Skip to main content

Cyswllt Caerdydd

Y teulu sy’n llawn cynfyfyrwyr Caerdydd

Y teulu sy’n llawn cynfyfyrwyr Caerdydd

Postiwyd ar 19 Mehefin 2020 gan Kate Morgan (BA 2017)

Dr Abdul C.M. Mae Rasheed yn fewnfudwr cenhedlaeth gyntaf o bentref bach gwledig yn Sri Lanka. Roedd yn Swyddog Ymchwil yn yr Ysgol Cemeg rhwng 1975 ac 1978. Mae wedi ymddeol o’i waith fel Uwch-beiriannydd Datblygu erbyn hyn,ond mae ganddo atgofion melys o’i amser yng Nghaerdydd. Mor felys oeddynt, iddo annog ei bedwar o blant i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd.

Sut y mae Ysgol Meddygaeth Caerdydd yn arloesi yn wyneb COVID-19

Sut y mae Ysgol Meddygaeth Caerdydd yn arloesi yn wyneb COVID-19

Postiwyd ar 29 Mai 2020 gan Alumni team

Yr Athro Stephen Riley (MD 2003, MBBCh 1993) yw Pennaeth Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd ac mae’n gynfyfyriwr. Mae’n myfyrio ar lwyddiannau myfyrwyr meddygol blwyddyn olaf a chydweithwyr, a sut y mae COVID-19 yn newid y ffyrdd rydym yn dathlu, gweithio ac addysgu.

11 podlediad poblogaidd gan gynfyfyrwyr Caerdydd

11 podlediad poblogaidd gan gynfyfyrwyr Caerdydd

Postiwyd ar 29 Mai 2020 gan Kate Morgan (BA 2017)

Mae ein cynfyfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn griw creadigol sydd wedi canfod ffordd i gyrraedd llawer drwy bŵer y podlediad. P’un a ydych awydd chwerthin, gwers werthfawr neu gyngor defnyddiol, rydym wedi casglu ychydig o’r nifer o bodlediadau poblogaidd gan ein cynfyfyrwyr medrus a dawnus i’ch helpu i ladd amser.

Myfyrio ar Fywyd: James Smart (MA 2016)

Myfyrio ar Fywyd: James Smart (MA 2016)

Postiwyd ar 29 Mai 2020 gan Kate Morgan (BA 2017)

Mae James Smart (MA 2016) yn newyddiadurwr darlledu llwyddiannus yn Nairobi. Mae rhai o uchafbwyntiau ei yrfa yn cynnwys bod yn gyflwynydd newyddion ar gyfer sianeli teledu blaenllaw Kenya, gweithio ar ddarllediad y BBC: ‘Focus on Africa’, creu dwy sioe deledu hynod lwyddiannus ac, yn fwy diweddar, sylwebu ar effaith y coronafeirws ar aelodau mwyaf bregus cymdeithas.

Wythnos Iechyd Meddwl 2020: Mae gan bawb iechyd meddwl

Wythnos Iechyd Meddwl 2020: Mae gan bawb iechyd meddwl

Postiwyd ar 21 Mai 2020 gan Alumni team

Yr Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl hon rydym yn siarad gyda Rosie Moore (BSc 2017, Dulliau Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol 2018-) a gafodd ei hysbrydoli gan ei thrafferthion ei hun gydag iechyd meddwl i ymgyrchu i godi ymwybyddiaeth, ac ymgymryd â PhD mewn Atal Hunanladdiad.

Cerflun ar gyfer Arglwyddes Rhondda – I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr

Cerflun ar gyfer Arglwyddes Rhondda – I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr

Postiwyd ar 13 Mai 2020 gan Alumni team

Mae Julie Nicholas (MSc 2005) yn egluro pam ei bod yn codi arian ar gyfer cerflun newydd o gyn-lywydd Prifysgol Caerdydd, Arglwyddes Rhondda, yn ei dinas genedigol yng Nghasnewydd.

Sut mae Caerdydd yn cefnogi myfyrwyr

Sut mae Caerdydd yn cefnogi myfyrwyr

Postiwyd ar 1 Mai 2020 gan Alumni team

Mae Simon Wright (LLB 1995) a Claire Morgan (BSc Econ 1992, MSc 1994) ill dau yn gynfyfyrwyr ac yn aelodau staff - dywedon wrthym am yr her o gefnogi myfyrwyr drwy’r argyfwng.

Fe wnaeth fy amser yng Nghaerdydd fy mharatoi’n drylwyr

Fe wnaeth fy amser yng Nghaerdydd fy mharatoi’n drylwyr

Postiwyd ar 1 Mai 2020 gan Alumni team

Cymhwysodd Emily Chestnut (BN 2019) fel nyrs ddiwedd 2019 ac mae’n gweithio yn Ysbyty’r Mynydd Bychan, Caerdydd. Mae hi’n gweithio ar y ward gastroenteroleg a chlefydau heintus A7, sy’n darparu […]

Cynfyfyrwyr Caerdydd: camu ymlaen yn ystod argyfwng

Cynfyfyrwyr Caerdydd: camu ymlaen yn ystod argyfwng

Postiwyd ar 1 Mai 2020 gan Kate Morgan (BA 2017)

Mae aelodau o deulu Caerdydd bellach yn ysgwyddo cyfrifoldebau newydd yn yr ymdrech fyd-eang i fynd i’r afael â COVID-19. P’un a oes ganddynt gefndir mewn peirianneg, meddygaeth, cyfathrebu, cyfrifiadureg, busnes neu chwaraeon, mae’r cynfyfyrwyr hyn o Brifysgol Caerdydd yn rhoi eu hamser, eu hegni a’u sgiliau i ymladd yn erbyn pandemig y coronafeirws.

Lleoedd gwag ar gyfer dau Aelod Lleyg ar Gyngor y Brifysgol

Lleoedd gwag ar gyfer dau Aelod Lleyg ar Gyngor y Brifysgol

Postiwyd ar 30 Ebrill 2020 gan Alumni team

Ydych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod â’r sgiliau a’r profiad i gefnogi Cyngor y Brifysgol? Mae Cadeirydd Cyngor y Brifysgol am benodi dau Aelod Lleyg newydd i'r Cyngor o 1 Awst.

Mae gweithio gartref yn gweithio – I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr

Mae gweithio gartref yn gweithio – I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr

Postiwyd ar 21 Ebrill 2020 gan Alumni team

Yn y cyntaf o’n blogiau i Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr, mae Graham Findlay (PgDip 1991) yn ystyried sut y gallai pandemig Covid-19 fod wedi dod â gweithio hyblyg gam yn nes i bobl anabl. Mae Graham wedi bod yn ymgyrchydd dros hawliau anabledd ers blynyddoedd lawer.

Ymateb ffydd i argyfwng

Ymateb ffydd i argyfwng

Postiwyd ar 27 Mawrth 2020 gan Alumni team

Mae’r Parchedig Delyth Liddell (BTh 2003, MTh 2014) yn weinidog Methodistaidd, a hi yw Caplan Cydlynu Caplaniaeth Prifysgol Caerdydd. Mae’r Gaplaniaeth yn cynnig lle o gyfeillgarwch, lletygarwch, myfyrio, gweddïo, cymorth a deialog, lle gall fyfyrwyr a staff gymdeithasu ac ystyried ffydd ac ysbrydolrwydd. Mae pob un o’r caplaniaid yn dod o gefndiroedd crefyddol gwahanol.

Siarad â chynulleidfa fyd-eang

Siarad â chynulleidfa fyd-eang

Postiwyd ar 31 Ionawr 2020 gan Alumni team

Siaradon ni â Shuting Cai (sydd hefyd yn cael ei galw’n Lily), myfyriwr Cyfrifeg a Chyllid ôl-raddedig a gymerodd ran yng nghynllun ‘Ieithoedd i Fusnes’.

‘Beth yw beth’ mewn etholiad cyffredinol

‘Beth yw beth’ mewn etholiad cyffredinol

Postiwyd ar 29 Tachwedd 2019 gan Alumni team

Cawsom air gyda Rhydian Thomas (BA 2000) am ei ran hanfodol yn ein democratiaeth a sut ddylanwadodd ei amser ym Mhrifysgol Caerdydd ar ei lwybr gyrfa.

Morloi o’r Gofod

Morloi o’r Gofod

Postiwyd ar 28 Tachwedd 2019 gan Alumni team

Prem Gill (BSc 2017) sy’n arwain prosiect Morloi o’r Gofod - yn gweithio i fapio poblogaethau anifeiliaid Antarctig. Fe wnaethom ofyn iddo sut beth yw bod yn fforiwr pegynol.

Geneteg Niwroseiciatrig: y gorffennol, presennol a’r dyfodol

Geneteg Niwroseiciatrig: y gorffennol, presennol a’r dyfodol

Postiwyd ar 31 Hydref 2019 gan Alex Norton

I ddathlu deng mlynedd o ymchwil arloesol yng Nghanolfan y Cyngor Ymchwil Feddygol ar gyfer Geneteg Niwroseiciatrig a Genomeg, fe wnaethom gynnal yr arddangosfa Ailystyried Salwch Meddwl.

Edrych yn ôl

Edrych yn ôl

Postiwyd ar 30 Medi 2019 gan Alumni team

Wyddech chi, pan sefydlwyd Coleg Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy ym 1884, dim ond 102 o fyfyrwyr amser llawn oedd ganddi? Bu'n siwrnai a hanner ers hynny – a gan fod archifau'r Brifysgol bellach yn cael eu digideiddio, dyma ambell uchafbwynt.

Gwirfoddoli yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Gwirfoddoli yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Postiwyd ar 29 Awst 2019 gan Alumni team

Gwirfoddolodd Rhys Fletcher (BA 2015) i gefnogi Prifysgol Caerdydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst. Fe holon ni Rhys sut oedd ei brofiad, a pham ei fod wedi dewis cymryd rhan.

Beth y mae’r Urdd yn golygu i fi

Beth y mae’r Urdd yn golygu i fi

Postiwyd ar 31 Mai 2019 gan Alumni team

Yr wythnos hon, mae Eisteddfod yr Urdd wedi dod i Fae Caerdydd. Dywedodd Nia Eyre (Cymraeg 2017-), Myfyrwraig Prifysgol Caerdydd, gwirfoddolwr a chystadleuydd wrthym beth y mae’r Urdd yn golygu iddi. 

Examined Life – Syr Craig Oliver (PGDip 1992)

Examined Life – Syr Craig Oliver (PGDip 1992)

Postiwyd ar 25 Ebrill 2019 gan Alumni team

Syr Craig Oliver yw cyn-reolwr BBC Global a Chyn-gyfarwyddwr Cyfathrebu 10 Stryd Downing, ac mae bellach yn bennaeth ar gwmni ymgynghori Teneo.