Skip to main content

Cyswllt Caerdydd

Morloi o’r Gofod

28 Tachwedd 2019
Prem Gill (BSc 2017)

Gorweddai Svalbard, yr ynysfor Norwyaidd, yn ddwfn o fewn Cylch yr Arctig. Mae rhwng nodweddion rhewlifol ac eangderau lu o dwndra, ac mae ei ychydig oleuadau llachar yn cynrychioli terfyn gogleddol gwareiddiad.

Ar arfordir gorllewinol yr ynysoedd rhewedig gorweddai aneddiad bach Ny-Ålesund, cyn tref lofaol sydd bellach yn gartref i un o’r cymunedau gwyddonol fwyaf amrywiol ar y ddaear. Mae ymchwilwyr yno sy’n cynrychioli deg gwlad – ac ym mis Medi, cafodd y tîm eu hybu gan Prem Gill (BSc 2017).

Cynnal gwyddoniaeth o’r gofod

Ac yntau wedi graddio mewn Daearyddiaeth Forol, mae’r cadwraethwr pegynol yn gweithio i Gronfa Bywyd Gwyllt y Byd (WWF), Arolwg Antarctig Prydain (BAS) a’r Sefydliad Ymchwil Pegynol Scott i fapio poblogaethau anifeiliaid lleol. Roedd yn yr ardal yn paratoi ar gyfer taith i’r Antarctig.

“Roeddwn eisiau profiad o gynnal gwaith maes pegynol mewn rhanbarthau anhygyrch ac oeraidd”, meddai Prem. “Ond yn fwy na hynny, es i allan i Begwn y Gogledd i weld sut olwg oedd ar y sefyllfa yno.”

Mae ei waith yn canolbwyntio ar fonitro morloi ar hyn o bryd. Pam? “Wel, mae morloi yr Antarctig yn ddangosydd gwych ar gyfer iechyd yr ecosystem Antarctig,” eglurai Prem. “Nhw yw’r defnyddwyr mwyaf o gril Antarctig, sydd heb brinder ysglyfaethwyr. Mae’r cril eu hunain yn dibynnu’n helaeth ar iâ y môr.”

“Mae monitro cril yn anodd,” ychwanegodd. “Ond yn ystod y dydd, mae’r Morloi Antarctig yn ymlacio ar y rhew. Os gallwch eu holrhain nhw a’r newid yn eu poblogaeth gallwch i raddau ganfod helaethrwydd y cril, ac yn ei dro asesu newidiadau i’r rhanbarth pegynol.”

Mae Prem yn arwain prosiect o’r enw Morloi o’r Gofod – ac fel mae’r enw’n ei awgrymu, roedd ei daith i’r Arctig yn golygu newid sylweddol yn ei amgylchedd gweithio. Mae ei waith yn dibynnu’n helaeth ar ddelweddau lloeren o’i ganolfan yng Nghaergrawnt.

“Yn y bymtheg mlynedd ddiwethaf, mae data lloeren wedi cynyddu’n sylweddol: nid yn unig mewn argaeledd ond mewn cydraniad hefyd. Gallwch gael delweddau o unrhyw le yn y byd ar 30cm, sy’n golygu os byddech wedi gadael eich gliniadur allan yno byddai siawns dda o’i ddarganfod. Felly, fe welwch y morloi a hyd yn oed gwaed ar y rhew os oes un newydd roi genedigaeth.”

Mae’r broses o gyfrif poblogaethau morloi yn aml yn llafurus – ac yn rhywbeth mae Prem yn gobeithio ei awtomeiddio drwy ddefnyddio deallusrwydd artiffisial. “Os ydych yn treulio oriau yn mynd drwy lun o iâ môr a darganfod dim morloi o gwbl, mae’n un o’r prosesau mwyaf dirdynnol y gwyddom amdano.”

Newid canfyddiadau a chwalu rhwystrau

Felly, beth sy’n ei sbarduno? Tu hwnt i bwysigrwydd ei ymchwil, mae Prem yn angerddol dros ehangu mynediad i’r maes.

“Pan glywch y geiriau ‘fforiwr Antarctig’, efallai na fyddwch yn dychmygu person ifanc, brown,” meddai. “Efallai y byddwch yn dychmygu lluniau ffurf sepia o bobl gwyn, Fictoraidd. Roeddwn eisiau newid hynny. Er mwyn gallu dweud bod fforiwr, neu gadwraethwr, yn edrych yn debyg iawn i mi mewn gwirionedd.”

“Pan glywch y geiriau ‘fforiwr Antarctig’, efallai na fyddwch yn dychmygu person ifanc, brown,” meddai. “Efallai y byddwch yn dychmygu lluniau ffurf sepia o bobl gwyn, Fictoraidd. Roeddwn eisiau newid hynny. Er mwyn gallu dweud bod fforiwr, neu gadwraethwr, yn edrych yn debyg iawn i mi mewn gwirionedd.”

“Pan glywch y geiriau ‘fforiwr Antarctig’, efallai na fyddwch yn dychmygu person ifanc, brown,” meddai. “Efallai y byddwch yn dychmygu lluniau ffurf sepia o bobl gwyn, Fictoraidd. Roeddwn eisiau newid hynny. Er mwyn gallu dweud bod fforiwr, neu gadwraethwr, yn edrych yn debyg iawn i mi mewn gwirionedd.”

Ar ôl cwblhau ei radd israddedig ei hun ddim ond dwy flynedd yn ôl, mae Prem yn sefydlu interniaethau a chynlluniau cysgodi er mwyn i eraill gael ennill profiad uniongyrchol o’r maes. Bydd un lleoliad gwaith yn galluogi myfyriwr STEM israddedig o gefndir heb gynrychiolaeth ddigonol i’w ymuno ar y prosiect Morloi o’r Gofod.

Y caneri ym mhwll glo’r hinsawdd

Mae’n credu bod presenoldeb lleisiau perthnasol yn hanfodol er mwyn deffro’r byd i beryglon newid hinsawdd.

“Mae gan bobl fygythiadau uniongyrchol yn eu bywydau – i’w hincwm, i’w bywoliaeth, i beth bynnag o dan haul. Ond pwy sy’n codi ymwybyddiaeth o newid hinsawdd? Pwy yw’r bobl sy’n ceisio gwneud iddo ymddangos fel mater brys?” Mae’n grŵp penodol iawn.”

“Pan mae hynny’n wir,” dywedai Prem. “Mae’n debygol o fod yn naturiol i feddwl ei fod yn fater i rywun arall.”

Ac yntau wedi gweld effaith newid hinsawdd gyda’i lygaid ei hun, gwyddai ei fod yn fygythiad difrifol – ac yn un sy’n ennill tir yn ein hoes ni. “Mae’r rhanbarthau pegynol fel y caneri yn y pwll glo,” eglura. Yno mae’r effeithiau cyntaf o newid hinsawdd i’w gweld.”

Nid rhybudd yn unig yw toddi’r meysydd rhew. Eu rhan yn yr ecosystem fyd-eang yw i reoleiddio tymheredd y moroedd ar draws y byd, yn ogystal â chynnwys y dŵr a all arwain at gynnydd trychinebus mewn lefelau môr byd-eang.

“Roedd fy mhrofiad ym Mhegwn y Gogledd yn agoriad llygaid o ran faint mae’r tirwedd wedi newid.” meddai Prem. “Dywedwyd wrthym ‘chi’n gwybod, roedd rhewlif a oedd yn arfer ymestyn ar draws y fjord yma ddeng mlynedd yn ôl ac erbyn hyn mae’r holl ffordd draw fan yma’.”

Mae’n cyfaddef bod y profiad wedi bod yn agoriad llygaid.

“Hyd yn oed fel cadwraethwr hinsawdd, rwy’n cael trafferth gweld effaith newid hinsawdd yn y DU,” mae’n cyfaddef. “Ond os ewch i’r Arctig, nid yw’n raddol. Dim ond pan fydd y newidiadau yma yn dechrau cael effaith arnom y byddwn ni’n sylweddoli beth sy’n digwydd.”