Cafodd Emma Barlow (BA 2009) ei pharu ag Erin Shiels (Llenyddiaeth Saesneg 2023–) yn rhan o raglen mentora myfyrwyr eleni. Gwnaeth Emma ac Erin gysylltu’n gyflym ac arweiniodd yr hyn a ddechreuodd fel cyfres o sesiynau mentora ar-lein at interniaeth, gan roi cyfle i Erin gael profiad ymarferol.
Yn y rhifyn arbennig hwn o Bossing It - 'Flossing It', siaradon ni â rhai o’n cymuned wych o gyn-fyfyrwyr a rannodd eu profiadau o’u hamser yn astudio ar raglenni deintyddol ôl-graddedig Prifysgol Caerdydd.
Mae graddio yn garreg filltir enfawr, ond gall penderfynu beth yw’r camau nesaf i chi deimlo'n frawychus. P'un a ydych chi'n chwilio am eich swydd gyntaf ar ôl graddio, yn chwilio am gyfleoedd i rwydweithio neu'n dysgu am yr hyn y mae llwyddiant yn ei olygu i chi, dydych chi ddim ar eich pen eich hun.
Yn y byd proffesiynol heddiw, gall y pwysau i berfformio deimlo'n ddi-baid, ond ni ddylai llwyddo ddod ar draul eich lles. P'un a ydych chi'n dringo'r ysgol gorfforaethol neu'n ceisio dod o hyd i gydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith, mae dysgu sut i amddiffyn eich egni a'ch iechyd meddwl yn allweddol er mwyn i chi ffynnu - nid goroesi yn unig - yn y gwaith.
Wrth gystadlu â llawer o ymgeiswyr, gall sicrhau cyfweliad swydd deimlo fel tasg anodd. Yn ein crynodeb diweddaraf o gyngor i gyn-fyfyrwyr, gofynnwyd i'r arbenigwyr Jasper, Parves, Yvonne, a David am eu hawgrymiadau defnyddiol ar gyfer llunio cais cryf.
Awdur yw Emma Young (BSc 1996). Hi hefyd yw sefydlydd a Chyfarwyddwr Emma Young Consulting Ltd. Cymerodd Emma ran yn ein cynllun Menywod yn Mentora yn 2025, a oedd wedi paru 26 o fentoriaid â mentoreion ar ddechrau eu gyrfaoedd. Mae hi'n rhannu ei phrofiadau o fod yn fentor a'r cipolwg gwerthfawr a gafodd drwy gymryd rhan yn y rhaglen.
Mae Wythnos y Gwirfoddolwyr yn ddathliad blynyddol a gynhelir o ddydd Llun 2 Mehefin i ddydd Sul 8 Mehefin i gydnabod cyfraniad miliynau o bobl ledled y DU trwy wirfoddoli yn eu cymunedau.
Peiriannydd yw Joseph Rapoport (MA 1990) ac mae’n byw yn Houston, Texas. 18 mlynedd ar ôl gorffen ei radd meistr mewn Hanes ym Mhrifysgol Caerdydd, sefydlodd grŵp LinkedIn gan ddod â chyd-gyn-fyfyrwyr ynghyd yn yr Unol Daleithiau.
Mae Dr Deola Agbato (MBA 1997) yn gyn-fyfyriwr o Ysgol Busnes Caerdydd, gyda dros ddau ddegawd o brofiad ym maes bancio. Mae hi'n angerddol am ddatblygu a grymuso talent i wella cynaliadwyedd a thwf sefydliadau. Yma, mae hi’n rhannu ei syniadau ar sut i ddatblygu'n broffesiynol, hyd yn oed wrth ymdopi â gwahanol flaenoriaethau.
Aethoch chi i Brifysgol Caerdydd yn y 1960au? Ymunwch â'r cyn-fyfyriwr Steve Pritchard (BA 1965), Llyfrgellydd Emeritws yng Nghaerdydd, am daith ymdrochol trwy Undeb Myfyrwyr y 1960au.
Mae Cymdeithas y Cyn-fyfyrwyr (APS), a gafodd ei sefydlu ym 1889, wedi bod yn gymuned fywiog a gweithgar i gyn-fyfyrwyr o sefydliadau a ragflaenodd Prifysgol Caerdydd fel colegau ym Mhrifysgol Cymru, hyd heddiw.
Treuliodd Camille Stanley (BA 2019) haf yn astudio marchnata yng Nghanada. Bu’r profiad o gymorth iddi ddatblygu sgiliau mewn maes pwnc newydd, a’i pharatoi ar gyfer ei swydd bresennol yn gweithio dramor.
Croesawodd y cyn-fyfyriwr, Dr Mark Davies, (BEng 1994, PhD 1999), Cyfarwyddwr UK Power T&D yn RINA, un o’n myfyrwyr presennol, Harvy Davies (Peirianneg Drydanol ac Electronig 2024-) ar interniaeth yn para saith wythnos. Darllenwch sut roedd y lleoliad o fudd i bawb, a sut mae wedi rhoi hwb i hyder a CV Harvy.
Yr hydref hwn, mae Joseph, sy’n fyfyriwr gwleidyddiaeth, yn cymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd i gefnogi ymchwil hollbwysig ar ganser ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae Dr Chloe Cheung (PgDip 2023, Dermatoleg Ymarferol 2024-) yn Feddyg Gofal Sylfaenol sydd â diddordeb arbennig mewn dermatoleg. Mae wedi sefydlu elusen y Gymdeithas Rosacea Asiaidd gyda grŵp o weithwyr proffesiynol amlddisgyblaethol i helpu cleifion sydd wedi cael diagnosis anghywir, fel ei mam.
Gwyddonydd daearegol yw Ben Lepley (MESci 2008), ac mae’n arbenigwr amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethol yn y diwydiant mwyngloddio a mwynau. Yma, mae Ben yn chwalu rhai mythau ynghylch mwyngloddio ac yn dadlau'r achos dros ymuno â'r diwydiant, sy'n galw am ystod eang o sgiliau.
Mewn marchnad swyddi gystadleuol, gall proffil digidol rhagorol ddal sylw cyflogwyr. Ar gyfer ein crynodeb diweddaraf o gyngor i gyn-fyfyrwyr, gwnaethon ni ofyn i'r arbenigwyr digidol Sagnik, Rachel a Jessica am eu hawgrymiadau gorau ar gyfer mwyhau eich presenoldeb ar-lein.
Ym mis Hydref, yn hytrach na gwisgo ei got labordy yn ôl ei arfer, bydd yr Athro Duncan Baird yn rhoi ei fest rhedeg amdano ac yn rhoi cynnig ar redeg Hanner Marathon Caerdydd.
Nid yw dringo’r ysgol yrfaol yn rhywbeth rydych chi’n ei wneud ar eich pen eich hun – yn amlach na pheidio, mae llwyddiant yn digwydd drwy gydweithio a chyd-gefnogaeth.