. Cawsom air gyda hi am ei gwaith, effaith COVID-19 ac #MaeBywydauDuoBwys, a beth ddaw gyda’r dyfodol. 

Roeddwn yn benderfynol i adael Llundain ond roeddwn i wir eisiau mynd i Brifysgol Grŵp Russell. Wrth chwilio’r tablau am brifysgolion oedd yn dda ar gyfer gwyddoniaeth, ffiseg yn benodol, roedd Caerdydd yn y deg uchaf ac felly roedd yn enillydd i mi. Penderfynais astudio Astroffiseg gan fy mod yn chwilfrydig. Roeddwn eisiau gwybod sut mae’r bydysawd yn gweithio ac wedi cael blas wrth wylio rhaglenni dogfen, ond roeddwn wir eisiau dysgu mwy. 

Rwyf wastad wedi bod yn greadigol ac entrepreneuraidd. Drwy gydol fy amser yn yr ysgol roeddwn o hyd yn meddwl am syniadau busnes. Byddwn yn darllen yr Harvard Business Review ac fe wnes hyd yn oed gychwyn fy musnes gemwaith fy hun ym mlwyddyn wyth. Rwyf yn berson sy’n defnyddio dwy ochr fy ymennydd ac ni allaf gael un heb y llall – felly roedd fwy o anghenraid yn ystod fy ngradd i mi gychwyn BLACKONBLACK, fy asiantaeth greadigol. 

 
Roedd dod yn ail yng Ngwobrau i Fusnesau Newydd Prifysgol Caerdydd am BLACKONBLACK yn anhygoel. Fe wnaeth ein helpu i greu cyfleoedd a phrosiectau ar gyfer ein cymuned, oedd yn golygu y gallwn eu cefnogi drwy gyfnod anodd iawn. Mae ein prosiect ‘Quarantine and Create’ wedi cefnogi pobl ifanc ddu greadigol sydd wedi colli eu swyddi yn ystod y cyfnod clo ac wedi codi eu hwyliau yn ystod ein hargyfwng hiliol byd-eang presennol. Mae’r rhain yn bethau na allwn fod wedi ei gwneud fel arall. 

O’n gwaith diweddar, rwy’n falch iawn o’n prosiect ‘COMME THE F*CK ON’Roedd yn brosiect ffotograffig dychanol i godi ymwybyddiaeth o’r hiliaeth a meddiannu amlwg o fewn y diwydiant ffasiwn – yn benodol yn yr achos hwn, Comme Des Garcons, a anfonodd nifer o fodelau gwyn lawr rhodfa, mewn wigiau ‘cornrow’ gwael, fel “teyrnged” i “ddiwylliant Eifftaidd”. Y prosiect oedd ein ffordd ni o ysgogi ffurf newydd o feirniadaeth, a arweinir gan y defnyddwyr, yn y diwydiant, ffurf sydd ddim yn gwasanaethu i’r brandiau drwy roi cyhoeddusrwydd am ddim iddynt, ond yn eu gwatwar. Roeddem eisiau annog gwneud y brandiau hiliol (a gwaharddol) yn destun gwatwar a chreu byd lle mae bod ynghanol trafodaethau fel hyn yn codi embaras. Nid yw amrywiaeth yn y diwydiant creadigol am gynrychiolaeth ar y sgrîn neu mewn sioeau yn unig. Mae gwir amrywiaeth yn cynnwys y timau tu ôl i’r camerâu, y strategwyr a chyfarwyddwyr a all achub y brandiau rhag methiannau fel hyn, bwriadol neu ddim. 

Fel gweithiwr llawrydd yn y gofod digidol, mae COVID-19 wedi fy ngwneud yn brysurach nag erioed, gyda llawer o’m cleientiaid yn gwthio i newid a symud ar-lein. Rwyf yn werthfawrogol iawn am hyn ond baswn yn dymuno cael ychydig mwy o seibiant! O ran BLACKONBLACK, mae COVID-19 wedi gwneud pethau ychydig yn ansicr, yn benodol sut rydym yn pontio yn ôl i fod yn fusnes ac nid llwyfan gefnogol yn unig. Rydym wrth ein bodd yn cefnogi pobl greadigol drwy weithdai, gweminarau a heriau, ond ein prif nod yw darparu cyfleoedd diriaethol yn y diwydiant iddynt yn ogystal. 

Ar gyfer pobl ddu, mae beth sy’n digwydd ynghylch #MaeBywydauDuoBwys wastad wedi bodoli iddynt. Does dim wedi newid oni bai am gyrhaeddiad y neges yn cyrraedd pellach ac yn uwch. I fy nghymuned, mae hil wastad wedi bod yn gynhenid yn eu creadigrwydd. Os edrychwch yn ôl ar ein dau gyfnod cyflwyno cyntaf, ysbrydoliaeth llawer o’r artistiaid oedd hil a ffeministiaeth. Mae ein cymuned fwy nag erioed angen cefnogaeth, allfeydd creadigol a chyfleoedd am adnewyddiad. 

Wrth edrych i’r dyfodol, rwy’n gobeithio bydd y diwydiannau creadigol yn cefnu ar docenistiaeth, ar fod yn arwynebol ac anwiredd. Mae cynnydd wedi’i wneud ond mae’n rhaid iddo fod yn ddiffuant. Rwyf hefyd yn gobeithio fod pobl greadigol ddu yn camu’n llawn i’w grym a sylweddoli eu gallu i greu eu mudiadau, gofod, llwyfannau a phrosiectau eu hunain! 

Yn ddiweddar cefais y newyddion fy mod wedi cael fy nerbyn ar raglen PhD yng Nghaergrawnt. Byddaf yn edrych ar y Defnydd o AI ar Newid Hinsawdd gyda ffocws ar sut allwn rymuso cymunedau brodorol a rheiny mewn gwledydd sy’n datblygu. Rwyf hefyd wedi lansio llwyfan creadigol newydd, Climate in Colour, er mwyn gwneud sgyrsiau am hinsawdd yn fwy hygyrch, amrywiol ac addysgiadol.  

Mae fy ffocws wedi newid ychydig, ond dim ond ychydig, a byddaf yn defnyddio’r amser hyn i ddeall sut bydd BLACKONBLACK yn symud yn ei flaen ac yn parhau i fod yn rhan o’m bywyd newydd.