Skip to main content

Cyswllt CaerdyddNewyddion

Lleoedd gwag ar gyfer dau Aelod Lleyg ar Gyngor y Brifysgol

30 Ebrill 2020

Ydych chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod â’r sgiliau a’r profiad i gefnogi Cyngor y Brifysgol? Mae Cadeirydd Cyngor y Brifysgol am benodi dau Aelod Lleyg newydd i’r Cyngor o 1 Awst. Dyma ragor o wybodaeth am y rolau gwirfoddol hyn a sut i wneud cais erbyn 18 Mai.

Y Cyngor yw corff llywodraethu’r Brifysgol. Y corff hwn sydd â’r gair olaf ynglŷn â phob mater sy’n effeithio ar y Brifysgol. Mae’r Brifysgol yn elusen gofrestredig a’r Cyngor yw Bwrdd Ymddiriedolwyr yr elusen. Mae’r Cyngor yn cwrdd bedair gwaith y flwyddyn: mae’r cyfarfodydd yn gymysgedd o gyfarfodydd tair awr safonol a digwyddiadau hyfforddi hirach. Nid yw Aelodau Lleyg y Cyngor yn cael eu talu, ond mae treuliau rhesymol yn daladwy yn unol â gofynion y rôl.

Yn ogystal â chael gwahoddiad i wneud cais ar gyfer y swyddi gwag hyn, gallwch hefyd gyflwyno enwau i Ysgrifennydd y Brifysgol eu hystyried drwy ebostio governance@caerdydd.ac.uk. Caiff yr holl enwau eu hanfon ymlaen at Perret Laver.

Bydd darpar Aelodau Lleyg o’r Cyngor yn cyfrannu profiad ac arbenigedd sylweddol a pherthnasol at y rôl er mwyn cyd-fynd â chryfderau presennol aelodau Cyngor y Brifysgol i gefnogi ein gweledigaeth a chynnal ein statws fel prifysgol o safon fyd-eang yng Nghymru.

Bydd gennych brofiad diamheuol o weithio’n effeithiol fel aelod o fwrdd, darparu her adeiladol a bod yn gyfathrebwr effeithiol, yn ogystal â meddu ar y gallu i wneud cyfraniad strategol sylweddol at drafodaethau’r Cyngor a’r Pwyllgor ac adeiladu perthnasoedd effeithiol. Er bod croeso i geisiadau gan bob ymgeisydd sydd ag arbenigedd a phrofiad perthnasol, mae gennym ddiddordeb arbennig mewn ymgeiswyr sydd â phrofiad a chefndir ym maes rheoli cyllid neu fuddsoddi. Byddai dealltwriaeth o’r cyd-destun addysg uwch a diddordeb yn y materion a’r cyfleoedd yn y sector yn ddefnyddiol.

I gael rhagor o wybodaeth am y rôl, lawrlwythwch y pecyn ymgeisydd yn www.perrettlaver.com/candidates, gan ddyfynnu’r cyfeirnod 4652.

Dyddiad cau: 17:00 Dydd Llun 18 Mai