Skip to main content

Cyswllt CaerdyddNewyddion

Sut y mae Ysgol Meddygaeth Caerdydd yn arloesi yn wyneb COVID-19

29 Mai 2020

Yr Athro Stephen Riley (MD 2003, MBBCh 1993) yw Pennaeth Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd ac mae’n gynfyfyriwr. Mae’n myfyrio ar lwyddiannau myfyrwyr meddygol blwyddyn olaf a chydweithwyr, a sut y mae COVID-19 yn newid y ffyrdd rydym yn dathlu, gweithio ac addysgu. 

Rydym yn byw mewn cyfnod rhyfedd. Mae’r pandemig COVID-19 yn effeithio ein bywydau ni i gyd, gyda chost bersonol yn cael ei deimlo gan lawer o amgylch y byd. Mae ein myfyrwyr meddygol blwyddyn olaf yn sicr wedi camu i mewn i’r frwydr yn erbyn y Coronafeirws gyda thosturi, proffesiynoldeb a pharodrwydd. Rwyf wedi derbyn nifer o negeseuon yn manylu eu cyfraniadau rhagorol at y ddarpariaeth gofal cleifion o amgylch Cymru. 

Bydd y profiad maent wedi ei ennill yn yr amodau gwaith digynsail hyn yn aros gyda nhw am weddill eu bywydau proffesiynol. Mae’r gyfadran wedi gweithio’n galed i allu graddio ein myfyrwyr yn gynnar, ac rydym yn falch nad ydym wedi gorfod cyfaddawdu ar ein safonau addysg rhagorol mewn unrhyw ffordd.

Wrth feddwl yn ôl am fy niwrnod graddio fy hun yng Nghaerdydd, rwy’n cofio sefyll ar y glaswellt tu allan Darlithfa 1, y lle’n wefreiddiol – hyd yn oed gyda grŵp blwyddyn tua hanner maint y garfan bresennol. Yn anffodus, mae cadw pellter cymdeithasol wedi effeithio’r diwrnod graddio traddodiadol rydym wedi arfer ag ef dros y blynyddoedd diwethaf. Rydym wedi dod yn effeithiol yn symud o brif adeiladau’r Brifysgol, gyda diodydd a chanapés, i Neuadd Dewi Sant ar gyfer y prif ddigwyddiad, wrth i ni groeso ein graddedigion i’r gymuned cynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd. 

Trwy lwc, rydym wedi gallu arloesi ac roeddem yn gallu cynnal ein ‘ffarwel’ rhithwir cyntaf i’n myfyrwyr blwyddyn olaf ar ddiwedd eu lleoliad clinigol olaf. Fe wnaeth cyfuniad o Zoom a chyfadran ymroddgar, gynhyrchu digwyddiad o fyfyrdod didwyll, llongyfarchiadau, balchder ac ychydig o gwestiynau cwis oedd yn cynnwys rhai cyflyrau eponymaidd oedd rhai ohonom wedi dewis anghofio! Ar ôl gwneud hyn unwaith, rydym yn meddwl pam na wnaethom hyn ynghynt! 

Rydym bellach yn edrych ymlaen at ddathliad rhithwir mwy ffurfiol ym mis Gorffennaf. Er ei bod yn siomedig nad ydym yn gallu dathlu wyneb yn wyneb, rydym yn edrych ymlaen at 2021 pan obeithiwn longyfarch ein myfyrwyr unwaith eto gyda seremoni raddio fwy traddodiadol.

Mae cyfraniadau sylweddol wedi bod ar draws yr Ysgol Meddygaeth at yr ymchwil, yr addysg a’r gofynion arloesi sydd wedi dod i’r amlwg gan yr argyfwng COVID. Mae arbenigedd cydweithwyr ar draws yr holl feysydd hyn wedi cael ei groesawu fel cyfraniad sylweddol i gynorthwyo’r GIG yng Nghymru i ddarparu gofal cleifion o ansawdd uchel. 

Rydym oll wedi dysgu sut i weithio yn wahanol ac nid oes unrhyw wahaniaeth yn y Brifysgol.  Wrth i ni gynllunio ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf, rydym yn ceisio dod o hyd i ffyrdd o weithio o fewn canllawiau’r llywodraeth, cefnogi lles staff a myfyrwyr, a darparu platfform lle allwn lansio gweithgareddau’r flwyddyn nesaf.

Dymuniadau gorau i chi a gobeithiaf y gallwch aros yn ddiogel yn ystod y cyfnod anodd hwn wrth i ni geisio lliniaru effeithiau’r feirws ar draws bob agwedd ar fywyd bob dydd.