Postiwyd ar 4 Mawrth 2024 gan Alumni team
Ar hyn o bryd, dim ond 5% yw’r gyfradd oroesi (o ddeng mlynedd) ar gyfer y rheiny sy’n dioddef o ganser y pancreas. Gan mai anodd yw canfod y clefyd yn ei gamau cynnar, mae ymyrraeth yn aml yn dod yn rhy hwyr i nifer fawr o gleifion. Mae Josh D'Ambrogio (Y Biowyddorau 2021-) wedi bod wrthi’n astudio canser y pancreas yn ei gamau cynnar, er mwyn dod o hyd i ddulliau pellach a all ganfod y clefyd yn fwy cynnar, a strategaethau ar gyfer ei drin yn fwy effeithiol.