Skip to main content
Alumni team

Alumni team


Postiadau blog diweddaraf

Rhedeg Hanner Marathon Caerdydd er mwyn cefnogi ymchwil iechyd meddwl yn ‘benderfyniad hawdd’.

Rhedeg Hanner Marathon Caerdydd er mwyn cefnogi ymchwil iechyd meddwl yn ‘benderfyniad hawdd’.

Postiwyd ar 26 Medi 2024 gan Alumni team

Mae Charley Bezuidenhout (Seicoleg 2022-) a Lizzy Braithwaite (Seicoleg 2022-) yn ffrindiau ac yn fyfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd. Maen nhw wedi penderfynu rhedeg Hanner Marathon Caerdydd 2024 gyda’i gilydd er mwyn cefnogi’r ymchwil iechyd meddwl a niwrowyddoniaeth hanfodol sy’n digwydd ar y campws.

Mentoriaeth gyrfa i gynnal interniaeth – profiad un cyn-fyfyriwr

Mentoriaeth gyrfa i gynnal interniaeth – profiad un cyn-fyfyriwr

Postiwyd ar 24 Medi 2024 gan Alumni team

Bu’r cyn-fyfyriwr, Peter Sueref, (BSc 2002), cyd-sylfaenydd a Phrif Swyddog Technoleg Empirisys, yn mentora’r myfyriwr Ritika Srivastava (MSc 2024) cyn cynnig interniaeth iddi.

Rhedeg Hanner Marathon Caerdydd i helpu teuluoedd fel fy un i

Rhedeg Hanner Marathon Caerdydd i helpu teuluoedd fel fy un i

Postiwyd ar 19 Medi 2024 gan Alumni team

Ym mis Hydref, bydd Isabel Irvine (BSc 2024) yn rhedeg Hanner Marathon Caerdydd i gefnogi ei mam, a gafodd ddiagnosis o ganser y llynedd. Hyd yma, mae hi wedi codi swm anhygoel o £1,100 er budd ymchwil canser Prifysgol Caerdydd yn y cyfnod cyn y ras.

Dychwelyd i redeg i gefnogi ymchwil hanfodol

Dychwelyd i redeg i gefnogi ymchwil hanfodol

Postiwyd ar 12 Medi 2024 gan Alumni team

Eleni, bydd un o’n cyn-fyfyrwyr Daniel Nicolas (MBA 2000) yn cymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd, i gefnogi ymchwil i niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl Prifysgol Caerdydd. Yma, mae'n sôn am ei gymhellion personol ar gyfer rhedeg Hanner Marathon Caerdydd, ei ras gyntaf ers y pandemig. 

Newid adfywiol mewn gyrfa – I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr

Newid adfywiol mewn gyrfa – I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr

Postiwyd ar 28 Awst 2024 gan Alumni team

Cyn iddi ailhyfforddi i fod yn gogydd, treuliodd Ceri Jones (BMus ​​2003) ddegawd yn adeiladu gyrfa yn y diwydiant cerddoriaeth. Yma, mae hi’n myfyrio ar ei phrofiad o gymryd y naid, ac i le mae ei hangerdd am goginio wedi mynd â hi hyd yn hyn.

Gyrfa llawn bwrlwm ym maes cysylltiadau cyhoeddus digidol – I Gyn-fyfyrwyr, Gan Gyn-fyfyrwyr

Gyrfa llawn bwrlwm ym maes cysylltiadau cyhoeddus digidol – I Gyn-fyfyrwyr, Gan Gyn-fyfyrwyr

Postiwyd ar 5 Gorffennaf 2024 gan Alumni team

Astudiodd Annabelle Earps (BA 2020) Newyddiaduraeth a Chyfathrebu ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae hi bellach yn gweithio ym maes cysylltiadau cyhoeddus digidol. Yn yr erthygl hon, mae'n trafod sut beth oedd dechrau gyrfa mewn tirwedd ddigidol sy'n newid.

Cefnogi niwroamrywiaeth yn y gweithle – Bossing It

Cefnogi niwroamrywiaeth yn y gweithle – Bossing It

Postiwyd ar 26 Mehefin 2024 gan Alumni team

Gall amgylchedd niwrogynhwysol roi'r cymorth sydd ei angen ar staff i lwyddo, gwella lles a chynhyrchiant a rhoi gwerthoedd cwmniau pwysig ar waith. Fe wnaethon ni ofyn i’n cyn-fyfyrwyr arbenigol am eu cyngor ar sut i rymuso a bod yn gynghreiriad i gydweithwyr niwroamrywiol yn eich gweithle.

Cwrdd â’r Ymchwilydd – Emma Weir

Cwrdd â’r Ymchwilydd – Emma Weir

Postiwyd ar 14 Mehefin 2024 gan Alumni team

Mae Emma Weir (Biowyddorau 2021-) ym mlwyddyn olaf ei PhD yn Sefydliad Arloesedd Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl Prifysgol Caerdydd, ac rwy’n ymchwilio i fecanweithiau anhwylderau niwroddatblygiadol megis Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD), awtistiaeth, a sgitsoffrenia.

Cerdded yr Wyddfa gyda’r nos er budd ymchwil sy’n newid bywydau

Cerdded yr Wyddfa gyda’r nos er budd ymchwil sy’n newid bywydau

Postiwyd ar 5 Mehefin 2024 gan Alumni team

Ym mis Gorffennaf, bydd Isabelle (Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol 2021-) yn mynd ar daith gyda’r nos i fyny'r Wyddfa yng nghwmni ei chyd-godwyr arian #TeamCardiff. Yma, mae Isabelle yn sôn am pam penderfynodd hi i gymryd rhan yn y sialens o gerdded copa uchaf Cymru.

Dathlu Wythnos y Gwirfoddolwyr 2024

Dathlu Wythnos y Gwirfoddolwyr 2024

Postiwyd ar 30 Mai 2024 gan Alumni team

Mae Wythnos Gwirfoddolwyr yn ddathliad blynyddol a gynhelir rhwng dydd Llun 3 Mehefin a dydd Sul 9 Mehefin eleni, gan gydnabod cyfraniad miliynau o bobl ledled y DU trwy wirfoddoli yn eu cymunedau. 

Fy mhrofiad o raglen Menywod yn Mentora – Natalie Atkinson (BSc 2018)

Fy mhrofiad o raglen Menywod yn Mentora – Natalie Atkinson (BSc 2018)

Postiwyd ar 29 Mai 2024 gan Alumni team

Cymerodd Natalie ran yng nghynllun Menywod yn Mentora 2024 a oedd wedi paru 24 o fentoriaid â 60 o fentoriaid. Cafodd ei pharu â Joanna Dougherty (BScEcon 2017) Cyfarwyddwr Gweithrediadau Byd-eang Profiad y Cleientiaid JLL ac mae'n rhannu ei phrofiadau o fod yn fentorai yn y rhaglen.

Fy mhrofiad o raglen Menywod yn Mentora – Joanna Dougherty (BScEcon 2017) 

Fy mhrofiad o raglen Menywod yn Mentora – Joanna Dougherty (BScEcon 2017) 

Postiwyd ar 29 Mai 2024 gan Alumni team

Cymerodd Joanna ran yn ein cynllun Menywod yn Mentora yn 2024 a oedd wedi paru 24 o fentoriaid â 60 o fentoreion. Cafodd ei pharu â Natalie Atkinson (BSc 2018) Rheolwr Cynorthwyol Cynllunio a Datblygu yn YTL Developments (UK) Ltd. ac mae’n rhannu ei phrofiadau o fod yn fentor ar y rhaglen.   

Talu’r cymorth ymlaen: Y cyn-fyfyriwr sy’n helpu merched ifanc i gael mynediad at addysg

Talu’r cymorth ymlaen: Y cyn-fyfyriwr sy’n helpu merched ifanc i gael mynediad at addysg

Postiwyd ar 1 Mai 2024 gan Alumni team

Yn 2023, enillodd yr entrepreneur Grace Munyiri (MSc 2023) Dyfarniad Menter Gymdeithasol Gavin Davidson. Mae'r dyfarniad, sy’n cael ei ariannu gan y cyn-fyfyriwr Gavin Davidson (MBA 1992), yn helpu myfyrwyr Prifysgol Caerdydd sy'n angerddol dros fynd i'r afael ag anghydraddoldeb a chreu newid cymdeithasol cadarnhaol.

Awgrymiadau gwych cyn dechrau eich prosiect creadigol – Bossing It

Awgrymiadau gwych cyn dechrau eich prosiect creadigol – Bossing It

Postiwyd ar 25 Ebrill 2024 gan Alumni team

Gall prosiectau creadigol ddysgu sgiliau newydd, agor drysau newydd a rhoi rhagor o amser gwerthfawr ichi ganolbwyntio ar eich diddordebau personol. P'un a ydych chi'n dymuno troi hobi’n yrfa neu ddod â syniadau'n fyw yn eich amser hamdden, gall ychydig o arweiniad eich rhoi ar ben eich ffordd. Gofynnon ni i rai o'n cyn-fyfyrwyr gwych sydd wedi gweithio ar ystod o brosiectau - o gylchgronau i bodlediadau - i rannu eu hawgrymiadau mwyaf defnyddiol.

Cerdded mynydd uchaf Cymru dros ymchwil canser

Cerdded mynydd uchaf Cymru dros ymchwil canser

Postiwyd ar 16 Ebrill 2024 gan Alumni team

Mae Bilal (Y Gyfraith 2023-) wedi penderfynu gosod her iddo ei hun – dringo’r Wyddfa gyda’r nos. Fel rhan o #TeamCardiff, bydd ei ymdrechion i godi arian yn cefnogi ymchwil ar ganser yma ym Mhrifysgol Caerdydd. Yma, mae'n esbonio beth sy’n ei ysgogi i ymuno â'r daith, a'i gyngor i eraill sydd am gefnogi ymchwil o’r fath sy'n newid bywydau.

Pennod newydd yn hanes Rygbi Prifysgol Caerdydd: rhannwch eich atgofion personol

Pennod newydd yn hanes Rygbi Prifysgol Caerdydd: rhannwch eich atgofion personol

Postiwyd ar 25 Mawrth 2024 gan Alumni team

Mae Chris Davies, sydd newydd ei benodi fel Pennaeth Rygbi, eisiau cysylltu chwaraewyr presennol â straeon a phrofiadau cyn-fyfyrwyr oedd yn chwaraewyr rygbi. Os gwnaethoch chi chwarae i unrhyw un o dimau rygbi Prifysgol Caerdydd (neu UCC, UWIST, UWCM), bydden ni wrth ein bodd yn clywed gennych.

Gwybod beth hoffech chi ei wneud ar ôl tyfu i fyny – Bossing It 

Gwybod beth hoffech chi ei wneud ar ôl tyfu i fyny – Bossing It 

Postiwyd ar 15 Mawrth 2024 gan Alumni team

‘Beth hoffech chi ei wneud ar ôl tyfu i fyny?’ Mae hwn yn gwestiwn a ofynnir yn aml i blant, ond tra bod rhai yn cyflawni dyheadau eu plentyndod, efallai bod eraill yn dal i chwilio am eu swydd ddelfrydol pan yn oedolyn ac ni ddylai hynny fod yn dabŵ! Cawsom sgwrs gyda rhai o'ncyn-fyfyrwyr anhygoel am y cwestiwn oesol hwn.

Datblygu triniaethau cynnar hanfodol ar gyfer canser y pancreas 

Datblygu triniaethau cynnar hanfodol ar gyfer canser y pancreas 

Postiwyd ar 4 Mawrth 2024 gan Alumni team

Ar hyn o bryd, dim ond 5% yw’r gyfradd oroesi (o ddeng mlynedd) ar gyfer y rheiny sy’n dioddef o ganser y pancreas. Gan mai anodd yw canfod y clefyd yn ei gamau cynnar, mae ymyrraeth yn aml yn dod yn rhy hwyr i nifer fawr o gleifion. Mae Josh D'Ambrogio (Y Biowyddorau 2021-) wedi bod wrthi’n astudio canser y pancreas yn ei gamau cynnar, er mwyn dod o hyd i ddulliau pellach a all ganfod y clefyd yn fwy cynnar, a strategaethau ar gyfer ei drin yn fwy effeithiol. 

“Roeddwn i’n argyhoeddedig na fyddwn i byth yn gallu rhedeg eto”: cymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd ar gyfer ymchwil canser

“Roeddwn i’n argyhoeddedig na fyddwn i byth yn gallu rhedeg eto”: cymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd ar gyfer ymchwil canser

Postiwyd ar 1 Mawrth 2024 gan Alumni team

Cyn-fyfyriwr ac aelod o staff Prifysgol Caerdydd yw Abyd Quinn-Aziz (MPhil 2012) sydd wedi bod yn rhedwr brwd ers ei ieuenctid. Yn dilyn rhai problemau iechyd, mae wedi dychwelyd i redeg yn ddiweddar ac mae wedi gosod her Hanner Marathon Caerdydd ym mis Hydref eleni. 

Prifysgol Caerdydd yn serennu mewn cyfresi teledu

Prifysgol Caerdydd yn serennu mewn cyfresi teledu

Postiwyd ar 22 Chwefror 2024 gan Alumni team

Ydych chi’n hoff o hel atgofion am Brifysgol Caerdydd? Ydych chi’n hoff o adnabod lleoliadau cyfarwydd ar y teledu? Rydym wedi llunio rhestr o gyfresi teledu sydd wedi eu ffilmio yn adeiladau'r campws ac o’u cwmpas.